Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Leah Owen

Rhifyn arbennig o Cofio yn edrych yn ol ar fywyd a gyrfa y gantores, yr arweinydd a'r hyfforddwraig cerdd dant Leah Owen, a fu farw ym mis Ionawr 2024.

Yn y rhaglen cawn edrych yn 么l ar fywyd a gyrfa'r gantores o Rosmeirch, Ynys M么n, yng nghwmi ei ffrindiau, disgyblion, cyfoedion ag aelodau o'i theulu.

Clywir llais Leah yn darllen darnau o'i hunangofiant a ddarlledwyd ar Radio Cymru yn 2014, ynghyd a chlywed gan gyd-gystadleuydd iddi yn yr Eisteddfodau ar draws y gogledd, Cefin Roberts.

Un o'i disgyblion yn Parti'r Ynys, Nia Lloyd Jones yn hel atgofion am ei gwaith hyfforddi a'i dylanwad arni. Y canwr Steffan Rhys Hughes yn s么n am sut anogodd Leah iddo gystadlu yn yr Eisteddfodau bychain cyn mynd i'r Eisteddfodau mawrion.

Cawn glywed Leah Owen yn canu rhai o'i chaneuon mwyaf poblogaidd gan gynnwys 'Peth mawr ydy cariad' yn Neuadd y Penrhyn yn 1976 a 'Cyn Torri'r Cawg Aur', lle mae Leah yn canu deuawd gyda hi ei hunan!

Yn ogystal, mae Beti George yn ei holi am ei magwraeth wledig ym M么n a hanes ei theulu. Clywir hi yn s么n am hynodrwydd recordio rhai o'u recordiau cynnar.

Clywir hefyd gan aelodau o'i theulu adeg y buont yn cymryd rhan yn seremoni wobrwyo Medal Syr T.H. Parry Williams yn Eisteddfod Glynebwy yn 2010, lle gwobrwywyd Leah Owen am ei gwaith diflino ym maes cerddoriaeth a cherdd dant.

Mae'r rhaglen yn gorffen gyda Leah yn canu Hogan o F么n.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 19 Chwef 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Leah Owen

    Peth Mawr Ydi Cariad

  • Leah Owen

    Cyn Torri'r Cawg Aur

    • Leah Ar Ei Gorau.
    • SAIN.
    • 3.
  • Leah Owen

    Hogan o F么n

    • Leah Ar Ei Gorau.
    • SAIN.
    • 16.

Darllediadau

  • Sul 18 Chwef 2024 13:00
  • Llun 19 Chwef 2024 18:00