Beth yw ystyr diaspora?
Diaspora yw gr诺p o bobl sydd ddim yn byw yn eu mamwlad bellach ond sy鈥檔 dal i lynu at eu etifeddiaeth y neu cartref newydd.
Mae鈥檙 term yn dod o鈥檙 gair Groegaidd am wasgaru, ac fe gafodd ei ddefnyddio gyntaf i ddisgrifio gwasgariad yr Iddewon yn amser y Beibl. Mae鈥檙 gair nawr yn cael ei ddefnyddio am unrhyw gymuned ar wasgar ar draws y byd.
Mae Unol Daleithiau America yn enghraifft dda o wlad sy鈥檔 gartref i nifer o gymunedau diaspora gwahanol megis yr Affricaniaid-Americanaidd, Mecsicaniaid-Americanaidd a鈥檙 Gwyddelod-Americanaidd.
Gwylio: Fideo cymunedau diaspora
Hanes diaspora
Mae pobl yn mudo am wahanol resymau. Mae rhai yn symud am resymau economiadd i wledydd gyda gwell cyfleoedd am swyddi a safon byw uwch. Mae eraill yn mudo i ddianc rhag erledigaeth neu i gael mwy o ryddid. Mae rhai mudwyr yn yn cael eu gorfodi i symud gan ddigwyddiadau fel rhyfeloedd a newyn.
Enghreifftiau o gymunedau diaspora
Cymunedau Cymreig yn Ne America
Glaniodd y 153 cyntaf o Gymry ym Mhatagonia ar fwrdd llong y Mimosa ar 28 Gorffennaf 1865. Roedden nhw wedi hwylio o Lerpwl i鈥檙 Ariannin i sefydlu trefedigaeth Gymraeg o鈥檙 enw Y Wladfa ymhell o ddylanwad diwyllianau eraill.
Dilynodd mwy o Gymry yn hwyrach yn enwedig yn y cyfnodau rhwng 1880-87 ac 1904-12. Roedd hyn yn bennaf oherwydd dirwasgiad ym meysydd glo Cymru.
Gwnaeth y Cymry eu cartref yn Nyffryn Chubut a godrefryniau鈥檙 Andes. Mae enwau Cymraeg megis Trelew, Dolavon (D么l Afon) a Trevelin (Tre Felin) ar leodd ym Mhatagonia.
Mae鈥檙 gymuned yn dal i fodoli heddiw. Mae 50,000 o bobl o dras Cymreig ym Mhatagonia ac mae hyd at 5,000 ohonyn nhw鈥檔 siarad Cymraeg.
Cymunedau Gwyddelig yn yr Unol Daleithiau
Y diaspora Gwyddelig yn yr Unol Daleithiau yw un o鈥檙 mwyaf yn y wlad. Yn 么l astudiaeth US Census Bureau 2010 roedd 34.7 miliwn o bobl yn dweud eu bod o dras Gwyddelig 鈥 yr ail gr诺p mwyaf ar 么l y rhai o dras Almaenig.
Mae pobl wedi bod yn symud o鈥檙 Iwerddon ers canrifoedd ond fe wnaeth y Newyn Mawr achosi allfudo ar raddfa enfawr yn y 1840au. Pan fethodd y cnwd tatws, bu farw un filiwn o bobl ac fe ymfudodd hyd at 2 filwin o bobl mewn ychydig dros ddeng mlynedd (1845-55). Symudodd y rhan fwyaf ohonyn nhw i Ogledd America ac i Brydain.
Er bod y rhan fwyaf o Americanwyr Gwyddelig erbyn hyn yn ail a thrydedd genhedlaeth, mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn eu treftadaeth Wyddelig o hyd. Mae Tourism Ireland yn amcangyfrif bod bron i ddwy filiwn o Americanwyr yn ymweld ag ynys Iwerddon bob blwyddyn.
Mae Dinas Efrog Newydd yn cynnal gorymdaith Dydd San Padrig fwya鈥檙 byd sy鈥檔 denu torf o ddwy filiwn. Mae Afon Chicago yn cael ei lliwio鈥檔 wyrdd i ddathlu nawdd sant yr Iwerddon.
Cymunedau Asiaidd yn y DU
Mae nifer o ddinasoedd yn y DU bellach yn gartref i ddiasporas Asiaidd o wledydd fel India, Pacistan a Bangladesh.
Mae鈥檙 berthynas rhwng y DU a鈥檙 gwledydd hyn yn ne Asia yn dyddio n么l i鈥檙 1600au. Fe wnaeth y British East India Company sefydlu aneddiadau masnachu yn India, ac yn ddiweddarach daeth y wlad yn rhan o鈥檙 Ymerodraeth Brydeinig.
Yn 么l Cyfrifiad 2011 pobl o gefndir ethnig Asiaidd oedd yr ail gr诺p mwyaf o鈥檙 boblogaeth (7.5 y cant) yng Nghymru a Lloegr.
Mae llawer o ddylanwadau Asiaidd i鈥檞 gweld ar ddiwylliant ym Mhrydain. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys bwyd Indiaidd sy鈥檔 boblogaidd iawn, a ffilmiau fel East is East a Bend it like Beckham sy鈥檔 edrych ar sut mae pobl o dras de Asiaidd yn integreiddio i fywyd ym Mhrydain.
Effeithiau cymunedau diaspora
Mae cymunedau diaspora yn gallu bod yn fanteisiol i鈥檙 wlad newydd ac i鈥檙 famwlad. Maen nhw鈥檔 cynnwys:
- mwy o amrywiaeth cymdeithasol a diwyllianol
- trosglwyddo sgiliau a gwybodaeth i鈥檙 wlad wreiddiol
- mwy o gydnabyddiaeth i'r famwlad
- mwy o fasnasch rhwng y wlad newydd a鈥檙 famwlad
More on Hunaniaeth
Find out more by working through a topic
- count2 of 3
- count3 of 3