大象传媒

R么l menywodMoesau cymdeithasol: newid agweddau

Newidiodd agweddau tuag at fenywod a thuag at foesau cymdeithasol yn arthurol. Cynyddodd y nifer o fenywod yn y gweithle yn ystod y 1920au a thrawsnewidiodd ffasiwn ac ymddygiad ymysg merched ifanc.

Part of HanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Newidiadau mewn agweddau tuag at foesau cymdeithasol

Menywod yn gweithio yn First National Bank, Efrog Newydd.
Image caption,
Menywod yn gweithio yn First National Bank, Efrog Newydd

Dechreuodd menywod ysmygu'n gyhoeddus. Daeth yn dderbyniol i fenywod yrru ceir a chymryd rhan mewn chwaraeon egn茂ol.

Cafodd merched ifanc y 1920au eu galw'n flappers. Roedden nhw'n cael eu portreadu yn ffilmiau Hollywood y cyfnod ac, o ganlyniad, cafodd eu hymddygiad a'u gwisg eu hefelychu gan filiynau o amgylch y byd.

Yn 1919 roedd sgertiau merched tua chwe modfedd uwchben y llawr ond erbyn 1927 roedd gwaelod eu sgertiau wrth eu pengliniau. Gwrthryfelodd merched yn erbyn gwisgoedd hen ffasiwn cyfnod eu mamau.

Aeth y corset allan o ffasiwn, a daeth yn ffasiynol i dorri'r gwallt a'i gael ar ffurf bob - roedd gwisgo llawer o golur a gwisgo tlysau yn bwysig iddyn nhw hefyd.

Un flapper enwog o'r cyfnod oedd Joan Crawford. Dechreuodd ei gyrfa fel dawnswraig ar Broadway cyn symud i Hollywood i wneud enw iddi hi ei hun. Actiodd mewn ffilmiau fel Paris (1926) a The Unknown (1927) lle daeth hi'n enwog am ei dillad flapper. Roedd hi'n yfed alcohol, ysmygu, yn dawnsio'r Charleston ac hyd yn oed yn cusanu ar y sgrin fawr. Roedd nifer fawr o ferched ifanc yn ei hedmygu a'i dynwared.