大象传媒

Canfod ac ymateb

Organau synhwyro

Mae ein horganau synhwyro'n canfod newidiadau yn y byd o'n cwmpas ni, sef . Mae'r organau synhwyro'n cynnwys grwpiau o gelloedd arbenigol, y sy'n cynhyrchu ysgogiadau trydanol fel ymateb i ysgogiadau penodol.

Mae'r tabl yn dangos yr ysgogiadau sy'n achosi i gelloedd derbyn yn yr organau synhwyro gynhyrchu ysgogiadau.

Organ synhwyroYsgogiad
CroenCyffwrdd, tymheredd
TafodCemegau (mewn bwyd a diod, er enghraifft)
TrwynCemegau (yn yr aer, er enghraifft)
LlygadGolau
ClustSain
Organ synhwyroCroen
YsgogiadCyffwrdd, tymheredd
Organ synhwyroTafod
YsgogiadCemegau (mewn bwyd a diod, er enghraifft)
Organ synhwyroTrwyn
YsgogiadCemegau (yn yr aer, er enghraifft)
Organ synhwyroLlygad
YsgogiadGolau
Organ synhwyroClust
YsgogiadSain

Effeithyddion

Mae effeithyddion yn rhannau o'r corff - megis cyhyrau a chwarennau - sy'n cynhyrchu ymateb i ysgogiad a ganfyddir. Er enghraifft:

  • cyhyr yn cyfangu i symud braich
  • cyhyr yn cyfangu i newid diamedr cannwyll y llygad
  • chwarren yn rhyddhau i mewn i'r gwaed

Mae'r diagram hwn yn crynhoi sut mae gwybodaeth yn llifo o dderbynyddion i effeithyddion yn y system nerfol.

Diagram yn crynhoi sut mae gwybodaeth yn llifo o dderbynyddion i effeithyddion yn y system nerfol.