大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Orllewin Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Orllewin Cymru
 Erthygl
Lluniau
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Cofgolofn Lewis Jones, sylfaenydd y Wladfa, Trelew, Patagonia
© 大象传媒
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia

Capel Anghydffurfiol Cymraeg
Ymfudo oedd yr ateb. Ond i ble? Yn America, roedd sawl ymgais i sefydlu gwladfeydd Cymreig wedi methu wrth i’r gwladfawyr gael eu cymhathu â’r cymdeithasau mwyafrifol yno. Byddai’r un peth yn wir am unrhywle yn yr Ymerodraeth Brydeinig.

Roedd Patagonia, serch hynny, yn ddigon pell i fwrdd – wyth mil o filltiroedd i fod yn fanwl – i osgoi unrhyw ymsefydlwyr Ewropeaidd eraill. Doedd hi ddim yn Brydeinig ac roedd Llywodraeth yr Ariannin yn fodlon gadael i ymsefydlwyr gael tir er mwyn cryfhau hawl y llywodraeth i’r ardal.

Y Wladfa: Croeso ar y paith

Michael D Jones, o’r Bala yng Ngogledd Cymru, fu’r Moses a arweiniodd – neu a anfonodd yn hytrach, am nad ymfudodd Jones ei hunan byth mewn gwirionedd – ei bobl i Wlad yr Addewid yn y Wladfa. Fel cenedlaetholwr Cymreig cynnar, hybodd yn frwd y weledigaeth o Gymru Gymraeg, anghydffurfiol, rydd ym Mhatagonia.

Roedd e’n gwybod bod arolygon Prydeinig wedi dynodi Patagonia yn anialwch na ellid byth cynnal pobl. Ond, gyda hunanfeddiant sbin ddoctor, lliwiodd ef a’i gyd ddelfrydwr Lewis Jones – a wnaeth ymfudo – dros y ffaith yma, a chyflwynon nhw ddelwedd llawer mwy deniadol i’r darpar ymfudwyr.

Erbyn Mai 1865, daethpwyd o hyd i ddigon o arloeswyr er mwyn i’r Mimosa hwylio. Y Bala oedd cartref y prosiect, ac mae’n cynnal dathliad bob blwyddyn - ‘Gŵyl y Glaniad’ – i nodi dyddiad glaniad cyntaf yr ymfudwyr ar 28ain Gorffennaf. Serch hynny, doedd y prosiect hwn ddim yn gyfyngedig i ardaloedd gwledig yn unig, gan fod llawer o’r arloeswyr wedi dod o ardaloedd diwydiannol newydd cymoedd De Cymru, a phan lanion nhw ym Mhorth Madryn, ar lannau’r Iwerydd yn yr Ariannin, gwelon nhw fod eu sgiliau, fel dynion rheilffyrdd neu lowyr, yn hollol ddiwerth yn yr anialwch.

Plac i gofio Michael D Jones, y Bala, Gogledd Cymru
Plac i gofio Michael D Jones. Mae’n darllen “Arloeswr - Rhyddid Cymru - Bu fyw yma ym Modiwan."
© 大象传媒
Prin y gwnaethon nhw oroesi. Bron â newynu ar adegau, cawson nhw eu hachub weithiau gan lywodraeth yr Ariannin. Ond dalion nhw ati a llwyddon nhw gartrefu yn nyffryn Chubut, lle torrodd afon sianel gul drwodd i’r anialwch o’r Andes. Penderfynodd yr ymfudwyr roi’r enw Camwy i’r afon.

Gan Grahame Davies


Tudalennau: [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
London
Crowds
Related Stories
Canolbarth Cymru Quakers
Devon Fishermen
Coventanting community in Carolina




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy