Main content

Rheolau'r Gwobrau

1. Mae Telerau Defnyddio’r ´óÏó´«Ã½ sy’n berthnasol i’r Wobr hon ar gael yn www.bbc.co.uk/terms. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, at ddibenion y Telerau Defnyddio, nid yw enwebiadau’n cael eu hystyried yn greadigaeth.

Pwy sy’n gymwys

2. Er mwyn enwebu rhywun, rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) ac yn 18 oed neu’n hÅ·n. Ni chewch fod yn gyflogai i’r ´óÏó´«Ã½ nac yn gyflogai i Grŵp y ´óÏó´«Ã½, yn gyflogai i unrhyw un o’i gwmnïau cysylltiedig, yn berthynas agos i unrhyw weithwyr o’r fath nac yn gysylltiedig â’r gystadleuaeth wobrau yn uniongyrchol na thrwy berthynas agos.

3. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r enwebai:

  • 3.1. wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill lle;
  • 3.1.1. nad yw hyn fel arfer yn rhan o’u swydd nac yn digwydd fel arfer yn eu man gwaith oni bai fod cymorth o’r fath yn mynd y tu hwnt i’w tasgau gwaith cyflogedig, ac os felly bydd angen esboniad gyda’ch enwebiad 250 gair (gweler cymal 6); neu
  • 3.1.2. mae Gwirfoddolwr yn mynd y tu hwnt i’w weithgareddau gwirfoddol ac, os felly, bydd angen esboniad o fewn eich enwebiad 250 gair (gweler cymal 6).
  • 3.2. haeddu Gwobr y ´óÏó´«Ã½ ym marn y sawl sy'n enwebu;
  • 3.3. peidio â dwyn anfri ar y ´óÏó´«Ã½ (yn ôl disgresiwn y ´óÏó´«Ã½ yn unig);
  • 3.4. bod wedi cydsynio i gael ei enwebu neu fod rhieni wedi cydsynio; a
  • 3.5. bod yn lleol i orsaf radio’r ´óÏó´«Ã½ sy’n cymryd rhan (gweler y ffurflen enwebu am y rhestr o orsafoedd sy’n cymryd rhan).

Gall ‘Gwirfoddolwr’ fod yn rhywun sy’n cael ei dalu am rywfaint o’i amser ond sydd hefyd yn dewis rhoi rhywfaint o’i amser heb dâl.

4. Rhesymau pam na fydd enwebiad yn gymwys:

  • 4.1. Allwch chi ddim enwebu eich hun na grŵp rydych chi’n rhan ohono.
  • 4.2. Nid yw’r rhai sy’n gweithio mewn swydd ymgyrchu, gwleidyddion, aelodau’r cyngor na llefarwyr elusennau yn gymwys i gael eu henwebu.
  • 4.3. Ni all enwebeion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer neu enillwyr Gwobr Gwneud Gwahaniaeth y ´óÏó´«Ã½ gael eu henwebu eto yn yr un categori gwobrau mewn blynyddoedd olynol.
  • 4.4. Ni ellir enwebu gweithwyr y ´óÏó´«Ã½ nac un o gwmnïau Grŵp y ´óÏó´«Ã½, cyflogeion unrhyw un o’i gwmnïau cysylltiedig, perthnasau agos gweithwyr o’r fath na rhai sy’n gysylltiedig â’r wobr yn uniongyrchol neu drwy berthynas agos.

5. Efallai y bydd angen dangos tystiolaeth o bwy ydych chi, eich oedran a’ch bod yn gymwys i gymryd rhan. Bydd yr enwebydd angen caniatâd yr enwebai, neu rieni/gwarcheidwaid yr enwebai os yw’r enwebai dan 18 oed.

Sut i enwebu

6. Gellir enwebu ar-lein yn . Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gellir beirniadu’r enwebiad ar gyfer un o’r categorïau isod. Bydd enwebiadau’n cael eu beirniadu ar sail yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen ar-lein a chyfweliad dilynol gyda’r enwebai. Dylai’r enwebiad hefyd fod ar gyfer ardal yr orsaf radio lle mae’r enwebai wedi ei leoli. Rhaid i enwebiadau gynnwys hyd at 250 gair, ond dim mwy na hynny. Os hoffech chi ysgrifennu’r enwebiad mewn iaith heblaw Saesneg, defnyddiwch yr un ffurflen ar-lein a byddwn yn defnyddio meddalwedd cyfieithu ar-lein i ddarllen eich cais. Bydd eich cais yn cael ei feirniadu ar sail y cyfieithiad hyd at y terfyn 250 gair yn unig.

7. Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses enwebu mor hygyrch â phosibl. Gan hynny, yn ogystal â chyflwyno eich enwebiad ysgrifenedig drwy ein ffurflen ar-lein, rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau sain a fideo a fydd yn cael eu trawsgrifio. Os byddai’n well gennych chi enwebu rhywun drwy ddefnyddio sain neu fideo, nodwch y canlynol:

  • 7.1. Dim ond cyflwyniadau yn Gymraeg, Saesneg, Gaeleg yr Alban neu Wyddeleg y gellir eu derbyn ar gyfer eu trawsgrifio o sain neu fideo;
  • 7.2. Ar gyfer y Gymraeg, Gaeleg yr Alban neu Wyddeleg, byddwn yn defnyddio trawsgrifio â llaw. Ar gyfer enwebiadau yn Saesneg, byddwn yn defnyddio meddalwedd sain i destun AI i helpu i drawsgrifio eich sain neu fideo. Bydd gan orsaf radio berthnasol y ´óÏó´«Ã½ fynediad at eich cyflwyniad sain neu fideo gwreiddiol i ddilysu’r trawsgrifiad; a
  • 7.3. Bydd y trawsgrifiad yn cael ei gyfyngu i 250 o eiriau at ddibenion beirniadu ac yn cael ei feirniadu ar sail y trawsgrifiad yn unig.

8. I gael rhagor o gymorth hygyrchedd, cysylltwch â’ch gorsaf radio ´óÏó´«Ã½.

9. Rydym yn eich annog i enwebu cynifer o unigolion teilwng ag y dymunwch. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr mai dim ond unwaith y byddwch chi’n enwebu’r un unigolyn ar gyfer pob categori. Os derbynnir mwy nag un enwebiad ar gyfer yr un unigolyn yn yr un categori gan un enwebydd, dim ond y cyflwyniad cyntaf fydd yn cael ei ystyried. Bydd unrhyw gais ychwanegol neu ddyblyg gan yr un enwebydd yn cael ei dynnu o’r gystadleuaeth.

10. Os bydd gorsaf yn derbyn mwy nag un enwebiad ar gyfer un enwebai, bydd penderfyniad golygyddol yn cael ei wneud ynghylch pa enwebiad fydd yn symud ymlaen i'r broses feirniadu.

11. Bydd enwebiadau yn agor am 6.30pm ddydd Llun 24 Chwefror 2025 ac mae’n rhaid iddynt gyrraedd erbyn 5pm ddydd Llun 31 Mawrth 2025 fan bellaf. Ni dderbynnir enwebiadau a fydd yn cyrraedd ar ôl yr amser hwnnw.

  • 11.1. Ar gyfer enwebiadau Ynysoedd y Sianel yn unig: Mae ´óÏó´«Ã½ Radio Jersey a ´óÏó´«Ã½ Radio Guernsey yn chwilio am un unigolyn neu grŵp i ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth 2025 fesul gorsaf radio. Gallwch enwebu ar gyfer unrhyw gategori drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ac nid oes newidiadau i’r gofynion ar gyfer pob categori.
  • 11.2. Ar gyfer Radio Nan Gaidheal yn unig: Mae Radio Nan Gaidheal yn chwilio am un unigolyn neu grŵp i ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth 2025. Gallwch enwebu ar gyfer unrhyw gategori drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ac nid oes newidiadau i’r gofynion ar gyfer pob categori.

12. Gall tîm y ´óÏó´«Ã½ gysylltu â’r enwebydd, yr enwebai, (ei riant neu warcheidwad, lle bo hynny’n berthnasol) i wirio ffeithiau a/neu ddigwyddiadau, ac a gafwyd y cydsyniad/caniatâd perthnasol. Gall y ´óÏó´«Ã½ rannu gwybodaeth enwebu (gan gynnwys enw’r enwebydd) a gyflwynir yn y 250 gair gydag enwebeion.

13. Ni chaniateir defnyddio offer cynhyrchu Deallusrwydd Artiffisial i greu neu ddatblygu unrhyw ran o enwebiad, a bydd hynny’n arwain at waharddiad.

Categorïau’r Gwobrau

14. Dyma’r categorïau a’r meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer enwebu ac ddefnyddir i ddewis yr enillwyr:

  • 14.1. Gwobr Wirfoddoli: Dyfernir i unigolyn sy’n gwneud gwahaniaeth nodedig yn y gymuned drwy roi o’i amser yn wirfoddol i helpu eraill.
  • 14.2. Gwobr Grŵp Cymunedol (a gefnogir gan Morning Live): Dyfernir i grŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl eraill yn eu cymuned.
  • 14.3. Gwobr Codi Arian: Dyfernir i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi mynd yr ail filltir i godi arian at achos da.
  • 14.4. Gwobr Arwr Ifanc: Dyfernir i rywun dan 16 oed sydd wedi cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
  • 14.5. Gwobr Cymydog Arbennig: Dyfernir i unigolyn sy’n helpu i wneud ei gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, naill ai’n rheolaidd neu drwy un weithred garedig.
  • 14.6. Gwobr Egnïol: Dyfernir i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio gweithgarwch corfforol neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau pobl yn eu cymuned.
  • 14.7. Gwobr Werdd: Dyfernir i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella neu’n gwarchod eu hamgylchedd lleol.
  • 14.8. Gwobr Anifeiliaid: Dyfernir naill ai i anifail rhyfeddol sy’n gwella bywydau pobl, neu i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella lles anifeiliaid.

Y Broses Feirniadu

15. Bydd y tîm Gwneud Gwahaniaeth yn didoli pob cais yn gyntaf cyn bydd rhestr hir yn cael ei rhoi i’r beirniaid.

16. Bydd panel o feirniaid allanol a chynrychiolwyr y ´óÏó´«Ã½ ar gyfer pob ardal gorsaf radio yn adolygu’r rhestr hir ac yn dewis rhestr fer o bedwar cystadleuydd o bob categori o blith yr enwebiadau yn y rhanbarth hwnnw.

17. Bydd y pedwar enwebai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael gwybod erbyn 19 Mehefin 2025. Bydd y ´óÏó´«Ã½ yn cysylltu â’r enwebeion hyn i drefnu cyfweliad na chaiff ei ddarlledu ynghylch cael eu henwebu ar gyfer y Gwobrau. Bydd manylion y cyfweliad yn cael eu trosglwyddo i’r panel beirniadu terfynol a byddant yn cael eu hystyried yn derfynol wrth ddewis enillydd. Os na fydd enwebai yn cwblhau’r cyfweliad hwn, mae’r ´óÏó´«Ã½ yn cadw’r hawl i dynnu’r enwebai allan o'r gystadleuaeth.

18. Bydd beirniad arall ym mhob rhanbarth ac ar gyfer pob categori yn dewis enillydd o blith y pedwar cystadleuydd yn y rhanbarth a’r categori hwnnw.

19. Ar gyfer Ynysoedd y Sianel a Radio Nan Gaidheal yn unig: Bydd yr enwebiadau o bob categori yn cael eu beirniadu gyda’i gilydd gan y panel beirniadu ar gyfer pob gorsaf a bydd enillydd cyffredinol ar gyfer Gwobr Gwneud Gwahaniaeth 2025 ar gyfer pob gorsaf radio yn cael ei ddewis, yn hytrach nag ar gyfer pob categori unigol. Nid yw’r cyfweliad â’r enwebai a amlinellir yng nghymal 17 uchod yn berthnasol i Ynysoedd y Sianel a Radio Nan Gaidheal.

20. Caiff y ´óÏó´«Ã½ gynnal cyfweliad darlledu ar wahân a/neu ffilmio enwebai ac enwebwyr ar gyfer fideos cyfryngau cymdeithasol. Sylwch, ni fydd y cyfweliadau fideo a sain hyn yn rhan o’r broses feirniadu ac maent at ddefnydd golygyddol a hyrwyddo’r ´óÏó´«Ã½ yn unig.

21. Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo go iawn neu i gymryd rhan mewn rhaglen radio neu deledu wobrwyo ar gyfer y rhanbarth lle cawsant eu henwebu yn 2025 lle bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi. Bydd y rhai sy'n cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo gorfforol yn gyfrifol am yr holl gostau teithio ac ni fydd y ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am unrhyw ffi, cost na thraul arall.

22. Mae penderfyniad y ´óÏó´«Ã½ o ran yr enillwyr yn derfynol. Er nad oes gennym yr adnoddau i ohebu â phob unigolyn ac na fydd adborth ar rinweddau cais penodol ar gael fel arfer, ein nod yw bod mor gynhwysol â phosibl. Os oes gennych chi gwestiynau neu os cewch chi unrhyw anhawster wrth gyflwyno neu lenwi’r ffurflen, rhowch wybod i ni drwy e-bost: makeadifference@bbc.co.uk

23. Bydd y seremonïau gwobrwyo yn cael eu recordio a bydd y sain a’r fideo yn cael eu golygu a’u defnyddio i’w darlledu ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

24. Bydd y wobr yn cynnwys tlws. Nid oes dim opsiwn ariannol yn lle’r wobr, ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Ni chaniateir gwneud unrhyw elw masnachol drwy ddefnyddio neu gyfeirio at frand y ´óÏó´«Ã½, y wobr ei hun nac unrhyw elfen arall o’r broses wobrwyo hon.

25. Mae'n rhaid i’r enwebeion a’r enwebwyr gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd cyn neu ar ôl y gwobrwyo os oes angen.

Cyffredinol

26. Gall tîm y Gwobrau gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer y rhai sy’n ymgeisio am y Gwobrau. Mae enwebwyr ac enwebeion yn gwarantu nad ydynt wedi gweithredu nac wedi peidio â gweithredu mewn ffordd a fydd yn dwyn anfri ar y ´óÏó´«Ã½. Bydd yr wybodaeth a ganfyddir neu a allai fod wedi ei datgelu gan yr ymgeiswyr eu hunain yn llywio'r penderfyniad o ran dewis y rhestr fer. Ni fydd enwebai yn cael ei wahardd yn awtomatig ond mae’r penderfyniad yn ôl disgresiwn y ´óÏó´«Ã½ yn unig. Caiff gwybodaeth ei rhannu â chynghorydd polisi golygyddol y ´óÏó´«Ã½ ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2025 a bydd yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac, fel pob data personol, yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd y ´óÏó´«Ã½.

27. Mae’r ´óÏó´«Ã½ yn cadw’r hawl i wneud y canlynol: (i) amrywio’r Rheolau hyn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amseroedd agor a chau’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau a’r seremonïau gwobrwyo; (ii) gwahardd unrhyw enwebiad sy’n torri’r rheolau, sy’n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sy’n dwyn anfri ar y ´óÏó´«Ã½; (iii) symud enwebeion i gategori arall os byddant yn gweld eu bod yn addas, neu beidio â dyfarnu gwobr os nad yw’r enwebiadau’n cyrraedd y safon ofynnol a (iv) canslo’r gwobrau, ar unrhyw adeg, os tybir bod angen gwneud hynny neu os cyfyd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w reolaeth.

28. Ni all y ´óÏó´«Ã½, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol, colli data drwy ddefnyddio llwyfan e-bost trydydd parti, diffyg nac unrhyw broblem arall a allai olygu nad yw enwebiad yn cael ei gofrestru'n briodol.

29. Tybir y bydd y sawl sy'n enwebu a'r enwebeion eu hunain wedi derbyn y rheolau hyn ac wedi cytuno i ymrwymo iddynt.

30. Hyrwyddwr y gwobrau yw’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (´óÏó´«Ã½) ac mae’r Rheolau hyn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

31. I’r graddau mae’n berthnasol, mae’r Gwobrau hyn yn cydymffurfio â .

32. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y ´óÏó´«Ã½ yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath yr oedd modd eu rhagweld, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled ariannol, niwed i enw da neu siom.

33. I gael gwybod sut byddwn yn defnyddio eich data personol, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd yma. Os ydych chi am dynnu eich cais yn ôl neu ofyn am i’ch data personol gael ei waredu, anfonwch e-bost at makeadifference@bbc.co.uk - i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd. Gall dileu eich data personol olygu eich bod yn tynnu’n ôl o’r Gwobrau.