´óÏó´«Ã½ Cymru Wales - Teithiau Addysgol

´óÏó´«Ã½ Cymru , 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT

Camwch allan o’r ystafell ddosbarth ac i stiwdios teledu a radio mwyaf blaengar y ´óÏó´«Ã½. Mae ein teithiau gwobredig, y tu ôl i'r llenni, yn gysylltiedig â Chwricwlwm i Gymru, ac yn cynnwys popeth sydd eu hangen arnoch i ysbrydoli a chyffroi meddyliau ifanc.

Mae Teithiau’r ´óÏó´«Ã½ wedi cael gwobr aur gan Croeso Cymru a gwobr Travellers’ Choice gan Tripadvisor am ansawdd y teithiau.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i weld sut beth yw bod mewn canolfan ddarlledu, a sut rydyn ni’n gweithio yn y ´óÏó´«Ã½.

Ar eich ymweliad,Ìýbyddwch yn:

  • Mynd y tu ôl i’r llenni yn Sgwâr Canolog ´óÏó´«Ã½ Cymru.
  • Cael eich arwain gan dywyswyr gwybodus a chyfeillgar sy’n rhannu cyfrinachau a ffeithiau go anhysbys.
  • Ymweld ag un o’r ystafelloedd newyddion mwyaf yn y DU, sy’n llawn technoleg flaengar, gan gynnwys realiti estynedig, rhith-realiti a chamerâu robotig.
  • Cymryd cipolwg ar orielau teledu a chyfleusterau darlledu eraill.
  • Cael cynnig ar weithgareddau rhyngweithiol, gan gynnwys cwis llwybr Bitesize y ´óÏó´«Ã½, cyflwyno’r newyddion a’r tywydd, a sylwebaeth chwaraeon.

Cwricwlwm i Gymru:

Gall Teithiau'r ´óÏó´«Ã½ gynnig profiad cyfoethogi rhagorol i fyfyrwyr sy'n cefnogi'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Gall y teithiau helpu myfyrwyr i wneud y canlynol:

  • Datblygu uchelgeisiau gyrfa ar gyfer y dyfodol.
  • Herio eu syniadau eu hunain am y mathau o rolau a chyfleoedd sydd ar gael yn ´óÏó´«Ã½ Cymru.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol ac ystyrlon sy’n annog creadigrwydd, cyfathrebu a sgiliau cydweithio.
  • Deall yr angen am greadigrwydd ac arloesedd ym maes darlledu.
  • Dysgu mwy am rôl gymdeithasol darlledwr cyhoeddus ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
  • Profiad o ddatblygiadau technolegol mewn lleoliad gwaith ac ym maes darlledu ac allbwn digidol.

Cliciwch yma i weld teithiau addysgol drwy gyfrwng y Saesneg

Os oes gyda chi gais ar gyfer taith Gymraeg ar ddyddiad penodol, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda.

´óÏó´«Ã½ Cymru Wales - Educational Tours

Tour dates and times

Dyddiadau ac amseroedd y teithiau

Bob dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn ystod y tymor

10.30am, 12.30pm, 3pm

Gellir addasu pob taith i gyd-fynd â’ch anghenion a gall bara rhwng 45 a 90 munud. Gallwn hyd yn oed gynnig dwy daith 45 munud byrrach i ddarparu ar gyfer mwy o fyfyrwyr. I archebu, ac i gael rhagor o wybodaeth,Ìý. Am ymholiadau ffoniwch 029 2063 6464.Ìý

Prisiau Tocynnau

Tocynnau GRÅ´P - Myfyrwyr | Dan 26 (10 neu fwy)Ìý

£9.00

Mae un lle am ddim i oedolion yn cael ei roi i bob 10 myfyriwr, ac i’r rheini sy’n darparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr ADY.