Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Sioe Frenhinol yn 'allweddol' i'r Gymraeg
Mae'r Sioe Frenhinol, sy'n cael ei chynnal yn flynyddol yn Llanelwedd, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei hymrwymiad i'r Gymraeg.
Mae鈥檙 Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth swyddogol sy'n cael ei gyflwyno i sefydliadau sydd wedi cydweithio 芒 swyddogion Comisiynydd y Gymraeg i gynllunio darpariaeth Gymraeg.
Er hyn, mae gan bobl ifanc farn gymysg ynghylch a yw鈥檙 Sioe yn rhoi sylw dyledus i鈥檙 Gymraeg yn ystod y digwyddiad blynyddol.
Dywedodd Prif Weithredwr y Sioe, Aled Rhys Jones fod y "Gymraeg yn rhan greiddiol" o'u gwaith.
Llynedd roedd 'na bryderon nad oedd bandiau Cymraeg wedi eu cynnwys yn narpariaeth y digwyddiad ieuenctid newydd yno.
I Esther Defis, 19, sy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan, mae mynd i'r sioe yn ddefod flynyddol.
Dywedodd ei bod yn mwynhau'r sioe gan ei fod yn "gyfle gwych i ffermwyr ifanc weld pa mor bell maen nhw'n gallu mynd gyda'u ffermio a gweld bod ffermio yn gallu bod yn rhywbeth cymdeithasol".
Er hyn, mae o'r farn nad oes digon o Gymraeg yna.
"Wrth fynd i'r sioe, chi'n gweld fod 'na Gymraeg ar gael, ond yn bendant does dim digon o Gymraeg yn cael ei defnyddio yna."
"Mae'r sioe i fod yn ddigwyddiad dwyieithog ond ar hyn o bryd ac yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Saesneg yn cael blaenoriaeth".
Dywedodd mai enghraifft o hyn oedd y dewis o fandiau Saesneg yn y Sioe y llynedd.
"Mae'n amlwg wrth edrych ar y gigiau sydd wedi bod, fod bandiau Cymraeg ddim yn cael cyfle hafal i ddangos eu doniau," meddai.
Y Gymraeg 'i'w gweld' yn y Sioe
Dywedodd Grug Angharad Evans, 21, o Ddyffryn Banw ei bod yn teimlo bod y Gymraeg "i'w gweld llawer gwell" yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "wych gweld cymaint o fandiau Cymraeg yn chwarae yn y Garddwriaeth a'r Bandstand" eleni gan nodi fod y Sioe wedi "gwrando ar gwynion y llynedd a cheisio hyrwyddo'r Gymraeg hyd yn oed yn fwy eleni."
Dywedodd pa mor "allweddol" yw amaethyddiaeth i'r Gymraeg gan nodi y "byddai鈥檙 iaith yn dirywio" on ibai am y cymunedau cefn gwlad.
A hithau wedi mynd i'r sioe yn flynyddol ers ei bod yn ei harddegau, dywedodd fod y "Gymraeg i'w chlywed yn gryf yno".
Roedd Ceridwen Edwards o Bentrellyncymer yn cytuno fod y Sioe yn "gweithio'n galed i adeiladu ar y defnydd o'r Gymraeg ar faes y sioe" er yn dweud fod 'na "bob amser le i wella".
Dywedodd ei bod yn "naturiol yn clywed llawer o Gymraeg yn y sioe" gan ei bod yn mynd i'r digwyddiad gyda'i ffrindiau sy'n medru'r Gymraeg.
Er hyn, dywedodd y byddai'n "ddiddorol gweld a fydd 'na ddatblygiad gyda hyn eleni' wrth gyfeirio at y diffyg bandiau Cymraeg oedd yn chwarae yn y Sioe y llynedd.
Dywedodd fod y Sioe yn "bwysig ymysg pobl o gefndir amaethyddol sy'n siarad Cymraeg ai peidio" gan ychwanegu ei fod yn gyfle i "fwynhau cystadlu a chymdeithasu".
Fe bwysleisiodd fod "gofalu am yr ardaloedd yma [gwledig Cymru] yn hollbwysig i sicrhau dyfodol i'r iaith".
Y gydnabyddiaeth yn 'gymorth'
Bydd y Sioe Frenhinol yn derbyn Y Cynnig Cymraeg, sef cydnabyddiaeth swyddogol gan Gomisiynydd y Gymraeg, am ei hymrwymiad i鈥檙 iaith.
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr y Sioe, ei fod yn hynod o falch o weld y Sioe yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.
"Gyda chanran uwch o weithwyr yn y sector amaethyddol yn medru鈥檙 Gymraeg nag unrhyw sector arall yng Nghymru... mae cysylltiad byw iawn rhwng bodolaeth a dyfodol y Gymraeg, a鈥檙 diwydiant amaeth."
Aeth ymlaen i ddweud fod y "Gymraeg yn greiddiol, nid yn unig i'n gwaith ni yma ar faes y Sioe Amaethyddol, ond ar lefel ehangach yng nghefn gwlad Cymru".
Dywedodd hefyd fod derbyn y gydnabyddiaeth yn "gymorth i ni hyrwyddo'r Gymraeg ymhellach".
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg fod y Cynnig yn "rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig drwy'r Gymraeg."
Aeth ymlaen i ddweud fod y "diwydiant amaethyddol yn rhan hanfodol o economi a diwylliant cymunedau gwledig Cymru, lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd".
Dywedodd fod "sicrhau ffyniant yr economi wledig ac amaethyddol yn hollbwysig er mwyn gweld twf yn y nifer sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.鈥