Y broses hyrwyddo
Dylai busnesau ddilyn proses benodol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynnyrch.
Cam un - penderfynu beth yw nodau鈥檙 cwmni
Gallai鈥檙 nodau gynnwys codi ymwybyddiaeth o鈥檙 brand Y graddau y mae cwsmeriaid yn ymwybodol o briodweddau a delwedd math penodol o gynnyrch. a denu cwsmeriaid newydd.
Cam dau - gosod amcanion
Gosod targedau SMART sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 nodau.
Acronym yw SMART sy'n sefyll am y geiriau Saesneg a ganlyn:
- Specific (ee wyt ti wedi diffinio beth yn union yw dy nod?)
- Measurable (ee sut mae mesur a wyt ti wedi cyflawni鈥檙 nod?)
- Achievable (ee ydy'r nod o fewn cyrraedd?)
- Realistig (ee ydy hi wir yn bosibl i ti gyflawni鈥檙 nod?)
- Time bound (ee wyt ti wedi gosod cyfnod penodol o amser ar gyfer cyflawni鈥檙 nod?)
Y geiriau Cymraeg ar gyfer targedau SMART yw:
- Penodol (specific)
- Mesuradwy (measurable)
- Cytunedig (achievable)
- Realistig (realistic)
- Amserol (time bound)
Cam tri - targedu'r cwsmeriaid
Mae hyn yn golygu nodi pa gwsmeriaid penodol fydd yn cael eu targedu. Er enghraifft, beth yw oed, incwm, arferion a diddordebau鈥檙 gynulleidfa fydd yn cael ei thargedu, beth mae鈥檔 ei hoffi a beth nad yw鈥檔 ei hoffi?
Cam pedwar - ymchwilio i鈥檙 gystadleuaeth
Ymchwilio er mwyn cael gwybodaeth am gwmn茂au eraill sy鈥檔 cystadlu am gwsmeriaid. Pa gyfryngau cymdeithasol maen nhw鈥檔 eu defnyddio? Sut maen nhw鈥檔 eu defnyddio? Pa gynnwys maen nhw鈥檔 eu defnyddio? Faint o bobl sy鈥檔 hoffi, yn gwneud sylwadau ac yn rhannu eu cynnwys dros gyfnod penodol?
Cam pump - dewis y platfform gorau
Defnyddio鈥檙 wybodaeth sydd wedi cael ei chasglu am weithgareddau cwmn茂au eraill a鈥檙 gynulleidfa darged. Er enghraifft, os yw鈥檙 gynulleidfa darged yn defnyddio Facebook yn bennaf, a bod gan y cwmni sy鈥檔 cystadlu am gwsmeriaid cyfradd ymgysylltu Metrig sy鈥檔 mesur nifer y bobl sy鈥檔 hoffi, rhannu a gwneud sylwadau. uchel, yna mae鈥檔 debyg mai Facebook fydd y sianel fwyaf addas.
Cam chwech - penderfynu ar strategaeth
Cynllunio strategaeth cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu penderfynu ar y canlynol:
- y math o gynnwys fydd yn cael ei bostio
- amseriad y postiadau
- amlder y postiadau
Cam saith - cyllideb
Penderfynu ar gyllideb, a chyfrifo beth yw鈥檙 ffordd orau o鈥檌 gwario.
Cam wyth - creu t卯m
Dyrannu tasgau i aelodau鈥檙 t卯m, yna cychwyn ar y gwaith.