Main content

Gair am y Gwobrau

Mae’r gwobrau hyn yn dathlu pobl, grwpiau ac anifeiliaid sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill drwy fynd yr ail filltir.

Gallwch enwebu drwy ein ffurflen ar-lein sy’n casglu gwybodaeth amdanoch chi a’ch enwebai.

Ar y ffurflen, rydyn ni’n gofyn am enwebiad 250 gair. Dim ond y geiriau hyn y bydd y beirniaid yn eu gweld, a nhw fydd yn penderfynu pwy fydd yn ennill gwobr yn y pen draw.

Dyma rywfaint o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu gyda’r broses.

  • Ysgrifennwch yn llafar a siaradwch o’r galon. Rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n gwneud y person, y gr诺p neu’r anifail hwn yn arbennig i chi.
  • Bydd beirniaid y rownd gyntaf yn seilio eu penderfyniad ar eich 250 gair chi yn unig, felly gwnewch i bob gair gyfrif a defnyddiwch gymaint o’r cyfrif geiriau â phosibl.
  • Meddyliwch am y pum cwestiwn sylfaenol wrth rannu eich cais gyda ni (Pwy, Beth, Pam, Ble a Sut).
  • Byddwch yn ddisgrifiadol a meddyliwch am yr holl synhwyrau i helpu’r beirniaid i weld, arogli, blasu a theimlo pa mor angerddol ydych chi dros berson, gr诺p neu anifail.
  • Os oes gennych chi amser, darllenwch eich 250 gair yn uchel cyn ei anfon. Os yw’n anodd ei ddweud, bydd hefyd yn anodd i’r beirniaid ei ddarllen.
  • Ni fydd y beirniaid yn clicio ar unrhyw ddolenni gwe. Mae ychwanegu’r manylion hyn yn defnyddio geiriau’n ddibwrpas, felly peidiwch â’u cynnwys.
  • Ni fydd y beirniaid yn marcio sillafu, atalnodi na gramadeg.

Cofiwch, yn unol â’n Telerau ac Amodau, rydyn ni’n chwilio am straeon sy’n mynd y tu hwnt i waith cyflogedig neu weithgareddau gwirfoddoli, os yw hynny’n berthnasol i’ch enwebiad. Cliciwch yma i weld ein hysbysiad preifatrwydd a rheolau’r gwobrau, sy’n cynnwys manylion cymhwysedd a’r broses feirniadu.