Caerdydd: Pedwar yn cyfaddef cymryd rhan mewn terfysg

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Cafodd ceir eu rhoi ar d芒n a gwrthrychau eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn

Mae pedwar o bobl wedi cyfaddef i fygythiadau a throseddau difrod mewn anhrefn torfol yng Nghaerdydd y llynedd.

Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trel谩i ar 22 Mai ar 么l i hyd at 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.

Cafodd ceir eu rhoi ar d芒n a gwrthrychau, gan gynnwys t芒n gwyllt, eu taflu at yr heddlu.

Ymddangosodd naw person arall yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, ar 么l i 17 o bobl ymddangos ar gyhuddiadau ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Athena

Disgrifiad o'r llun, Plediodd Jayden a Morgan Williams yn euog i fygwth difrod troseddol

Plediodd efeilliaid 18 oed, Morgan a Jayden Williams, yn euog i fygwth difrod troseddol.

Roedd Morgan wedi bygwth llosgi鈥檙 orsaf heddlu leol, clywodd y llys, ac wedi bygwth dod o hyd i gartrefi swyddogion heddlu ac ymosod arnyn nhw.

Dywedodd: "Ar fedd fy mrawd, mae eich gorsaf heddlu yn mynd ar d芒n heno."

Roedd ei frawd Jayden wedi bygwth ffrwydro ceir yr heddlu yn y fan a鈥檙 lle.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechn茂aeth ddiamod ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Athena

Disgrifiad o'r llun, Mae Janine Refell wedi cyfaddef difrodi car heddlu

Plediodd Janine Refell, 53, o Drel谩i yn euog i ddifrodi car heddlu.

Yn ystod yr aflonyddwch fe chwalodd ffenestr gefn y car oedd wedi ei barcio mewn stryd gyfagos, clywodd y llys.

Cafodd ei rhyddhau ar fechn茂aeth ddiamod.

Mae McKenzie Pring, 19, a Lee Robinson, 37, y ddau o Gaerau, yn wynebu cyhuddiad o derfysg (riot).

Ni chafodd unrhyw ble ei chyflwyno ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd mamau Kyrees Sullivan a Harvey Evans yn y llys ar gyfer gwrandawiadau'r diffynyddion dan 18 oed ddydd Gwener

Yn ddiweddarach fe wnaeth wyth diffynnydd rhwng 15 ac 17 oed ymddangos yn y llys, ond nid oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol.

Fe wnaeth un bledio'n euog i achosi difrod troseddol, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechniaeth cyn ei wrandawiad dedfrydu ar 26 Tachwedd.

Fe wnaeth y saith arall bledio'n ddieuog, ac mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn ddechrau ar 16 Rhagfyr.