Yr Urdd
Dathlwn Yr Urdd ar Cofio heddiw trwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. We celebrate the Urdd today on Cofio with a visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Estynnwch am eich gonc Mistar Urdd, piniwch eich bathodynnau a gobeithio y caiff neb gam gan y beirniad! Er bod wythnos Eisteddfod Yr Urdd yn edrych yn dra gwahanol eleni, rydyn ni, yma ar Cofio am hel atgofion gyda chi o'r 'steddfodau a fu, a chlodfori mudiad ieuenctid mwyaf Ewrop - Yr Urdd. Fe ddarlledwyd y rhaglen hon yn wreiddiol yn 2010, a werth ei chlywed eto!
Fe awn yn 么l i'r dechrau un a chlywn eiriau Syr O.M Edwards yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd,1918. Ymlaen wedyn i gyfraniadau gan Syr Ifan Ap Owen Edwards yn s么n am sefydlu鈥檙 Urdd yn 1922.
Eurfyl Jones sy'n s么n am wersyll cyntaf yr Urdd yn Llanuwchllyn n么l yn 1928, tra bod Nest Davies a Gari Nicholas yn rhannu atgofion o gystadlu pan yn ifanc.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 24 Mai 2020 14:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru
- Mer 27 Mai 2020 18:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru