Main content

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y ´óÏó´«Ã½ wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam rydym yn gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae’r ´óÏó´«Ã½ yn rhoi cyfle i chi enwebu unigolyn neu grŵp ar gyfer y ‘Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth’, sy’n cydnabod arwyr tawel o bob cwr o’r DU.

Gallwch enwebu unigolion ar gyfer un o'r categorïau canlynol:

  • Gwobr Gwirfoddoli
  • Gwobr Arwr Ifanc
  • Gwobr Cymydog Arbennig
  • Gwobr Egnïol
  • Gwobr Anifeiliaid
  • Gwobr Werdd
  • Gwobr Codi Arian
  • Gwobr Grŵp Cymunedol (a gefnogir gan Morning Live)

Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn casglu'r data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y ´óÏó´«Ã½.

Gofynnwn i chi ofyn am ganiatâd gan eich enwebai cyn ei enwebu, gan roi gwybod iddo pa ddata personol rydych chi’n mynd i’w rannu â ni, ac anfon copi o’r hysbysiad preifatrwydd hwn ato.

Bydd pedwar (4) unigolyn neu grŵp yn cael eu dewis i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer pob categori. Byddwn yn cysylltu â’r rhai sydd ar y rhestr fer i gymryd rhan mewn cyfweliad darlledu, ac yn eu gwahodd i seremoni wobrwyo a fydd yn cael ei recordio lle bydd enillydd pob categori yn cael ei gyhoeddi.

Os bydd eich enwebai’n ymddangos ar yr awyr, gall hyn olygu bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’ch cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio cyfraniad yr enwebai at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y ´óÏó´«Ã½.

I gael gwybod sut bydd y ´óÏó´«Ã½ yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr .

Pa ddata personol fydd y ´óÏó´«Ã½ yn ei gasglu?

Mae dau fath o ddata personol, sef data personol a data categori arbennig. Mae data categori arbennig yn ddata personol hefyd, ond rhaid i’r ´óÏó´«Ã½ ddilyn camau cydymffurfio ychwanegol er mwyn prosesu data o’r fath.

Rhaid i chi fod dros 18 oed i enwebu rhywun ar gyfer y gwobrau.

Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:

  • Enw llawn
  • Oedran
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Eich perthynas â’r enwebai

Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol am eich enwebai:

  • Enw llawn
  • Oedran
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Y ddinas/tref/pentref agosaf sy’n ymwneud â’ch enwebiad

Os yw eich enwebai o dan 18 oed, bydd angen i ni hefyd gael caniatâd rhiant/gwarcheidwad. Yn yr achos hwn, byddwn yn gofyn am enw a rhif ffôn y rhiant/gwarcheidwad.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu data categori arbennig am eich enwebai, yn dibynnu ar gynnwys eich cyflwyniad i ni:

  • Data sy’n ymwneud ag iechyd
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Data am hil neu ethnigrwydd
  • Credoau crefyddol neu athronyddol

Archwiliadau ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol

Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn cynnal archwiliadau cefndirol ar y rhai sydd ar y rhestr fer, sy’n cynnwys archwiliadau sgrinio ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn defnyddio’r data personol sy’n cael ei brosesu fel rhan o archwiliadau cefndirol i wirio eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Mae’n bosibl na fydd gwybodaeth a ddaw i’r amlwg fel rhan o wiriad cefndirol yn eich gwahardd o’r gwobrau, ond gallai peidio â datgelu gwybodaeth o’r fath, a ganfyddir yn ddiweddarach, arwain at eich eithrio o’r gwobrau.

Pwy yw’r Rheolydd Data?

Y ´óÏó´«Ã½ yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r ´óÏó´«Ã½ fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y ´óÏó´«Ã½ gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, ac i ddangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol

Mae’r ffordd y mae’r ´óÏó´«Ã½ yn prosesu eich data personol a data categori arbennig wedi’i seilio’n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Yr amod ychwanegol y mae’r ´óÏó´«Ã½ yn ei ddefnyddio i brosesu eich data categori arbennig yw budd sylweddol i’r cyhoedd, sy’n seiliedig ar ddibenion statudol a dibenion y llywodraeth. Rôl y ´óÏó´«Ã½ yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae hyn yn cyd-fynd â dibenion cyhoeddus ehangach y ´óÏó´«Ã½ o dan ei Siarter Frenhinol sy’n datgan y “dylai’r ´óÏó´«Ã½ adlewyrchu amrywiaeth y Deyrnas Unedig yn ei allbwn a’i wasanaethau. Wrth wneud hyn, dylai'r ´óÏó´«Ã½ gynrychioli a phortreadu bywydau’r bobl sy'n byw yn y Deyrnas Unedig heddiw mewn modd dilys a chywir... Dylai’r ´óÏó´«Ã½ ddod â phobl at ei gilydd i rannu profiadau a helpu i gyfrannu at lesiant a chydlyniant cymdeithasol y Deyrnas Unedig.”

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol hefyd i brosesu data personol yr enillwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cystadleuaeth perthnasol.  

Mae’r ´óÏó´«Ã½ yn prosesu data personol at ddibenion archwiliadau ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol ar sail buddiant dilys. Mae diogelu ein Gwobrau ac enw da corfforaethol y ´óÏó´«Ã½ yn fuddiant dilys i’r ´óÏó´«Ã½. Rydym wedi ystyried yn ofalus beth yw’r effaith ar unigolion, ac ni fyddwn yn defnyddio'ch data personol pan fydd yr effaith yn fwy na’r buddiannau i ni. 

Rhannu eich data personol

Mae’r ´óÏó´«Ã½ yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y ´óÏó´«Ã½ y mae’r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol, ac nid yn annibynnol ar y ´óÏó´«Ã½.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Cedwir pob cyflwyniad am ddwy (2) flynedd ar ôl y dyddiad cyflwyno – at ddibenion rheoleiddio a chydymffurfio ar gyfer yr enillwyr a’r rhai sy’n dod yn ail, ac er mwyn gallu cysylltu â chi os yw eich straeon yn addas ar gyfer darllediadau eraill.Bydd cyfraniadau sy’n cael eu darlledu a/neu eu cyhoeddi yn cael eu cadw a’u harchifo am byth.Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Bydd cyfraniadau sy’n cael eu darlledu a/neu eu cyhoeddi yn cael eu cadw a’u harchifo am byth.


Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r ´óÏó´«Ã½ yn ei storio amdanoch chi.
  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
  • Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r ´óÏó´«Ã½ wrthod eich cais.
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.
  • Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y ´óÏó´«Ã½ yn www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r ´óÏó´«Ã½ wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.

Dolenni defnyddiol