大象传媒

Meddwl yn feirniadol a datrys problemauLlyfryddiaeth

Er mwyn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil mae angen casglu gwybodaeth yn llwyddiannus. Mae holiaduron a chyfweliadau yn ffyrdd poblogaidd o gasglu gwybodaeth feintiol ac ansoddol.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Llyfryddiaeth

Bydd angen i ti gyfeirnodi gwaith drwy gynnwys llyfryddiaeth ar ddiwedd dy waith.

Mae llyfryddiaeth yn rhestru鈥檙 holl ffynonellau rwyt wedi eu defnyddio i gael syniadau neu i ddeall mwy am y pwnc dan sylw. Mae llyfryddiaeth hefyd yn cynnwys y ffynonellau sydd wedi cael eu cyfeirnodi鈥檔 uniongyrchol ym mhrif ran y gwaith.

Mae anodi llyfryddiaeth yn cael ei ystyried yn ymarfer da. Mae hyn yn golygu cynnwys disgrifiad byr o gynnwys ac ansawdd y ffynhonnell, a pha mor ddefnyddiol oedd hi.

Mae gwahanol ffyrdd o ysgrifennu cyfeirnod sydd i鈥檞 gynnwys mewn llyfryddiaeth. Mae鈥檙 enghreifftiau a ganlyn yn defnyddio dull poblogaidd, sef .

Ar gyfer llyfr sydd ag un awdur

Cyfenw, Llythyren flaen yr enw cyntaf. (Blwyddyn cyhoeddi). Teitl. Argraffiad (I'w nodi dim ond os nad yr argraffiad cyntaf ydyw). Dinas lle cyhoeddwyd: Gwasg, tudalennau.

Enghraifft (argraffiad cyntaf)

Parry, R.G. (2012). Cymru'r Gyfraith - Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tud.37.

Enghraifft (argraffiadau eraill)

Parry, R.G. (2012). Cymru'r Gyfraith - Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol. 3ydd argraff. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tud.37.

Ar gyfer llyfr sydd 芒 dau awdur neu ragor

Cyfenw, Llythyren flaen yr enw cyntaf a Cyfenw, Llythyren flaen yr enw cyntaf. (Blwyddyn cyhoeddi). Teitl. Argraffiad. Dinas: Gwasg, tudalennau.

Enghraifft

Reynolds, D., Bellin, W. a Ieuan, R. (2006). Mantais Gystadleuol - Pam Fod Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn Perfformio'n Well. Caerdydd: Sefydliad Materion Cymreig.

Ar gyfer erthygl mewn cyfnodolyn

Cyfenw, Llythyren flaen yr enw cyntaf. (Blwyddyn cyhoeddi). Teitl yr erthygl. Cyfnodolyn, Cyfrol (Cyhoeddiad), tudalennau.

Enghraifft

Davies, G. a Hughes, S. (2016). 'Peidiwch ag anghofio am gyfraniad pwysig y dyniaethau!' 鈥 Arolwg o Farn Darpar Athrawon am y Cwricwlwm Cymreig. Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education, Cyf. 18, Rh. 2, tt 62-80.

Ar gyfer erthygl newyddion o dudalen ar y we

Cyfenw, Llythyren flaen yr enw cyntaf. (Blwyddyn cyhoeddi). Teitl yr erthygl. Papur newydd, [ar-lein] tudalennau. Ar gael ar: url [Darllenwyd: Dydd Mis (wedi ei dalfyrru lle'n bosibl) Blwyddyn].

Enghraifft

大象传媒. (2017). Newid y Gyfnewidfa. 大象传媒, [ar-lein] Ar gael ar: http://http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38983582 [Darllenwyd 13 Maw. 2017].

Question

Tro鈥檙 wybodaeth a ganlyn yn gyfeirnod Harvard:

Argraffiad cyntaf llyfr o'r enw Visual Note-Taking for Educators: A Teacher鈥檚 Guide to Student Creativity gan Wendi Pillars (2016). Wedi ei gyhoeddi yn Llundain gan wasg Blackwell, tudalennau 57-59.

Question

Tro鈥檙 wybodaeth a ganlyn yn gyfeirnod Harvard:

Erthygl newyddion y 大象传媒 gan Steffan Messenger (2012). Darllenwyd ar 2 Chwefror 2017. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35463908. Pasio Mesur Amgylchedd newydd i Gymru.