Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cofio

Taith yn ôl i'r 60au drwy archif, atgof a chân, yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. This week, we're heading back to the Sixties!

Blynyddoedd cynhyrfus yr 1960 sy'n mynd a sylw John Hardy, ac ymhlith yr arlwy:

Siân Lightfoot, Gareth Oliver a Margaret Hughes yn cofio ffasiwn y cyfnod;
Trystan ab Ifan yn sgwrsio gyda'r diweddar Dr Tom Davies am sut roedd yn rhan o gynllun brechu yn erbyn y frech wen yn 1962;
Clwy’ a gipiodd fywydau 400,000 o anifeiliaid oedd y Traed a'r Genau. Mae James Thomas yn cyfweld â William Humphreys, ffermwr ar y Gororau, am y clwy’;
Mae pawb yn dweud eu bod yn cofio lle roedden nhw pan saethwyd yr Arlywydd Kennedy yn Dallas. Hywel Gwynfryn sy'n sgwrsio gyda Charlotte Davies, oedd yn athrawes yn Alabama pan glywodd am y llofruddiaeth;
Fe addawodd Kennedy y byddai'r Unol Daleithiau yn troedio ar wyneb y lleuad erbyn diwedd y 60au, a dyna'n union y digwyddodd. Richard Foxhall ac Ifor ap Glyn sy'n trafod.
Cofio gwrthryfel Prag yn 1968 gyda John Rowlands, a oedd yn byw yn y wlad ar y pryd;
Margaret Williams yn sgwrsio â Mair Robins o'r Diliau am eu perfformiadau a'u cerddoriaeth;
Ym myd y campau, Clive Rowlands, D Ken Jones a Brian Davies sy'n cofio Cymru v Lloegr yn 1963;
Heb anghofio rhai o ddatblygiadau gwleidyddol y cyfnod - darlith radio Saunders Lewis, Tynged Yr Iaith, ac ethol Gwynfor Evans yn 1966;
A chyfweliad gyda'r Parch Ifor Thomas Rees, yn cofio trychineb Aberfan ar Hydref 21 1966.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 3 Meh 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 31 Mai 2020 14:00
  • Mer 3 Meh 2020 18:00