Mae’r clip hwn wedi ei gymryd o ffilm 8mm a dynnwyd gan Andy Bezera yn ei arddegau cynnar. Mae’n dangos digwyddiad yn ystod yr haf yn nhraddodiad y Kiermasz Pwylaidd – sydd yn fersiwn Bwylaidd o arddwest. Cynhaliwyd y rhain yn flynyddol, ac fe’u trefnwyd gan Gymdeithas Cyfeillion i godi arian i’r ysbyty.
Yn y ffilm fe welwch chi ymweliad gan Faer Wrecsam ar y pryd, a thua’r cychwyn, ambell lun tombola gyda staff yr ysbyty mewn gwisg draddodiadol.
Ymddangosodd y rhan fwyaf o’r plant o Benley yn y cwmnïau yn dawnsio’r Polonaise mewn gwisgoedd milwrol, ac mewn gwisg Krakowski draddodiadol ar gyfer y canu. Roedd yr arddangosfa athletau gan blant yr Ysgol Gyfochrol dros y ffordd, ym Mhenley.