Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pentrefi

O Gapel Celyn i Bortmeirion, pentrefi sy'n cael sylw John Hardy wrth dwrio drwy archif Radio Cymru. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Archif, atgof a ch芒n ar thema pentrefi yng nghwmni John Hardy. Yn cynnwys cyn aelodau o bentre Capel Celyn yn cofio protestio yn erbyn cynlluniau ar gyfer argae Tryweryn, a Robin Llywelyn, rheolwr gyfarwyddwr y pentre Eidalaidd Portmeirion yn esbonio mai gweledigaeth a ffantasi ei daid, Syr Clough Williams-Ellis oedd y cyfan.

Hefyd ar y rhaglen;
Yr awdur T Llew Jones sy'n hel atgofion am Bentrecwrt, yn Nyffryn Teifi ble y magwyd.
Aled Hughes sy'n ymweld 芒'r dafarn gymunedol hynaf yn Ewrop sef Y Fic yn Llithfaen gan holi John Dilwyn Williams am hanes y pentre islaw, Nant Gwrtheyrn.
Y Ceff ydy enw tafarn pentre ffuglennol Rhydeglwys ac fel rhan o filfed pennod yr opera sebon 'Eileen' mae yna sawl cyfrinach yn cael ei ddatgelu;
John Hughes yn cofio ei ddyddiau ysgol ym mhentref Llangernyw yn Sir Conwy;
Ynyr Williams sy'n cyflwyno englyn am Drawsfynydd ar y Talwrn;
Dei Tomos sy'n holi aelodau C么r Llanbobman.
Hywel Davies a Megan German sy'n rhoi darlun o fywyd ym mhentre Carno yn yr 80au.
Ifana Savill sydd wedi trawsnewid ei chartref teuluol ym Mlaenpennal i fod yn set deledu a phentre gwyliau 'Sali Mali'.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 12 Chwef 2024 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Steve Eaves

    Pentref

    • Y dal yn dynn, y tynnu'n rhydd.
    • Sain (Recordiau) Cyf.
    • 1.
  • Sobin a'r Smaeliaid

    Plwy Llanllyfni

    • Sobin A'r Smaeliaid 1.
    • Sain.
    • 9.
  • Ray Gravell

    Fy Mhentre I

    • Tip Top.
    • Fflach.
  • Mabli

    Llangrannog

    • Fi yw Fi.
    • Recordiau Jigcal Records.
    • 3.
  • Mim Twm Llai

    Tafarn Yn Nolrhedyn

    • O'r Sbensh.
    • CRAI.
    • 7.
  • Daniel Lloyd

    Gadael Rhos

    • Tro Ar Fyd.
    • RASAL.
    • 2.
  • Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

    Pentref Wrth y Mor

    • Sain (Recordiau) Cyf.

Darllediadau

  • Sul 11 Chwef 2024 13:00
  • Llun 12 Chwef 2024 18:00