大象传媒

Llythrennedd ddigidolCyfryngau cymdeithasol a鈥檙 gyfraith

Mae llythrennedd ddigidol yn hanfodol yn ein cymdeithas ni heddiw. Ond rhaid hefyd ddeall manteision ac anfanteision cyfryngau cymdeithasol, i fusnesau ac i unigolion.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Cyfryngau cymdeithasol a鈥檙 gyfraith

Mae anfanteision eraill sy鈥檔 gysylltiedig 芒 defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac mae鈥檙 rhain yn ymwneud 芒 materion cyfreithiol, sef:

  • posibilrwydd o enllib
  • torri deddfau hawlfraint

Posibilrwydd o enllib

Mae achosion sydd wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau yn dangos cynnydd mewn achosion yn y Deyrnas Unedig.

O safbwynt cyfreithiol, mae difenwi yn digwydd pan fydd sylw neu bostiad ar-lein yn cael ei ystyried yn un sy鈥檔 pardduo enw da rhywun "yng ngolwg aelodau synhwyrol o鈥檙 gymdeithas". Gall hyn ddigwydd pan fydd unigolion yn wynebu "casineb, gwawd neu ddirmyg" o ganlyniad i sylw rhywun arall. Mae hyn yn cynnwys unrhyw sylw sy鈥檔 cael ei ailbostio. Os bydd y llys yn cael rhywun yn euog, bydd yn rhaid iddo dalu dirwy i鈥檙 dioddefwr. Y neges bwysig yw bod angen meddwl cyn postio unrhyw beth. Gall sylw rwyt ti鈥檔 ei anfon at ffrind gael ei ailbostio gan rywun arall.

Enghraifft bywyd go iawn un

Yn 2014, aeth yr awdur JK Rowling 芒鈥檙 Daily Mail i鈥檙 llys. Roedd hi'n honni bod y papur newydd wedi ei difenwi hi. Roedd hi鈥檔 dadlau nad oedd sylw gan y Daily Mail am ei phrofiadau hi fel mam sengl yn wir. Cyfaddefodd cyhoeddwr y papur fod yr honiadau yn 鈥済wbl anghywir ac na ellid eu cyfiawnhau鈥. Cyhoeddodd ymddiheuriad yn y papur a chytunodd i dalu iawndal i鈥檙 awdures.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Yn nhalaith New South Wales yn Awstralia, ysgrifennodd disgybl sylwadau am un o鈥檌 athrawon ar Twitter a Facebook. Penderfynodd llys barn fod ei sylwadau ar Twitter yn rhai difenwol a chafodd orchymyn i dalu iawndal o $105,000 AUD (dros 拢64,000) i鈥檙 athrawes. Dywedodd y barnwr fod y sylwadau wedi cael effaith ddifrifol ar yr athrawes boblogaidd.

Gwna鈥檔 si诺r dy fod yn gwybod beth yw鈥檙 gyfraith, a pha fath o sylwadau allai dy gael i helynt (Cynnwys Saesneg)

Deddfau hawlfraint

Hawl gyfreithiol yw hawlfraint. Mae鈥檔 rhoi hawliau unigryw i'r sawl sydd wedi creu gwaith gwreiddiol i ddosbarthu neu ailddefnyddio'r gwaith hwnnw.

Er hyn, mae mwy a mwy o bobl yn rhannu lluniau a fideos drwy eu postio ar y rhyngrwyd, ac mewn rhai achosion maent yn torri deddfau hawlfraint. Mae hyn oherwydd bod hawlfraint yn rhoi rheolaeth lwyr i鈥檙 perchennog dros gyhoeddi, dosbarthu ac addasu deunydd.

Gall deddfau hawlfraint ddiogelu darnau amrywiol o waith, er enghraifft:

  • gwaith ysgrifenedig
  • cerddoriaeth
  • clipiau ffilm 鈥 o ffilmiau mawr i rywbeth sy鈥檔 cael ei ffilmio ar ff么n symudol
  • delweddau, gan gynnwys logos, paentiadau a ffotograffau
  • gwefannau a thudalennau gwe

Yr unig adeg pan mae鈥檔 gyfreithlon i ti bostio rhywbeth ar-lein nad yw wedi cael ei greu gen ti, yw pan fyddi di wedi cael caniat芒d gan berchennog yr hawlfraint.

Bydda'n ymwybodol o beth sy鈥檔 ddiogel i ti ei roi ar y rhyngrwyd (Cynnwys Saesneg)