| |
|
|
|
| | | |
Twm Siôn Cati - Y Robin Hood Cymreig |
|
Cafodd y cartðnau hyn eu cynhyrchu gan y Western Mail i hybu’r gyfres gyhoeddon nhw yn y 1940au hwyr i’r 1950au cynnar. (Llun trwy garedigrwydd Yvonne Wigg) | Mae un stori enwog yn adrodd hanes Twm yn ymweld â haearnwerthwr yn Llanymddyfri er mwyn prynu potyn uwd. Daeth yr haearnwerthwr allan â nifer o botiau a chafodd Twm wybod, ar ôl holi am ansawdd a chost y potiau, na fyddai gwell i'w gael mewn cegin brenin. Daliodd Twm un o'r potiau i fyny at y golau a dywedodd y gallai weld twll ynddo. Daliodd yr haearnwerthwr y potyn i fyny i'w archwilio a dyma Twm yn rhoi'r pot am ei ben gan ddweud oni bai bod yna dwll ynddo sut allai pen mor fawr a gwirion gael ei ddal y tu fewn!
Yn aml fe guddiai oddi wrth Siryf Sir Gaerfyrddin ar lethrau coediog a charegog Mynydd Dinas, yn agos i bentref Rhandirmwyn, Sir Gaerfyrddin. Mae’r pentref wedi ei leoli wrth droed Mynyddoedd y Cambria, ac roedd y tiriogaeth creigiog a garw yn dir delfrydol i ladron.
Mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol mai ogof oedd cuddfan Twm, - ar y llethrau uwchben ceunant creigiog lle mae'r Tywi’n llifo'n beryglus o gyflym. Hyd heddiw mae’n weddol anodd lleoli'r ogof, ac mae'n dwyn y teitl 'Ogof Twm Siôn Cati'. Mae Mynydd Dinas erbyn hyn yn warchodfa RSPB, ac mae llwybr troed wedi ei nodi o gwmpas y mynydd gyda dargyfeiriad i ogof Twm.
Mae chwedl boblogaidd yn dweud bod Twm wedi priodi, trwy gynllun medrus, Joan, merch Syr John Price, o'r Priordy, Aberhonddu, ac fe'i hadnabyddid fel etifeddes Ystradffin. Mae’n debyg bod Twm yn ei saithdegau pan briododd, a bod Joan yn weddw gyfoethog i gyn Siryf Sir Gaerfyrddin, swydd a lenwodd Twm ar ôl y briodas, gan ddod wedyn yn ynad lleol hefyd.
Byddai'r eironi bod Twm wedi dod yn aelod o'r dosbarth llywodraethol roedd cynt wedi bod yn gwrthryfela'n ei erbyn, yn ychwanegu'r cyffyrddiadau olaf i stori nodweddiadol 'tlodi i gyfoeth', a'r dyddiau yma byddai hyn yn siwr o gael ei amlygu gan y cyfryngau fel arwydd sicr o ragrith a'i fod wedi troi ei gefn ar y bobl roedd unwaith wedi bod yn eu cynrychioli.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|