Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ieithoedd

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, Ieithoedd yw'r thema wrth i John Hardy bori'r archif. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Mae'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ac mae John Hardy yn mynd ar drywydd wahanol Ieithoedd y byd. Cawn glywed beth yw hoff eiriau rhai o wrandawyr Cofio yn yr iaith Gymraeg.

Dilys Williams, sef chwaer Waldo Williams, yn esbonio wrth James Thomas mae Saesneg oedd iaith yr aelwyd.

Mi ddechreuodd Cetra Coverdale Pearson ddysgu Cymraeg wedi iddi ddod ar wyliau yng Nghymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad. Mi aeth ati i gael gwersi ac mae bellach yn rhugl o fewn blwyddyn! Mae hyd yn oed yn blogio yn y Gymraeg!

Ieithoedd tramor oedd yn mynd a bryd Valmai Evans a Paul Barrett, ond pwysigrwydd gwrando a phwysigrwydd yr iaith lafar oedd gwers yr Athro Bedwyr Lewis Jones i ni gyd.

Bethan Gwanas yn sgwrsio gyda Begotxu Olaizola, athrawes mewn ysgol Fasgeg yn Oreo, am agweddau tuag at yr iaith Fasgeg.

Briallt Wyn o Orsgoch ger Llambed yn rhoi gwersi arwyddo ar y we a Digby Bevan yn s么n am bwysigrwydd dechrau siarad a defnyddio iaith wedi ichi ei dysgu.

Profiad rhai o鈥檙 menywod a dreuliodd amser yn y carchar wrth frwydro i gael hawliau i鈥檙 Gymraeg - y profiad o fynd i鈥檙 carchar am y tro cyntaf - Gwyneth Hunkin, Mari Wyn, Marged Tomos, Angharad Tomos a Meinir Ffransis.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 13 Hyd 2021 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 10 Hyd 2021 14:00
  • Mer 13 Hyd 2021 21:00