大象传媒

R么l menywodNewid i ffordd o fyw a statws merched

Newidiodd agweddau tuag at fenywod a thuag at foesau cymdeithasol yn arthurol. Cynyddodd y nifer o fenywod yn y gweithle yn ystod y 1920au a thrawsnewidiodd ffasiwn ac ymddygiad ymysg merched ifanc.

Part of HanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Sut gwnaeth ffordd o fyw a statws menywod newid yn ystod y cyfnod hwn?

Newidiadau mewn agweddau tuag at fenywod

Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf

Cyn y rhyfel roedd disgwyl i ferched ymddwyn yn wylaidd a gwisgo ffrogiau hir. Pan fydden nhw'n mynd allan byddai'n rhaid iddyn nhw gael cwmni menyw h欧n neu fenyw oedd wedi priodi.

Roedd yn hollol annerbyniol i fenyw ysmygu mewn lle cyhoeddus. Roedd menywod yn cael eu cyflogi mewn swyddi oedd yn draddodiadol yn gysylltiedig 芒'r ferch, ee gweithio fel morwynion, gwn茂o, ysgrifenyddion, nyrsio.

Yn ystod y rhyfel dechreuodd menywod gael eu cyflogi mewn swyddi eraill, ee gwaith ffatri, gan gymryd lle'r dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel yn Ewrop.

Roedd mudiadau fel y National American Woman Suffrage Association (NAWSA) wedi bod yn ymladd ers degawdau i gael y bleidlais i fenywod. Gan fod menywod wedi cyfrannu at yr ymdrech rhyfel roedd hi'n anodd eu gwrthod pan oedden nhw'n hawlio cydraddoldeb gwleidyddol. O ganlyniad, daeth 19eg Gwelliant y Cyfansoddiad yn ddeddf yn 1920, gan roi'r hawl i fenywod bleidleisio. Nellie Tayloe Ross o Wyoming oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol yn llywodraethwr talaith yn 1924.

Roedd yna newid o ran gwaith hefyd, gyda chynnydd o 25 y cant yn nifer y menywod oedd yn gweithio yn ystod y 1920au. Erbyn 1929 roedd 10.6 miliwn o fenywod yn gweithio.

Bellach roedd gan fenywod annibynnol y dosbarthiadau canol ac uwch fwy o arian i'w wario hefyd. Oherwydd hyn, dechreuodd cwmn茂au hysbysebu dargedu menywod yn benodol i brynu eu nwyddau newydd.