大象传媒

DisgrifioPortread o berson

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sydd yn disgrifio. Mae鈥檙 canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part of CymraegYsgrifennu

Portread o berson

Beth yw portread?

Mewn portread mae angen i ti ddisgrifio person yn fanwl. Mae angen i ti ddisgrifio edrychiad, personoliaeth, hanes a rhywbeth diddorol am y person, ee digwyddiadau neu ei waith. Mae angen i ti gynnwys nodweddion arddull amrywiol i wneud dy waith yn ddiddorol.

Iaith ac arddull portread

  • Mae angen i ti ysgrifennu yn y trydydd person, ee Mae e鈥檔 fachgen drwg/Mae hi鈥檔 ferch fywiog a brwdfrydig.
  • Mae angen i ti dreiglo鈥檔 feddal ar 么l 'ei' gwrywaidd, ee ei ben moel, ei goesau cadarn.
  • Mae angen i ti dreiglo鈥檔 llaes ar 么l 'ei' benywaidd, ee ei chyhyrau mawrion, ei chefn crwm.
  • Mae angen i ti dreiglo鈥檔 feddal ar 么l yr arddodiad gan 鈥 mae ganddo wallt, mae ganddi drwyn.

Question

Newidia'r brawddegau isod o鈥檙 person cyntaf i鈥檙 trydydd person.

Mae gen i wallt byr a syth.

Rydw i鈥檔 swnllyd.

Dydw i ddim yn ofni dangos fy nheimladau.

Mae gen i deulu cefnogol.

Does gen i ddim un blewyn ar fy mhen.

Bydd nodweddion arddull fel y rhai hyn yn gwneud dy waith yn ddiddorol.

Ansoddeiriau

  • Llygaid 鈥 disglair, drygionus, hapus, llwyd, cyfrwys
  • Gwallt 鈥 anniben, tywyll, golau, syth, seimllyd
  • Personoliaeth 鈥 amyneddgar, direidus, pryfoclyd, gweithgar, hapus, caredig

Cymariaethau

  • Gwallt bl锚r fel gwrych.
  • Corff esgyrnog fel sgerbwd.
  • Llygaid fel dwy farblen sgleiniog.

Trosiadau

  • Tas wair yn gorffwys ar ei ben.

Personoli

  • Gwallt yn dawnsio yn y gwynt wrth iddo redeg drwy鈥檙 stryd.

Cofia roi trefn ar dy waith drwy ei strwythuro yn ofalus:

  • paragraff cychwynnol
  • darlun - hanesion diddorol, personoliaeth, arferion
  • pryd a gwedd - llygaid, wyneb, gwallt, corff, dillad
  • pam fod y person yma yn arbennig?

Enghraifft

Roedd Gareth yn fachgen digon plaen. Roedd ganddo lygaid llwyd bychain ac roedd ei wallt byr tywyll yn daclus bob amser. Roedd yn mynd i eistedd ar yr un fainc yn y parc bob dydd i fwyta ei ginio gan anwybyddu pawb oedd o鈥檌 gwmpas. Doedd neb am geisio cynnal sgwrs ag ef. Er ei fod yn fachgen caredig roedd rhywbeth yn od amdano.

Nawr darllena'r portread byr eto...

Heb os, bachgen digon plaen oedd Gareth. Roedd ganddo lygaid llwyd bychain fel botymau ar grys ac roedd ei wallt byr tywyll yn eistedd yn daclus ar ei ben. Yn ddi-ffael, roedd Gareth yn ymlwybro at yr un fainc i fwyta ei ginio yn ddyddiol. Anaml iawn y byddai Gareth yn cynnal sgwrs ag unrhyw un a doedd dim un o drigolion y parc yn meiddio siarad ag ef. Er gwaethaf ei bersonoliaeth garedig, roedd rhywbeth yn od am Gareth.

Pa un yw鈥檙 gorau?

Yr ail yw鈥檙 gorau oherwydd ei fod yn defnyddio mwy o nodweddion arddull byw, ee:

  • cymariaethau, ee llygaid llwyd bychain fel botymau ar grys
  • amrywio dechrau brawddegau, ee heb os, yn ddi-ffael, anaml iawn, er gwaethaf
  • berfau diddorol, ee ymlwybro
  • personoli, ee ei wallt byr tywyll yn eistedd yn daclus ar ei ben