大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Orllewin Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Orllewin Cymru
 Erthygl
Lluniau
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia

Y Wladfa: Mae’r breuddwyd yn parhau ar ôl 150 o flynyddoedd

Ann-Marie a Fabio Lewis
© Trwy garedigrwydd Fabio ac Ann-Marie Lewis
Aeth Ann-Marie Brierly i’r Wladfa fel athrawes yn 2001. Un o’i disgyblion oedd Fabio Lewis, yr oedd ei hen dad-cu, Lewis Davies, wedi dod draw ar y Mimosa.

Yn fuan iawn, roedd perthynas Fabio â hen wlad ei dadau wedi cyrraedd lefel annisgwyl, a phriododd ef ac Ann-Marie yn ei phentref yn Ne Cymru yn Haf 2003.

“Tybed beth fyddai fy hen dad-cu a mam-gu wedi meddwl o wybod bod rhan fechan ohonyn nhw wedi dod yn ôl i Gymru i wneud cartref yma,” medd Fabio.

Nawr mae Fabio ac Ann-Marie yn trefnu teithiau yn y Wladfa ar gyfer y niferoedd cynyddol o bobl o Gymru sy’n gwneud y daith 8,000 o filltiroedd.

Gall yr ymwelwyr hynny deithio’r cymunedau ag enwau Cymreig fel Trelew, Trevelin, Puerto Madryn neu hyd yn oed bentref Fabio, Dolavon. Maen nhw’n gallu cerdded strydoedd wedi’u henwi ar ôl “Miguel de Jones” (Sbaeneg am enw’r sylfaenydd, Michael D Jones), a gweld cofgolofnau i sylfaenwyr y Wladfa.

Un o forwynion y blodau yn Eisteddfod Chubut, Hydref 2001
Un o forwynion y blodau yn Eisteddfod Chubut, Hydref 2001. Sylwch ar faner yr Ariannin yn y cefndir.
© 大象传媒
Gall ymwelwyr fynd i wasanaeth yn un o’r capeli Cymraeg, cael blas ar y te a’r bara brith yn un o’r tai te Cymraeg niferus, crwydro o gwmpas cylch yr Orsedd yn Gaiman, neu fynychu un o’r eisteddfodau niferus – bellach yn Sbaeneg ac yn Gymraeg – sy’n ffynnu o hyd.

Ac os ydyn nhw’n siarad ‘iaith y nefoedd’, gallen nhw dreulio amser gydag un o’r bobl helaeth sy’n siarad y Gymraeg o hyd yn y gornel hon o Dde America, lle profodd breuddwydion a chariad pobl at eu diwylliant a’u crefydd i fod yn drech nag anialwch.

Gan Grahame Davies


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ]


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Lothian
Gravestones in Sciennes House Place
Related Stories
Canolbarth Cymru Quakers
Devon Fishermen
Coventanting community in Carolina




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy