Mae rhai o nodweddion y gwahanol organebau mewn rhywogaethOrganebau sy'n ddigon tebyg i fridio a chynhyrchu epil ffrwythlon. yn dangos amrywiad parhaus, ac eraill yn dangos amrywiad amharhaus.
Amrywiad parhaus
Mewn unrhyw rywogaeth, mae nodwedd sy’n newid yn raddol dros amrediad o werthoedd yn dangos amrywiad parhaus. Dyma enghreifftiau o nodweddion o’r fath:
taldra
pwysau
rhychwant llaw
Mae taldra’n amredeg o daldra’r person byrraf yn y byd i daldra’r talaf. Mae unrhyw daldra’n bosibl rhwng y ddau eithaf hynny. Felly caiff ei alw’n amrywiad parhaus.
Mae siâp y graff hwn yn nodweddiadol o nodwedd sydd ag amrywiad parhaus. Bydd y canlyniadau yn agosach at y llinell grom po fwyaf o bobl sy’n cael eu mesur a pho leiaf yr amrediad o gategorïau sy’n cael eu defnyddio. Gwelir canlyniad dosbarthiad normal newidyn mewn graff cromlin siâp cloch.
Amrywiad amharhaus
Os mai dim ond nifer cyfyngedig o werthoedd posibl sydd i nodwedd unrhyw rywogaeth, mae’n dangos amrywiad amharhaus. Er enghraifft:
rhyw (gwryw neu fenyw)
lliw llygaid
grŵp gwaed
Mae gan fodau dynol un o bedwar grŵp gwaed - A, B, AB neu O. Does dim gwerthoedd rhwng y rhain (gwerthoedd canolraddol), felly mae hyn yn dangos amrywiad amharhaus.