Cyfryngau cymdeithasol - hyrwyddo busnes
Mae defnyddio鈥檙 cyfryngau cymdeithasol yn ffordd rad i fusnesau hyrwyddo eu hunain a鈥檙 cynnyrch neu'r gwasanaethau maen nhw鈥檔 eu gwerthu.
Gallai busnesau:
- greu tudalen Facebook a phostio cynigion arbennig i bawb sy鈥檔 鈥榟offi鈥 eu tudalen
- creu eu sianel YouTube eu hunain ac ychwanegu fideos difyr neu addysgiadol
- cyhoeddi trydariadau diddorol neu anarferol amdanynt eu hunain a鈥檜 cynnyrch neu eu gwasanaethau
- anfon awgrymiadau ar Twitter yngl欧n 芒 sut i ddefnyddio eu cynnyrch neu eu gwasanaethau
- dilyn cwsmeriaid a phobl ddylanwadol, ee entrepreneuriaid, newyddiadurwyr, blogwyr ac enwogion
Enghraifft bywyd go iawn
Mae Xbox yn frand sy鈥檔 defnyddio鈥檙 cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.
Mae tudalen Twitter y brand yn cael ei diweddaru鈥檔 gyson gyda newyddion, hysbysebion a ffotograffau pwerus. Mae'r brand hefyd yn trydar negeseuon rheolaidd sy鈥檔 cynnig adnoddau i gwsmeriaid yn ogystal 芒 thrafodaethau ar bynciau cyffredin.
Yn ychwanegol at hyn, mae @XboxSupport yn gallu datrys problemau mewn ychydig funudau ar gyfer y bobl sy鈥檔 chwarae eu gemau. O ganlyniad, mae wedi cael ei gynnwys yn y Guinness World Records fel y brand mwyaf parod i ymateb ar Twitter. Mae gan Xbox dros 11.6 miliwn o ddilynwyr ac mae鈥檔 anfon dros 5,000 o ymatebion bob diwrnod.
Erbyn hyn mae llawer o gwmn茂au yn cydnabod pwysigrwydd gwneud defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol a sicrhau eu bod yn rhyngweithio ac yn ymateb i鈥檞 cwsmeriaid ar-lein.