| |
|
|
|
| | | |
Twm Siôn Cati - Y Robin Hood Cymreig |
|
Cafodd nifer o straeon am ei fywyd - rhai yn fwy gwir na’i gilydd - eu casglu at ei gilydd gan yr hanesydd, Meyrick, yn ei 'History of Cardiganshire' 1810 ac fe gawson nhw'u datblygu ymhellach, yn fwy-fwy allan o'u cyd-destun gan W.F. Deacon, mewn sgetsh 'Twm John Catty, the Welsh Robin Hood', a gynhwyswyd yn yr 'Innkeeper’s Album', 1823, ac mewn drama gan yr un awdur, o dan y teitl 'The Welsh Rob Roy'. Cafodd anturiaethau Twm hefyd eu cynnwys yn yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel 'Y nofel Gymreig gyntaf yn Saesneg' - 'The Adventures and Vagaries of Twm Shon Cati' gan T. J. Llewelyn Pritchard yn 1828, oedd mor boblogaidd nes iddi gael ei lleidr-argraffu yng nghanol y 19eg ganrif.
Ar ôl ei anturiaethau dywedir i Twm ffoi i Geneva ym 1557, gan ddychwelyd ddwy flynedd yn ddiweddarach i dderbyn Pardwn Brenhinol ar y 15ed Ionawr, 1559, ac felly gael ei esgusodi am ei holl droseddau a'i weithgareddau troseddol. Tra'i fod yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf o haneswyr bod y storïau gaiff eu dweud am ei ieuenctid yn addurniadau ar orffennol oedd, mae'n sicr, yn cynnwys ysbeilio, mae'r dyn a'r chwedl yn rhannu ar ôl pardwn Twm ym 1559.
Roedd blynyddoedd olaf bywyd Jones wedi eu neilltuo i astudio hanes a llenyddiaeth Gymreig. Mae'n ymddangos iddo gael ei gyflogi gan y Prif Fonheddwyr Cymreig yn Sir Aberteifi i lunio'u hachresi neu goed teuluol. Roedd herodraeth yn wyddoniaeth nad oedd llawer o wybodaeth amdani ac fe'i hystyriwyd braidd yn ocwlt, yn aml yn golygu bod Jones yn cael ei ddisgrifio fel swynwr o fri. Byddai'r gallu i ymchwilio i, ac i gynhyrchu, achresi wedi ei roi mewn sefyllfa gref, gan bod achres yn ddogfen o gryn bwysigrwydd ar gyfer y teuluoedd hynny oedd eisiau profi eu treftadaeth a’u statws.
Mae nifer o'i weithiau ar herodraeth ac achresi teuluoedd wedi goroesi, gan gadw hanes manwl am deuluoedd Sir Aberteifi a ffurfio gyfraniad nodedig i hanes y Gymru Duduraidd yn gyffredinol. Cafodd nifer o'i weithiau barddonol eu cyhoeddi, ac mae copïau o’r rhain yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Brydeinig; ac fe ddywedir iddo fod yn bresennol a chael ei urddo mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llandaf ym 1564.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|