Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Etholiad Cymru 2016: Tai
Tai
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
- Diddymu'r dreth stamp ar eiddo sydd werth hyd at 拢250,000 i rai sy'n prynu am y tro cyntaf
- Gwarchod cynllun 'Hawl i Brynu' i denantiaid sydd eisiau prynu eu t欧 cyngor; ailgyflwyno'r gostyngiad llawn ac ailfuddsoddi'r enillion ar dai cymdeithasol newydd
- Creu strategaeth cartrefi gwag
- Cyflwyno cynllun 'Rhentu i Brynu' er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl fod yn berchen cartref.
Prif Addewidion:
- Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol
- Creu cynllun Rhentu i Feddu ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf
- Amddiffyn pobl fregus yn y sector tai preifat, gan gynnwys rhoi cap ar ffioedd asiantaethau gosod tai a'u hawl i gynyddu rhent
- Creu cynllun Cymorth i Rentu i gynnig cefnogaeth i dalu am flaendal tenantiaeth i'r rhai sydd dan 30 ac yn rhentu am y tro cyntaf.
Prif addewidion:
- Diddymu'r cynllun 'Hawl i Brynu'
- Ceisio cefnogi adeiladu dros 6,000 o dai drwy gynllun 'Cymorth i Brynu'
- Ariannu 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn y tymor nesaf
- Ymchwilio i'r opsiynau i roi diwedd ar 'fancio tir'.
Prif addewidion:
- Creu Fframwaith Ddatblygu Cenedlaethol a threfnu goruchwylio'i gweithredu gan Arolygiaeth
- Parhau i wrthwynebu'r cynllun 'Hawl i Brynu' a gweithredu er mwyn sicrhau fod y stoc cartrefi cymdeithasol yn parhau'n gyflawn i ddiwallu'r angen am gartref
- Dileu ff茂oedd asiantaethau rhentu ac ymestyn y prawf person-addas-a-phriodol i asiantaethau
- Codi safonau amgylcheddol.
Prif addewidion:
- Sicrhau bod tai cymunedol yn cyrraedd lefel 4 o'r C么d Cartrefi Cynaliadwy erbyn 2020
- Sicrhau bod 12,000 o dai newydd ar gael bob blwyddyn, yn y lleoliadau cywir
- Cyflwyno deddfwriaeth 'Hawl i Rentu' i gryfhau hawliau tenantiaid
- Cyflwyno ad-daliad treth ystafell wely yng Nghymru.
Prif addewidion:
- Annog datblygiad ar safleoedd ti llwyd
- Cynnig refferenda lleol rhwymedig ar geisiadau cynllunio sy'n cael effaith sylweddol ar gymunedau lleol
- Diddymu'r angen i awdurdodau lleol gadw lleiafswm o dai
- Rhyddhau safleoedd sy'n berchen i'r llywodraeth ac sydd heb eu defnyddio am gyfnod hir er mwyn galluogi datblygiadau fforddiadwy.