大象传媒

Adloniant poblogaiddDatblygiad adloniant poblogaidd

Bu cyfnod o newid mawr yn niwylliant a chymdeithas America rhwng 1910 a 1929 yn bennaf oherwydd poblogrwydd y sinema, ffilmiau di-sain, talkies ac effaith cerddoriaeth jazz.

Part of HanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Sut gwnaeth adloniant poblogaidd ddatblygu yn ystod y cyfnod hwn?

Ffilmiau di-sain

Ffotograff o Charlie Chaplin
Figure caption,
Charlie Chaplin

Y sinema oedd y datblygiad mwyaf cyffrous yr adeg yma. Cafodd y sinema ddylanwad ar bobl mewn nifer o ffyrdd - o ran ffasiwn a'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn.

Roedd gan bob tref fechan sinema a byddai nifer fawr o Americanwyr, gyda mwy o amser hamdden ac ychydig o arian cyflog dros ben i'w wario oherwydd newidiadau mewn patrymau gweithio, yn mynd yno sawl gwaith yr wythnos am ei fod yn weddol rhad.

Yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd mynd i'r sinema neu'r Picture Palace fel roedd yn cael ei alw ar y pryd, yn beth eithaf cyffredin yn America ac yn Ewrop. Roedd yn un ffordd o ddianc rhag problemau'r byd.

  • Yn ystod y 1920au cynnar roedd pob ffilm yn ddi-sain. Arferai sinem芒u gyflogi cerddorion i ganu'r piano neu organ drydan yn ystod y ffilmiau.
  • Roedd yn lle delfrydol ar gyfer ffilmio yn yr awyr agored gan ei fod ger Los Angeles, mewn rhan o America oedd yn cael tywydd sych a heulog iawn. Roedd ganddo hefyd amrywiaeth o dirweddau megis mynyddoedd ac arfordir.
  • Y cwmn茂au pwysig yn Hollywood yn y cyfnod yma oedd Paramount, Warner Bros ac MGM. Trwy farchnata eu hystod eang o ffilmiau - megis ffilmiau cowbois, stor茂au ditectif, comed茂au a ffilmiau rhamantus - yn helaeth, llwyddon nhw i greu diddordeb mawr yn s锚r y ffilmiau.
  • Roedd y sinem芒u'n foethus ac yn lleoedd hyfryd i Americanwyr gymdeithasu ynddyn nhw, ac roedden nhw'n gallu eu cyrraedd yn hawdd yn eu ceir.

Dylanwad s锚r y ffilmiau

Roedd y s锚r hefyd yn gyfrifol am y cynnydd ym mhoblogrwydd y sinema.

Daeth yr Eidalwr, Rudolph Valentino, yn actor poblogaidd iawn am ei ap锚l rywiol yn The Sheikh (1921). Roedd yn seren go iawn, ac ymddangosodd mewn nifer o'r ffilmiau cynnar gan ennill $1miliwn. Pan fu farw'n sydyn yn 1926 roedd cymaint o dristwch am y peth nes lladdodd nifer o ferched eu hunain.

Roedd Charlie Chaplin yn gymeriad dylanwadol iawn. Ef oedd sylfaenydd y cwmni ffilmiau United Artists gyda Mary Pickford a Douglas Fairbanks yn 1919, ac wrth gwrs roedd yn actor mewn fel The Tramp (1915) a The Kid (1921). Cafodd ei adnabod yn syth oherwydd ei ddelwedd tebyg i grwydryn ac roedd yn well ganddo grefft y ffilmiau di-sain na'r rhai sain diweddarach.

Ffotograff o Clara Bow
Figure caption,
Clara Bow (chwith)

Mae'n bosib mai menywod fel Clara Bow, yr It Girl gwreiddiol, oedd s锚r mwyaf dylanwadol Hollywood. Chwaraeodd hi ran mewn nifer o ffilmiau, gan ddylanwadu ar lawer o ferched ifanc i ymddwyn yn yr un ffordd. Hi oedd yr actores fwyaf poblogaidd yn 1928 a 1929.

Roedd actorion fel Gloria Swanson a Buster Keaton hefyd yn ddylanwadol yn y cyfnod.