Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Swyddi

Swyddi o bob math yw thema'r rhaglen archif yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Swyddi o bob math yw pwnc John Hardy wrth iddo chwilio drwy'r archif:

Mae鈥檙 Brodyr Gregory yn galw yn siop y gornel yn Llanelli ac yn cael hwyl efo'r perchennog, Lydia Evans, a'r cwsmeriaid i gyd;

Clywn Simon Evans a Natasha Doran-Jones, aelodau o鈥檙 heddlu arfog efo Heddlu Gogledd Cymru, yn dechrau eu shifft nos, sy鈥檔 mynd a nhw ar hyd a lled arfordir gogledd Cymru;

Mae Harri Parri yn holi Cathleen Hughes, Waunfawr, am fod yn fydwraig yn Llundain yn y 1920au, ac yna mae Dilwyn Morgan sy' ar y m么r efo Si么n Williams, sy'n bysgotwr llawn amser;

Tom Evans sy鈥檔 holi Dafydd Rees, Alltyblaca, Llanybydder am ei waith fel 鈥渃ooper鈥 sef yr hen grefft o wneud casgenni a鈥檙 budde ar gyfer gwneud menyn a chaws 'slawer dydd.

Sgwrs gyda Tecwyn Huxley o Lichfield, ond yn wreiddiol o Lanfairfechan, a fu'n gweithio fel taniwr ar y trenau st锚m ym Mangor yn y 1950au cyn symud i weithio ar y trenau ym Mirmingham;

Pwy oedd isho gweithio ar awyren pan oedden nhw'n iau? Mi ddaru Robin Aled hyfforddi i fod yn beilot, er ei fod wedi cael cyfnod distaw iawn trwy'r pandemig;

Mae Gwen Pugh, Dolgellau, yn s么n am fynd i weithio yn Llundain fel morwyn i鈥檙 byddigion. Fe aeth ar y tr锚n o Ddolgellau heb sicrwydd o waith, ond mi lwyddodd i gael swydd yn sydyn iawn yn Hampstead;

Ac mae'r rhestr swyddi yn gorffen efo'r dyn prysura yn Nhregaron, efallai - Huw Evans!

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 29 Medi 2021 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 26 Medi 2021 14:00
  • Mer 29 Medi 2021 21:00