Beth sy鈥檔 rhoi hunaniaeth i le?
Mae hunaniaeth lle yn cael ei ffurfio gan set gymhleth a rhyng-gysylltiedig o ffactorau ond does dim angen yr holl ffactorau hyn ar le i gael hunaniaeth. Gall y lle fod o unrhyw faint - mor fach ag ystafell wely neu mor fawr 芒 dinas neu wlad hyd yn oed.
Ffisegol
Mae lleoedd yn gallu cael eu hadnabod a chael hunaniaeth drwy eu nodweddion ffisegol. Gall y rhain amrywio o adeiladau a strydoedd i fynyddoedd, coedwigoedd ac afonydd. Bydd nifer o bobl yn cysylltu lle 芒 nodwedd ffisegol benodol fel y pyllau glo yn ne Cymru neu dirlun mynyddig Parc Cenedlaethol Eryri.
Hanesyddol
Gall ffactorau eraill sy'n rhoi hunaniaeth i le fod yn gysylltiedig 芒'i hanes. Gall hyn chwarae r么l yn y ffordd y gallai pobl leol ac eraill gysylltu 芒 lle oherwydd ei arwyddoc芒d hanesyddol iddyn nhw. Gallai hynny fod drwy hanes diwydiant sydd wedi chwarae rhan bwysig yn yr ardal leol neu drwy frwydrau sydd wedi鈥檜 hymladd yno.
Personol
Gallwn hefyd ganfod hunaniaeth lle ar lefel llawer mwy personol drwy ein teimladau, ein hemosiynau a鈥檔 cysylltiadau 芒鈥檙 lle. Efallai y bydd pobl yn gweld ardal yn wahanol ar sail eu profiadau neu eu cysylltiadau. Gallai hyn fod drwy iaith, diwylliant neu hyd yn oed chwaraeon. Yn aml bydd gan bobl gysylltiad 芒 lle oherwydd t卯m chwaraeon lleol. Mae Wrecsam yn enghraifft dda o hyn, lle mae鈥檙 t卯m p锚l-droed lleol yn chwarae rhan bwysig ym mywydau鈥檙 bobl sy鈥檔 byw yno ac mae鈥檔 rhan bwysig o鈥檜 hunaniaeth.
Gall y profiadau sydd gennym o ardal hefyd siapio ei hunaniaeth. Gall adroddiadau newyddion am le bortreadu鈥檙 ardal mewn ffordd bositif neu negyddol i bobl sydd ddim yn byw yno.
Gwylio: Fideo Hunaniaeth lle
Newid hunaniaeth lle
Mae hunaniaeth lle yn gallu newid yn sylweddol dros amser. Gall mudo ddod 芒 phobl o gefndiroedd gwahanol sy鈥檔 gallu dylanwadu ar ddiwylliant ac arferion lleol. Gall llywodraethau benderfynu buddsoddi mewn ardal. Mae rhaglenni ailddatblygu a boneddigeiddio yn gallu rhoi bywyd newydd i ardal a oedd unwaith yn cael ei hystyried yn hen a diffaith a'i gwneud hi'n ardal fodern a dylanwadol yn llawn siopau, fflatiau a mannau gwyrdd.
Bae Caerdydd
Roedd gan yr ardal rydyn ni nawr yn ei hadnabod fel Bae Caerdydd hunaniaeth wahanol iawn. Cafodd ei galw鈥檔 Tiger Bay yn wreiddiol oherwydd y ceryntau ffyrnig yn yr Afon Hafren gerllaw. Roedd yn lleoliad pwysig iawn yn ystod yr oes ddiwydiannol.
Roedd y dociau yng Nghaerdydd yn allforio glo o gymoedd de Cymru i weddill y byd. Roedd adeiladu Camlas Sir Forgannwg, a oedd yn cysylltu Merthyr Tudful 芒 Chaerdydd, yn ei gwneud hi鈥檔 haws cludo haearn a glo, ac arweiniodd hynny at dwf y dociau. Wrth i'r dociau ddatblygu cafodd morwyr a gweithwyr y dociau o bob rhan o鈥檙 byd eu denu i Gaerdydd. Fe wnaethon nhw setlo mewn ardaloedd fel Trebiwt, gan gyfrannu at y cynnydd ym mhoblogaeth y ddinas a rhoi cymeriad amlddiwylliannol unigryw i鈥檙 ardal.
Dirywiad
Fe wnaeth y dociau ddirywio yn ystod yr 1960au a鈥檙 70au oherwydd roedd mwy o gystadleuaeth oddi wrth porthladdoedd eraill. Erbyn yr 1980au, aeth rhannau mawr o鈥檙 dociau yn ddiffaith, gan baratoi'r ffordd ar gyfer ei ailddatblygu.
Ailddatblygu
Yn yr 1990au, dechreuodd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ailddatblygu鈥檙 ardal. Cafodd morglawdd ei adeiladu i greu llyn d诺r croyw newydd o fewn y bae, gan newid golwg y bae yn gyfan gwbl. Yn y blynyddoedd ar 么l hynny, cafwyd nifer o ddatblygiadau newydd fel Gwesty Dewi Sant, Techniquest, Cei鈥檙 F么r-forwyn, Canolfan Mileniwm Cymru a鈥檙 Senedd.
Mae鈥檙 newidiadau hyn wedi ail-ddychmygu hunaniaeth yr ardal yn llwyr 鈥 o ardal ddiwydiannol i ardal sydd bellach yn gartref i benderfyniadau gwleidyddol ac sydd hefyd yn cynnig nifer o gyfleusterau cymdeithasol, fel bwytai a chanolfan gelfyddydol.
Fel nifer o ardaloedd eraill sydd wedi eu hailddatblygu, cafwyd gwrthwynebiad gan nifer o bobl leol yn sgil trawsnewid y dociau i Fae Caerdydd. Roedd adroddiadau鈥檔 honni bod yr ailddatblygiad heb gynnwys cymuned leol Trebiwt, a oedd yn dadlau y byddai newid yr ardal yn amharu ar gymunedau lleol a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae rhaniad sylfaenol rhwng y Bae a Threbiwt o hyd.
Canary Wharf
Ardal arall o鈥檙 DU sydd wedi mynd drwy newidiadau tebyg yw Canary Wharf yn Llundain, ar safle鈥檙 hen West India Docks. Roedd unwaith yn un o borthladdoedd prysuraf y byd, ond fe gaeodd yn 1980.
Dirywiad
Dechreuodd ardal y dociau ddirywio yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan roedd y dociau yn brif darged ar gyfer cyrchoedd awyr yn ystod y Blitz. Cyfrannodd y defnydd cynyddol o longau cynwysyddion hefyd at y dirywiad. Gallai'r rhain gludo mwy o nwyddau ond roedden nhw鈥檔 rhy fawr i hwylio ar hyd yr afon Tafwys i gyrraedd Dociau Llundain.
Ailddatblygu
Yn ystod yr 1980au a鈥檙 1990au, dechreuodd Corfforaeth Datblygu Dociau Llundain (London Docklands Development Corporation) ailddatblygu鈥檙 ardal gan ei newid o safle diffaith i ardal y gallai鈥檙 sector ariannol ei defnyddio. Adeiladwyd ffyrdd a chysylltiadau rheilffordd newydd i gysylltu'r ardal 芒 gweddill Llundain ac adeiladwyd nendyrau mawr ar gyfer swyddfeydd, canolfannau siopa a thai bwyta.
Mae rhai pobl sy鈥檔 dal i fyw yn yr ardaloedd cyfagos yn ansicr o'r newidiadau i Canary Wharf. Mae nifer yn credu bod y swyddi newydd a grewyd yno ar gyfer gweithwyr medrus iawn sydd 芒 gradd neu'n dod o rywle arall.
Mae nifer o bobl yn credu bod y rheini sy鈥檔 gweithio yn Canary Wharf yn dewis byw mewn rhannau cyfoethocach o鈥檙 ddinas ac yn cymudo i鈥檙 gwaith. O ganlyniad, dim ond swm bach o'r arian maen nhw鈥檔 ei ennill sy'n cael ei fuddsoddi n么l yn nwyrain Llundain. Mae hyn wedi cyfrannu at raniad cynyddol rhwng yr hen fwrdeistrefi a datblygiad newydd Canary Wharf a'r hunaniaethau gwahanol iawn sydd ganddyn nhw erbyn hyn.
Colli hunaniaeth
Mae rhai ardaloedd o鈥檙 DU yn wynebu problemau cynyddol gyda cholli eu hymdeimlad o hunaniaeth. Un enghraifft nodedig o hyn yw Gwynedd.
Yn 2021, roedd 9% o dai鈥檙 sir yn ail gartrefi. Roedd y ffigur hwn mor uchel 芒 thua 23% ym Meddgelert a 25% yn Aberdaron.
Mae rhai pobl yn teimlo ei bod yn fwyfwy anodd cynnal hunaniaeth leol a chenedlaethol yr ardal. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd galw cynyddol am dai yn yr ardaloedd hyn wrth i bobl brynu tai i鈥檞 defnyddio fel ail gartrefi neu gartrefi gwyliau. Wrth i鈥檙 galw am dai gynyddu mae gwerth y tai yn codi. Mae hyn yn aml yn golygu nad yw pobl leol yn gallu fforddio prynu t欧 yn yr ardal ac yn gorfod symud o鈥檙 ardal.
Gan ei bod yn bosib mai dim ond am ran o'r flwyddyn y bydd ail gartrefi yn cael eu defnyddio, efallai y bydd siopau a thafarndai lleol yn gorfod cau gan nad ydyn nhw鈥檔 cael eu defnyddio'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r sefydliadau hyn fel arfer yn ganolbwynt i gymunedau, ac wrth iddyn nhw ddirywio, efallai y bydd yr ysbryd a'r traddodiadau sy'n gysylltiedig 芒 nhw yn cael eu colli.
Protestiadau
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pobl leol wedi cynnal sawl protest i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 broblem ac i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.
Yn 2017, rhoddwyd hawl i awdurdodau lleol yng Nghymru godi hyd at ddwbl cyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi.
Yn 2023, rhoddodd Llywodraeth Cymru bwerau ychwanegol i awdurdodau lleol, er mwyn iddyn nhw allu:
- codi hyd at bedair gwaith cyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi
- newid rheolau cynllunio i鈥檞 gwneud yn anoddach i dai a fflatiau gael eu prynu fel cartrefi gwyliau
More on Hunaniaeth
Find out more by working through a topic
- count1 of 3
- count2 of 3