Achosion amrywiad
Mae unigolion mewn poblogaeth fel arfer yn debyg i鈥檞 gilydd, ond nid yn unfath. Mae rhywfaint o鈥檙 amrywiadY gwahaniaeth rhwng unigolion o鈥檙 un rhywogaeth. hwn o fewn rhywogaethOrganebau sy'n ddigon tebyg i fridio a chynhyrchu epil ffrwythlon. yn genetigYn ymwneud ag etifeddiaeth yn sgil genynnau., mae rhywfaint yn amgylcheddol, ac mae rhywfaint yn gyfuniad o鈥檙 ddau.
Achosion genetig amrywiad
Fel arfer bydd plant yn edrych yn debyg i鈥檞 mam a鈥檜 tad, ond ni fyddant yn union yr un fath 芒鈥檙 naill na鈥檙 llall, a hynny oherwydd eu bod yn cael hanner eu nodweddion etifeddol oddi wrth y naill riant a鈥檙 llall.
Mae pob cell sberm a chell wy yn cynnwys hanner y wybodaeth enetig sydd ei hangen ar gyfer unigolyn. Mae pob un yn haploidCell rhyw (gamet) sy鈥檔 cynnwys un set o gromosomau., hynny yw, mae ganddi hanner y nifer arferol o cromosomYr adeiledd sydd wedi ei wneud o DNA sy鈥檔 codio ar gyfer holl nodweddion organeb.. Wrth i鈥檙 rhain uno mewn ffrwythloniadGamet benyw a gamet gwryw yn uno., ffurfir cell newydd. Mae gan y sygotWy wedi'i ffrwythloni, o ganlyniad i uno dau gamet. hwn yr holl wybodaeth enetig angenrheidiol ar gyfer unigolyn. Mae鈥檔 ddiploid, hynny yw, mae ganddo鈥檙 nifer arferol o gromosomau.
Ymhlith enghreifftiau o amrywiad genetig mewn bodau dynol mae gr诺p gwaed, lliw croen a lliw llygaid.
Amrywiad etifeddol yw rhyw hefyd 鈥 y genynnau a etifeddaist gan dy rieni sy鈥檔 penderfynu a ydych yn wryw neu鈥檔 fenyw.
Achosion amgylcheddol amrywiad
Gellir effeithio ar nodweddion rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion gan ffactorau fel hinsawdd, deiet, damweiniau, diwylliant a ffordd o fyw. Er enghraifft, os wyt ti'n bwyta gormod o fwyd fe roi di bwysau ymlaen, ac os nad wyt ti'n bwyta digon fe golli di bwysau. Enghraifft arall yw planhigyn sy鈥檔 tyfu yng nghysgod coeden fawr 鈥 bydd yn tyfu鈥檔 dalach er mwyn cyrraedd mwy o olau.
Dyma rai enghreifftiau eraill o nodweddion sy鈥檔 dangos amrywiad amgylcheddol:
- craith ac acen
- lliw blodau鈥檙 trilliw ar ddeg (hydrangea) 鈥 mae鈥檙 planhigion hyn yn cynhyrchu blodau glas mewn pridd asidigpH is na 7. a blodau pinc mewn pridd 补濒肠补濒茂补颈诲诲pH uwch na 7.
Cyfuniad o achosion genetig ac amgylcheddol
Mae rhai nodweddion yn amrywio oherwydd cyfuniad o achosion genetig ac amgylcheddol. Er enghraifft, mae gefeilliaid unfath yn etifeddu鈥檙 un nodweddion yn union gan eu rhieni. Ond os yw gefell A yn bwyta mwy na gefell B (a bod pob amod arall yn aros yr un fath), yna mae gefell A yn debygol o dyfu鈥檔 drymach.