Dehongli fformiwl芒u
fformiwlaHafaliad sy'n cael ei ysgrifennu at bwrpas, ee trawsnewid Farenheit i Celsius. Mae fformiwla bob amser yn wir beth bynnag yw'r gwerthoedd sy'n cael eu defnyddio. yw hafaliad sy鈥檔 dangos y berthynas rhwng newidynMaint sy'n gallu newid neu sy'n gallu cymryd gwerthoedd gwahanol. Mae newidyn hefyd yn cyfeirio at lythyren neu symbol sy'n cynrychioli maint o'r fath. . Gallai鈥檙 newidynnau hyn gynrychioli:
- cost llogi gweithiwr, yn seiliedig ar nifer yr oriau a weithiwyd
- cost llogi fan yn seiliedig ar nifer y dyddiau sydd ei hangen
Gellir mynegi fformiwla fel problem ar ffurf geiriau, neu fel hafaliadMae hafaliad yn cynnwys hafalnod. Mae hafaliadau ond yn wir ar gyfer gwerthoedd penodol. gan ddefnyddio geiriau neu lythrennau.
Enghraifft 1
Cost llogi fan = nifer y diwrnodau 脳 拢40 + 拢100
Mae鈥檙 fformiwla hon yn dy alluogi i gyfrifo cost llogi fan, yn seiliedig ar nifer y diwrnodau y bydd angen ei llogi.
Fel y gweli di, rhaid talu ffi sefydlog o 拢100, am faint bynnag o ddiwrnodau y bydd y fan yn cael ei llogi.
Am bob diwrnod mae鈥檙 fan yn cael ei llogi, mae 拢40 yn cael ei ychwanegu at y gost hon.
Enghraifft 2
Mae Gareth yn drydanwr. Mae鈥檔 codi ffi galwad o 拢45 yn ogystal 芒 拢15 am bob awr mae鈥檔 ei dreulio ar y gwaith dan sylw.
Gallwn ysgrifennu hyn ar ffurf hafaliad:
Cyflog = nifer yr oriau 脳 拢15 + 拢45.