大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

18 June 2014
Accessibility help
Text only
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Lluniau
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Gogledd Ddwyrain Cymru

Albwm y 'Teulu'

Mae'r berthynas anarferol o agos rhwng y teulu â'r gweision yn cael ei ddangos gan nifer o bortreadau o'r staff, a gychwynnwyd yn y 18ed ganrif, gan barhau i mewn i'r 20ed.

Y Staff ym 1912, pob un yn dal ei 'fathodyn swydd'
© NTPL
Mae ffotograffau o'r staff i'w gweld ar hyd y coridor gwaelod - mae'r cynharaf o'r rhain yn ddaguerroteip (math cynnar o ffotograff) o 1852. Cafodd lluniau grwp eraill eu tynnu ym 1887 a 1912 ac mae pennill gan Philip Yorke II (1849 - 1922) yn cyd-fynd â bob un.

Yn Neuadd y Gweision ceir nifer o bortreadau o'r staff o'r 18ed ganrif. Mae yna bortreadau o staff mewn tai eraill o'r un cyfnod, ond mae'r rhain o 'unigolion pictwresg' yn hytrach na chofnod o'r cartref, fel yn Erddig. Mae'r gyfres yn dechrau gyda'r 'Negro Coachboy', fu'n gweini John Mellor yn gynnar yn y 18ed ganrif - cafodd penillion eu hychwanegu i'r llun gan Philip Yorke I hanner can mlynedd yn ddiweddarach.

Cafodd mwy o bortreadau o weision eu cynhyrchu nag o'r teulu Yorke eu hunain. Rhwng 1791 a 1796, cafodd chwech o staff Philip Yorke I eu paentio gan John Walters o Ddinbych, gan gynnwys, ymhlith eraill, y ciper, y forwyn a'r gôf. Cafodd tri phortread eu paentio ym 1830, gyda phenillion yn cael eu hychwanegu gan Simon Yorke II am y garddwr, y saer a'r gweithiwr coed.

Mae dau gofadail arfbais anarferol, yn cofnodi bwtleriaid fu'n gweithio am gyfnod sylweddol yn y 19ed ganrif hefyd yn cael eu harddangos yn Neuadd y Gweision.; câi arfbeisiau eu cadw'n arbennig i'r uchelwyr â'u arfbeisiau hwythau.

Fe barhaodd y berthynas cyflogwr/gwas tan y Rhyfekl Byd Cyntaf, ac er nad oedd yn unigryw, roedd er hynny'n anarferol yn y cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd. Mewn rhai plastai roedd y staff domestig yn cael ei drin yn reit wael. Mewn nifer o rai eraill roedd y gweision yn syml yn cael eu cymryd yn ganiataol.


Y Gerddi

Cafodd y parc ei dirlunio gan William Eames (1729-1803) rhwng 1768 - 1789. Mae'r ardd sydd â chlawdd o'i chwmpas yn Erddig yn un o'r rhai pwysicaf sy'n dal i oroesi o erddi'r 18ed ganrif ym Mhrydain a chafodd ei chynllunio o gwmpas camlas, ac ynddi ceir llawr Fictoraidd a llwybr ywen, yn ogystal â'r Casgliad Cenedlaethol o Iorwg. Yn yr ardd hon â chlawdd o'i chwmpas fe geir nifer o fathau hanesyddol o afalau, gellyg, eirin a bricyll yn tyfu ar hyd ei waliau, wedi eu labelu'n ofalus ag enwau tebyg i Bon Chrétien d'Hiver (gellyg o'r 15ed ganrif hwyr) a Edelsborsdorfer (afal o'r 16ed ganrif).Cynlluniodd Eames y 'Rhaeadr Cwpan a Soser' anarferol (1774), y gellir ei gweld yn yr ardd. Twll ynghanol disg fawr yw'r 'cwpan' - ac i hon mae nant yn llifo yn diflannu a chreu rhaeadr mewnol silindrig. Mae'r nant yn ymddangos ychydig lathenni i ffwrdd o dan fwa tebyg i bont.



Pages: Previous [ 1, 2, 3, 4 ] Next

Print this page
English
Interact
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.

Ewch i Ryngweithio >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Nottingham
The restored medieval tannery
Related Stories
Who keeps a freezer in the garden?
A 'round' house created by two 18th Century sun-worshippers!
Guernsey the home of 32 Methodist chapels!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy