大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

18 June 2014
Accessibility help
Text only
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Lluniau
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Gogledd Ddwyrain Cymru

Erddig yn yr 20ed Ganrif - Dinistrio ac Atgyweirio

Etifeddodd Simon Yorke (IV) yr ystâd ym 1922. Dyma ddechrau dirywiad graddol a gafodd ei gyflymu yn y '40au, o ganlyniad i gloddio yn unon o dan Erddig gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yng Nglofa Bersham, dechreuodd yr adeilad ymsuddo'n beryglus.

Etifeddodd Philip Yorke, Sgweier olaf Erddig, y ty ym 1966 ar ôl i'w frawd Simon farw. Roedd Philip eisoes yn 61 oed, ond penderfynodd gysegru ei amser i achub Erddig a'i gynnwys pwysig. Ar ôl ymdrechu i atgyweirio'r ty, penderfynodd Philip i roi'r ystâd a'i gynnwys i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Neuadd Erddig - y dwyrain o'r ochr arall i'r gamlas
© NTPL/Rupert Truman
Pan gymrodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol drosodd, roedd yr adeilad eisoes wedi ei niweidio'n go ddrwg gan ymsuddo ac roedd angen cryn atgyweirio arno. Dim ond yn rhannol mae golau trydan wedi ei gyflwyno, er mwyn diogelwch a chadwraeth.

Cododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol arian i atgyweirio ac adfer yr adeilad trwy werthu y rhan agosaf i Wrecsam fel safle adeiladu; gydag arian a dalwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol fel iawndal am y niwed a achoswyd gan y cloddio; a thrwy gefnogaeth aelodau'r ymddiriedolaeth genedlaethol. Y flwyddyn cyn i Philip Yorke farw, agorwyd Erddig i'r cyhoedd ar 27th Mehefin 1977, gan Dywysog Cymru.

Yn wahanol i dai ac ystadau mawrion eraill, mae parhâd y berchnogaeth yn ogystal â diddordeb sawl cenhedlaeth o deulu Yorke, wedi cofnodi hanes cymdeithasol Erddig gyda manylion anhygoel. Mae'r ymdeimlad o gymuned a gafodd ei gynhyrchu gan y teulu a'r staff wedi ei amlygu gan y casgliad o arteffactau, gan greu'r darlun mwyaf cyflawn p fywydau gweision o dan y grisiau a geir yn y DU.

Caiff Erddig ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gellir dod o hyd iddo 2 filltir i'r de o Wrecsam, a cheir arwyddion o'r A525 Whitchurch Road, neu'r A483/A5152. Mae'r ty ar agor rhwng Mis Mawrth a Mis Tachwedd, a'r Gerddi rhwng Mis Mawrth a Mis Rhagfyr. Teleffon: 01978 355314 os am fwy o fanylion am amserau agor a manylion pellach.


Pages: Previous [ 1, 2, 3, 4 ]

Print this page
English
Interact
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.

Ewch i Ryngweithio >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
South Yorkshire
An early engraving of the Templeborough Melting Shop.
Related Stories
Who keeps a freezer in the garden?
A 'round' house created by two 18th Century sun-worshippers!
Guernsey the home of 32 Methodist chapels!




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy