Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dysgu gan y M膩ori: 'Rhaid ymfalch茂o mwy mewn diwylliant Cymreig'
- Awdur, Bethan Bushell
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae myfyrwyr sydd wedi bod yn Seland Newydd yn dysgu am ddiwylliant M膩ori yn dweud bod angen i Gymru "ymfalch茂o yn ein diwylliant mwy".
Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o brosiect cyfnewid yn Seland Newydd, ac wedi rhannu eu profiadau o ddysgu am iaith a diwylliant y M膩ori gyda Cymru Fyw.
Dywedon nhw fod y profiad yn "fythgofiadwy", a'u bod wedi dysgu am y tebygrwydd annisgwyl rhwng ieithoedd a diwylliant Cymru a'r M膩ori.
Er hynny, dywedon nhw fod angen i'r Cymry ddysgu gwersi gan y M膩ori o ran hybu diwylliant Cymraeg.
Ym mis Medi, teithiodd 10 o fyfyriwr israddedig i Brifysgol Waikato i ddilyn cwrs Te Ao Hurihuri.
Mae'r cwrs ar gael i fyfyrwyr o gymunedau brodorol ac o wledydd sydd ag elfennau tebyg ynghylch iaith a diwylliant lleiafrifol.
Dywedodd un o'r rheiny fu ar y daith, Samia Yassine o Gaerdydd, mai un nod oedd dysgu pobl am "yr iaith a diwylliant Cymraeg a sut rydym ni'n ceisio ei adfywio".
Cyflawnwyd hyn yn rhannol trwy roi cyflwyniad i'r brifysgol ar ddiwylliant Cymru.
Penderfynon nhw siarad am Ddydd G诺yl Dewi, diwrnod Shwmae Su'mae, a ch芒n Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.
Yn ystod y daith fe wnaeth y myfyrwyr ddarganfod sawl tebygrwydd annisgwyl rhwng y ddau ddiwylliant.
"Ar y dechrau doedden ni ddim wedi sylweddoli faint o bethau oedd yn cydblethu rhyngon ni," meddai Ffion Jones o Aberteifi, un arall fu ar y daith.
"Un peth diddorol roedd gennym ni yn gyffredin oedd ein llafariad 鈥 ac mae lot o鈥檙 seiniau sydd gennym ni yn yr un peth.
"Rydyn ni'n dau yn defnyddio鈥檙 un sain am 鈥榝f鈥."
Roedd y myfyrwyr hefyd yn uniaethu 芒'r profiadau unigryw sy'n dod o fod yn ddwyieithog, yn enwedig y geiriau sy'n perthyn i rai ieithoedd yn unig.
"Fel hiraeth," meddai Ffion. "Mae gennym ni eiriau penodol sy鈥檔 bwysig i ni oherwydd does dim ffordd i'w cyfieithu.
"Roedd hynny'n wir am y M膩ori hefyd - roedd ganddyn nhw gyfarchion oedd yn amhosib i gyfieithu i ni."
Mae gan yr iaith Gymraeg a'r te reo M膩ori - iaith y M膩ori - yr un nod hefyd, sef cael miliwn o siaradwyr.
Yn 么l Samia: "Mae鈥檙 ddwy iaith wedi gweld adfywiad sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf trwy bolis茂au llywodraethol, addysg, ac ar lefel anffurfiol yn gymunedol.
"Mae ymdrechion tebyg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a k艒hanga reo (meithrinfeydd iaith M膩ori) yn dangos dulliau tebyg o geisio adnewyddu'r ieithoedd.
"Ac mae鈥檙 ddwy gymuned yn ystyried yr iaith yn greiddiol i鈥檞 hunaniaeth ddiwylliannol."
Roedd y myfyrwyr wedi gallu uniaethu hefyd 芒'r profiad o fod yn bobl ifanc sy'n siarad iaith leiafrifol.
Dywedodd Ffion: "O ran yr iaith 鈥 maen nhw yn union yr un peth 芒 ni - roedd yna gymysgedd o siaradwyr iaith gyntaf, ail iaith ac roedd rhai yn dysgu am y tro cyntaf.
"Mae strwythur ysgolion nhw yr un peth 芒 ni.
"Roedd cymaint o baralelau rhyngom ni 鈥 oedd e鈥檔 nuts."
'Rhaid i ni gyfathrebu ein diwylliant yn well'
Dywedodd y myfyrwyr fod yn rhaid i'r Cymry ddysgu gwersi gan y M膩ori ar sail hybu diwylliant Cymraeg.
"Mae rhaid i ni gyfathrebu ein diwylliant yn well i bobl ar draws Cymru 鈥 sicrhau fod eisteddfodau a phethau fel twmpath ar gael i bawb", meddai Ffion.
"Weithiau rydym ni fel pobl ifanc Cymraeg yn colli鈥檙 aspect ddiwylliannol yn ein bywydau.
"Ond mae'r M膩ori yn cadw hynny trwy gydol eu bywydau 鈥 trwy gerdd a dawns, ac wrth gwrs yr Haka.
"Mae ganddyn nhw fwy o falchder yn eu diwylliant 鈥 a dyna pam mae鈥檔 tryledu trwy genedlaethau ac ar draws yr holl gymdeithas."
Dywedodd y myfyrwyr bod cael y cyfle i brofi iaith a diwylliant y M膩ori, wedi rhoi gwerthfawrogiad cryfach o'u hiaith a diwylliant Cymraeg.
"Fe ddysgodd y daith i mi werthfawrogi鈥檔 ddyfnach fy mherthynas 芒鈥檙 Gymraeg," meddai Samia.