Mathau o gwestiynau cyfweliad
Mae modd gofyn gwahanol fathau o gwestiynau mewn cyfweliad. Yn 1996, ysgrifennodd seicolegydd o Norwy o鈥檙 enw Steinar Kvale lyfr a oedd yn nodi naw gwahanol fath o gwestiwn.
Cwestiynau Kvale
- Cwestiynau cyflwyno, ee Wnei di ddweud rhywbeth wrthyf fi amdanat ti dy hun?
- Cwestiynau dilynol, ee Roeddet ti鈥檔 cyfeirio at dy athrawon yn dy ateb diwethaf. Alli di roi mwy o fanylion i mi yngl欧n 芒 phwy ydyn nhw?
- Cwestiynau treiddgar. Mae鈥檙 rhain yn cael eu defnyddio pan fydd angen gwybodaeth fanylach, ee Alli di roi rhagor o enghreifftiau o hyn?
- Cwestiynau penodol. Mae hyn yn golygu gofyn am wybodaeth ffeithiol, ee Faint o鈥檙 gloch wnest ti adael yr ysgol ddydd Mawrth?
- Cwestiynau uniongyrchol. Mae鈥檙 rhain yn gwestiynau sydd ag ateb pendant, megis ie neu nage.
- Cwestiynau anuniongyrchol. Y gwrthwyneb i gwestiynau uniongyrchol. Mae鈥檙 cyfwelydd eisiau clywed barn, ee Felly beth yw dy farn am wisg ysgol?
- Cwestiynau strwythurol. Mae鈥檙 rhain yn helpu鈥檙 cyfwelydd i symud ymlaen i adran nesaf y cyfweliad, ee Gawn ni fynd ymlaen at y cwestiwn olaf?
- Tawelwch. Pan mae seibiau tawel mewn cyfweliad, mae tuedd i鈥檙 cyfwelydd ddal i siarad. Fodd bynnag, dylai鈥檙 cyfwelydd geisio peidio 芒 llenwi鈥檙 saib dawel a gadael i鈥檙 cyfwelai siarad.
- Cwestiynau dehongli, ee Wyt ti鈥檔 golygu dylai gwisg ysgol gael ei gwisgo gan bob plentyn yn yr ysgol, gan gynnwys y rhai sydd yn y chweched dosbarth?
Mae defnyddio gwahanol fathau o gwestiynau yn effeithiol oherwydd mae鈥檔 ffordd o wneud yn si诺r bod gwybodaeth briodol yn cael ei chasglu yn ogystal 芒 chadw diddordeb y cyfwelai.
Cynnal cyfweliadau
Mae recordio, trawsgrifio a dadansoddi cyfweliadau yn broses hir fel arfer.
Recordio cyfweliadau
Mae ymchwilwyr yn gallu gwneud nodiadau neu recordio鈥檙 cyfweliad. Ond dylai鈥檙 ymchwilydd ofyn am ganiat芒d y cyfwelai os yw鈥檔 recordio鈥檙 cyfweliad.
Trawsgrifio cyfweliadau
Mae trawsgrifio yn golygu rhoi geiriau llafar mewn ffurf ysgrifenedig. Felly, gallai鈥檙 ymchwilydd drawsgrifio ei gyfweliad drwy deipio鈥檙 union eiriau gafodd eu dweud. Mae hyn yn gallu cymryd llawer iawn o amser. Er hyn, mae meddalwedd ar gael sy鈥檔 troi sain yn destun, ac mae hyn yn cyflymu tipyn ar y broses.
Dadansoddi cyfweliadau
Bydd y ffordd mae鈥檙 cyfweliad yn cael ei ddadansoddi yn dibynnu ar y fethodoleg a gafodd ei dewis.
Os yw ymchwilydd yn chwilio am wybodaeth ansoddol, efallai bydd yn darllen y trawsgrifiad drosodd a throsodd, gan geisio deall yr ystyr y tu 么l i鈥檙 hyn sy鈥檔 cael ei ddweud. Byddai hyn yn ei helpu i nodi'r them芒u cyffredin sy'n codi ar draws y cyfweliadau.
Fodd bynnag, os yw鈥檙 ymchwilydd yn chwilio am wybodaeth feintiol, efallai bydd yn cyfri sawl gwaith cafodd gair penodol ei ddweud er mwyn gwneud casgliadau, er enghraifft yngl欧n 芒 pha mor boblogaidd yw rhywbeth.