Diweddarwyd: 10 Ionawr 2023
Gallwch fewngofnodi ar y rhan fwyaf o setiau teledu er mwyn defnyddio 大象传媒 iPlayer neu 大象传媒 Sounds. Mae hyn i roi profiad mwy personol i chi, ac i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth i bawb. Mwy o wybodaeth yngl欧n 芒 pham rydyn ni'n gofyn i chi fewngofnodi.
Er mwyn mewngofnodi, yr unig beth sydd ei angen arnoch yw:
- Teledu gydag ap 大象传媒 iPlayer neu 大象传媒 Sounds wedi ei osod
- Eich ff么n, dyfais llechen neu gyfrifiadur.
- Cyfrif 大象传媒. Medrwch gael rhagor o wybodaeth am gyfrifon 大象传媒 yma.
Dilynwch y camau yma er mwyn mewngofnodi ar eich teledu
- Agorwch ap y 大象传媒 ar eich teledu.
- Dewiswch 鈥淢ewngofnodi鈥. Medrwch ddod o hyd i hwn yn Gosodiadau neu trwy ddewis yr eicon "Mewngofnodi" yn y fwydlen.
- Fe welwch dudalen gyda chyfarwyddiadau a cod. Bydd y cod yn 6 rhif o hyd.
- Nawr, ar eich ff么n, llechen neu gyfrifiadur, ewch i ymweld 芒
- Os nad ydych eisoes wedi mewngofnodi ar eich ff么n, llechen neu gyfrifiadur, fe holir i chi fewngofnodi i'ch cyfrif 大象传媒. Heb gyfrif 大象传媒 hyd yma? Cliciwch ar 鈥淐ofrestru鈥 yn hytrach na 鈥淢ewngofnodi鈥.
- Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi ar eich ff么n, llechen neu gyfrifiadur, byddwn yn holi i chi nodi'r cod a ddangosir ar eich teledu.
- Rhowch y cod sydd ar eich teledu, ac yna gwasgwch 鈥淐adarnhau鈥 ac yna arhoswch am ychydig i'ch teledu adnewyddu. Dim ond rhyw 10 eiliad ddylai hyn gymryd.
- Bydd eich teledu yn dweud wrthych pan fydd hyn wedi ei wneud. Medrwch wedyn osod eich ff么n, llechen neu gyfrifiadur o'r neilltu a mynd ati i wylio'r teledu.
Beth os na fydd y teledu yn gweithio?
Dyma ambell beth i'w gadarnhau:
- Gwnewch yn si诺r mai dim ond un person sy'n ceisio mewngofnodi gyda'r cod. Os bydd dau neu ragor o bobl yn ceisio defnyddio'r un cod, wnaiff e ddim gweithio.
- Mae pob cod yn unigryw ac yn dod i ben ar 么l 60 munud. Os yw wedi bod ar eich sgrin deledu ers mwy na 60 munud, bydd angen i chi wasgu "N么l" ac yna "Mewngofnodi" ar eich teledu er mwyn cael cod newydd.
- Dylai'r cod fod yn 6 rhif. Gwnewch yn si诺r nad yw'n hirach nac yn fyrrach.
- Os welwch chi neges yn dweud "Mae'n ddrwg gennym, mae rhywbeth o'i le ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen" sy'n golygu ein bod yn cael trafferthion technegol. Bydd angen i chi roi cynnig arall arni yn nes ymlaen.
Rwy'n cael trafferth gyda fy nghyfrif
Mynnwch gip ar y tudalennau canlynol er mwyn cael cymorth ar sut i gofrestru, sut mae mewngofnodi, a sut i ddiweddaru manylion eich cyfrif.
Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.