Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Clawdd Offa

Crwydro Clawdd Offa drwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Dewch am dro ar hyd Clawdd Offa - cychwyn yn y gogledd ym Mhrestatyn a gorffen yn Sedbury yn ochrau Cas-gwent.

Mae Alun Wyn Bevan wedi sgwennu llyfr am Glawdd Offa yn y gyfres Cip ar Gymru ac mi fydd yn rhannu uchafbwyntiau'r daith gyda John Hardy.

Sgwrs gyda Rhys Jones ym Mhrestatyn, cyn symud i Ruthun ac ymlaen i gartref yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen.

Galw wedyn yng Nghastell y Waun yng nghwmni John Bwlchllan a Tom Ellis cyn ymweld 芒 swyddfa'r Cymro yng Nghroesoswallt.

W.R. Evans sydd ym mhentref Llanymynech - hanner yng Nghymru a'r hanner arall yn Lloegr!

Ysbaid fach yn nhref farchnad y Trallwng lle mae Dei Tomos yn ymweld ag Elwyn a Nest Davies, selogion a chymwynaswyr yr Urdd.

Ymlaen i'r Gelli Gandryll ac yna i lawr i glywed Dafydd Huw Williams yn s么n am y Rolls Royce. Roedd cartref teuluol Charles Rolls ym Mhlasty鈥檙 Hendre yn Llanoronwy Carn Cenhedlon tu allan i Drefynwy.

Cawn ymweld 芒 Chas-gwent yng nghwmni Sioned Davies wrth iddi s么n am chwedlau'r ardal, cyn gorffen y daith yn Sedbury - taith o 177 milltir.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 6 Hyd 2021 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 3 Hyd 2021 14:00
  • Mer 6 Hyd 2021 21:00