´óÏó´«Ã½

MAE'R CYFLE HWN BELLACH AR GAU. BYDD YR ENILLWYR YN CAEL EU CADARNHAU YM MIS MEHEFIN 2024.

Beth yw Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y ´óÏó´«Ã½?

Mae’n gyfle i bobl ifanc adrodd yn ôl i’r ´óÏó´«Ã½.

Rydyn ni’n chwilio am straeon gwreiddiol am eu bywydau neu’r byd o’u cwmpas, neu’n ymwneud â phynciau a materion sy’n arbennig o bwysig i bobl ifanc.

Gall unrhyw un rhwng 11-18 oed ac sy'n byw yn y DU gymryd rhan.

Os yw’r syniad yn llwyddiannus, fe allai ymddangos ar deledu, radio, ar-lein neu ar gyfryngau cymdeithasol gyda chymorth newyddiadurwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr rhaglenni’r ´óÏó´«Ã½.

Pa fath o straeon ydyn ni’n chwilio amdanyn nhw?

Dim ond un categori stori sydd: Fi a Fy Myd

Gall syniadau ar gyfer adroddiadau fod yn stori bersonol - rhywbeth sy'n ymwneud â phrofiad teulu, ffrindiau neu gymuned - neu am fater neu brofiad sy'n arbennig o berthnasol i bobl ifanc.

Yn ddelfrydol, bydd y syniad am stori yn wreiddiol: rhywbeth nad yw wedi cael llawer o sylw o’r blaen, neu a all helpu i ddod ag ongl newydd ac unigryw i bwnc.

Dyma rai o’r cynigion buddugol o’r llynedd – cymer olwg i gael dy ysbrydoli a gweld y pynciau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol.

Darllena hefyd yr awgrymiadau ar sut i ysgrifennu syniad cryf ar waelod y dudalen hon.

Gall unigolyn neu grŵp o bobl ifanc gyflwyno ceisiadau.

Mae angen caniatâd rhiant/gwarcheidwad (neu athro) er mwyn ymgeisio.

Mae’r rheolau ar gyfer y gystadleuaeth yma.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd sy’n dweud wrthyt ti sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth am y cais yma.

Gelli di gystadlu yng Nghystadleuaeth Gohebydd Ifanc y ´óÏó´«Ã½ yn Gymraeg yma.

Poster pdf y gellir ei lawrlwytho gyda'r holl fanylion ar gyfer cystadlu yng Nghystadleuaeth Gohebydd Ifanc y ´óÏó´«Ã½ 2024.

Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y ´óÏó´«Ã½ 2024 - Poster i'w lawrlwytho
Back to top

Sut mae’n cael ei feirniadu?

Bydd y straeon mwyaf gwreiddiol a diddorol yn cael eu rhoi gerbron panel o gyflwynwyr, gohebwyr, uwch-olygyddion a chynhyrchwyr o raglenni a llwyfannau ar draws ´óÏó´«Ã½ News fel Newsbeat a Newsround, yn ogystal â ´óÏó´«Ã½ Sport, Radio 5 Live a The One Show.

Mae’r beirniaid yn cynnwys cyflwynwyr newyddion adnabyddus y ´óÏó´«Ã½ fel Naga Munchetty, Ashley John-Baptise ac Alex Jones o The One Show…

Bydd y broses o lunio rhestr fer a beirniadu yn cael ei gwneud mewn dau gategori oedran: 11-15 oed ac 16-18 oed.

Bydd pob stori sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael ei gwirio cyn y rownd beirniadu derfynol i wneud yn siŵr ei bod yn ffeithiol wir, yn gywir ac yn gadarn yn gyfreithiol - felly gwnewch yn siŵr bod eich un chi!

Bydd y straeon yn cael eu beirniadu ar werth golygyddol – mae hynny’n golygu cryfder stori, gwreiddioldeb, a’r stori bersonol neu’r cefndir sy’n sail iddi. Bydd y beirniaid yn chwilio am amrywiaeth o straeon amrywiol o bob cwr o’r DU.

Bydd enillwyr cenedlaethol a rhanbarthol felly mae digon o gyfleoedd i rannu syniadau am straeon o bob cwr o’r DU â chynulleidfaoedd ehangach y ´óÏó´«Ã½.

Ni fydd y straeon yn cael eu darlledu nes i’r holl waith beirniadu gael ei wneud, felly rhaid i dy syniad dal fod yn ddifyr ac yn berthnasol ar ôl mis Mehefin 2024.

Back to top

Awgrymiadau i bobl ifanc sy’n gwneud cais

Mae angen i ti ateb y cwestiwn canlynol: Pam wyt ti eisiau rhannu dy stori a pham rwyt ti’n meddwl ei bod yn ddiddorol i gynulleidfa ehangach? Mae hyn yn rhoi ychydig o gefndir i ni ynghylch pam rwyt ti'n meddwl y dylai’r ´óÏó´«Ã½ adrodd y stori hon a pham dy fod ti eisiau helpu i adrodd ar hyn.

Dylai’r cynigion egluro pam rwyt ti’n meddwl y bydd adrodd y stori neu’r mater yn dod â phersbectif unigryw iddo. Rydyn ni hefyd eisiau gwybod sut y byddet yn ehangu dy adroddiad i edrych ar y materion sy’n ymwneud â’r pwnc, nid dim ond dy brofiad di ohono.

Cofia nad oes raid i straeon newyddion fod yn negyddol. Efallai fod gen ti awgrym am stori amdana ti neu rywun rwyt ti’n ei adnabod sydd yn codi calon ac sydd wedi gwneud newid cadarnhaol i fywyd rhywun arall? Neu efallai fod rhywbeth ysbrydoledig yn digwydd dy gymuned leol y credi y byddai gan bobl eraill ddiddordeb mewn gwybod amdano ac y dylid adrodd amdano?

Gelli di gael rhagor o gyngor ar sut mae dod o hyd i straeon newyddion gyda dosbarthiadau meistri fideo newyddiaduraeth Gohebydd Ifanc y ´óÏó´«Ã½ yma.

Does dim angen adroddiad na stori orffenedig arnom, dim ond amlinelliad o dy awgrym am stori a gwybodaeth am y syniad. Felly paid â phoeni gormod am sut mae ysgrifennu neu recordio’r stori – byddwn yn dy helpu gyda hynny os fydd dy stori yn cael ei dewis fel enillydd!

I helpu i ysbrydoli a dangos yr amrywiaeth o bynciau gwahanol yr adroddwyd amdanynt yn flaenorol, gelli di weld holl straeon enillwyr Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y ´óÏó´«Ã½ 2023 yma.

Back to top

Rhai enillwyr blaenorol

Rhannodd Elen ei phrofiad o gael diagnosis alopesia a galwodd am fwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Galwodd Osian am fwy o gefnogaeth i glybiau pêl-droed lleol yng.

Adroddodd Jake, Elliot a Jed am eu hymgyrch ar gyfer parc sglefrfyrddio lleol ´óÏó´«Ã½ Cymru Wales.

Ben a Theo yn awyddus i ymchwilio i sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn gwaith ysgol, felly fe wnaethon ni ymuno â Hazel i gynhyrchu adroddiad. Mae’n darlledu ar ´óÏó´«Ã½ Breakfast, Radio 5 Live a phodlediad ‘Tech Life’ ´óÏó´«Ã½ World Service.

Mae adroddiad Angelica yn adlewyrchu’r effaith y gall tai gwael a gorlawn ei chael ar bobl ifanc ac mae’n ymddangos ar deledu, radio ac ar-lein ar ´óÏó´«Ã½ London.

Roedd David am ymchwilio i'r diffyg amrywiaeth ethnig mewn addysgu ysgolion cynradd – ysgrifennodd ei adroddiad a siarad amdano ar Radio 5 Live.

Cafodd stori Rose am Dyscalcwlia a'r anhawster wrth ymdrin â rhifau ei dangos ar ´óÏó´«Ã½ News a’r podlediad Access All.

Cynhyrchodd Jaipal adroddiad am drefniadau benthyg croth, rhywbeth y mae ei theulu wedi elwa arno, gyda ´óÏó´«Ã½ Midlands Today.

Cynhyrchwyd adroddiad Tegan am scoliosis gyda Newsround a chafodd ei gynnwys ar y teledu, ar y wefan ac ar .

Mae stori Ben, a gynhyrchwyd gyda ´óÏó´«Ã½ Sport, yn adlewyrchu’r realiti o fod yn brentis pêl-droed a’r effaith y gall hyn ei chael ar iechyd meddwl chwaraewyr.

Cynhyrchodd Neha adroddiad am ymgyrch i atal ailddatblygu rhandiroedd a mannau gwyrdd yn ei hardal leol.

Adroddodd Zoe am ei phrofiad personol o brofedigaeth a’r effaith y gall hyn ei chael ar sefyll arholiadau.

Tynnodd Hazel sylw at y diffyg amrywiaeth yng nghwricwlwm ysgolion yr Alban.

Roedd y dyfarnwr pêl-droed Ryan wedi sôn am sut mae chwaraewyr a gwylwyr yn ei gam-drin.

Roedd Morgan wedi sôn am y weithred o dynnu llun i fyny sgert rhywun heb eu caniatâd - neu 'upskirting’.

Rhannodd Shireen ei phrofiad o sut roedd y cyfyngiadau symud yn sgil coronafeirws wedi newid ei pherthynas â’i thad – mewn ffordd gadarnhaol!

Roedd Zoe wedi creu stori gyda ´óÏó´«Ã½ Breakfast a Newsround yn siarad am fywyd gyda chorachedd (dwarfism).

Mae Salma wrth ei bodd â phêl-droed ond doedd pawb ddim yn parchu ei hawl i chwarae. Fe gyflwynodd ei stori am oresgyn rhwystrau i ysbrydoli merched eraill i gymryd rhan yn y gamp.

Rhannodd Annabelle ei phrofiad o fynd drwy’r menopos yn ei harddegau.

Back to top