Pwy oedd y Celtiaid?
Rydym ni yng Nghymru yn ystyried ein hunain yn Geltiaid - ond rydym yn wahanol iawn i'r Celtiaid oedd yn byw yma yn Oes yr Haearn. Bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma cyn ac ar 么l Oes Crist. Rydym yn mynd yn 么l amser maith, maith - tua dwy fil o flynyddoedd yn 么l.
Mae ein blynyddoedd wedi'u rhifo drwy ddechrau yn y flwyddyn y ganwyd Crist - bu Celtiaid Oes yr Haearn yn byw yma 750 o flynyddoedd cyn hynny. Daeth Oes yr Haearn i ben yn 43 OC (43 o flynyddoedd wedi geni Crist) pan ddaeth y Rhufeiniaid i Brydain.
Oes yr Haearn
Rydym yn galw'r oes yma yn 'Oes yr Haearn' oherwydd bod y Celtiaid wedi darganfod ac yn defnyddio metel newydd, sef haearn.
Rydym wedi dysgu llawer am y Celtiaid drwy ddarganfod pethau wedi'u gwneud o haearn a defnyddiau eraill sydd wedi goroesi.
Bu'r Celtiaid yn byw ar draws y rhan fwyaf o Ewrop yn ystod Oes yr Haearn. Heddiw mae'r Celtiaid yn byw yn y gwledydd rydyn ni'n eu hadnabod fel:
- Cymru
- Iwerddon
- Yr Alban
- Ynys Manaw
- Cernyw
- Llydaw
Mae diwylliant y Celtiaid yn parhau heddiw trwy'r defnydd o iaith, cerddoriaeth, c芒n a llenyddiaeth.
Fideo 鈥 Y Celtiaid
Tystiolaeth am fywyd y Celtiaid
Cofnodi digwyddiadau
Nid oedd y Celtiaid cynnar wedi gadael llyfrau ar eu h么l gan nad oedden nhw'n gallu darllen nac ysgrifennu - siarad a chofio oedd ffordd y Celtiaid o gofnodi digwyddiadau.Ond yn ffodus i ni, fe ysgrifennodd y Groegwyr a'r Rhufeiniaid am Geltiaid Oes yr Haearn. Mae鈥檙 gweithiau hyn yn dweud wrthym ni bod Celtiaid Oes yr Haearn yn arfer byw mewn gr诺p oedd yn cael ei alw'n llwyth, a'u bod yn gwisgo aur. Roedd y Celtiaid yn hoffi ymladd ac yfed gwin.
Corff yn y mawn
Weithiau mae'r cliwiau yn cael eu darganfod drwy ddamwain. Tra oedd cloddiwr yn symud pridd mewn mawnog (bog) yn Sir Gaer, gwelodd gorff dyn wedi'i gladdu'n ddwfn yn y mawn. Cafodd y gweithiwr dipyn sioc a galwodd yr heddlu - roedden nhw'n credu bod y dyn wedi ei lofruddio.Roedd y dyn wedi cael ei daro ar ei ben, ei dagu ac roedd ei wddw wedi torri. Dychmyga syndod yr archeolegwyr pan wnaethant ddarganfod mai Celt o Oes yr Haearn oedd y dyn, a'i fod wedi cael ei ladd 2,000 o flynyddoedd yn 么l!
Dim ond hanner uchaf y corff oedd ar 么l. Darganfyddodd yr archeolegwyr fwyd yn dal yn ei stumog ar 么l 2,000 o flynyddoedd. Ei bryd olaf oedd bara. Dyma gliw hynod iawn o fyd y Celtiaid, wedi'i biclo yn y mawn a'r mwd.
Roedd dyn y mawn yn noeth pan ddaeth y cloddiwr o hyd i'w gorff. Yn anffodus, nid oes tystiolaeth fel dillad, esgidiau a photiau yn cael eu darganfod yn aml gan eu bod yn pydru yn y ddaear. Ond nid yw pethau o garreg a metel yn pydru, a dyma rai o'r cliwiau sy'n dweud wrthym am y Celtiaid.
Cartrefi
Bryngaerau
Byddai pobl Oes yr Haearn wedi dewis lle i fyw am resymau gwahanol. Roedd y pennaeth a'i deulu, milwyr a chrefftwyr, yn byw mewn bryngaer gan ei fod yn hawdd i'w amddiffyn. Mae olion dros 1,000 o fryngaerau yng Nghymru. Roedd llethrau serth, wal uchel a ffos ddofn yn helpu i gadw'r Celtiaid yn ddiogel yn eu cartrefi.
Roedd y ffermwyr yn byw ar y tir yr oedden nhw'n ei ffermio. Roedd y Celtiaid yn adeiladu ffermydd yn agos i dd诺r, tir ffrwythlon a thir pori da ar gyfer yr anifeiliad. Roedd y Celtiaid yn tyfu 欧d ac yn cadw gwartheg, moch, ceffylau, geifr a defaid.
T欧 crwn
Roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn byw mewn tai - ond rhai gwahanol iawn i'r tai rydym ni'n byw ynddyn nhw heddiw.
Roedd teuluoedd mawr yn byw mewn t欧 crwn. Roedd y waliau wedi'u gwneud o dwb, sef gwellt, mwd a thail. Roedd y to wedi ei wneud o wellt.
Byddai'r Celtiaid yn defnyddio t芒n yng nghanol y t欧 crwn er mwyn coginio a chynhesu'r t欧.
Yn y t欧 crwn, byddai pentan haearn wedi'i osod bob ochr i'r lle t芒n. Efallai mai addurno yn unig oedd ei bwrpas, neu efallai i ddangos statws y cartref.
Crefftau y Celtiaid
Mae'r enw Oes yr Haearn yn dod o ddarganfyddiad y Celtiaid o haearn. Mae archeolegwyr wedi darganfod cliwiau sy'n dangos pa mor fedrus oedd Celtiaid Oes yr Haearn wrth wneud pethau o fetel.
Yng Nghymru, mae'r darnau haearn cynharaf yn dod o Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf, casgliad sy'n dyddio'n 么l i tua 750 CC. Mae'r casgliad yn cynnwys cryman, cleddyf a gwaywffon.
Gemwaith
Mae archeolegwyr wedi darganfod llawer o emwaith wrth gloddio am gliwiau am y Celtiaid. Defnyddiai'r Celtiaid fetelau megis pres ac aur yn ogystal 芒 haearn. Byddai'r penaethiaid Celtaidd yn gwisgo gemwaith ffansi er mwyn dangos pa mor bwysig oedden nhw.
Roedd y crefftwyr Celtaidd yn hoffi cynlluniau cymesuredd a phatrymau. Roedden nhw鈥檔 hoff o si芒p tair coes (trisgelau) yn enwedig, fel yr un ar y plac efydd Oes yr Haearn yn y llun.
Arfau
Roedd eu sgil fel gweithwyr metel hefyd yn bwysig pan oedden nhw鈥檔 amddiffyn eu hunain oddi wrth eu gelynion.Roedden nhw angen arfau miniog fel gwaywffyn, yn ogystal 芒 thariannau, fel yr un yn y llun, i amddiffyn eu hunain rhag ymosodiad gan y gelyn.
Gwisg milwyr
Mae haneswyr Rhufeinig yn dweud bod gan filwyr Celtaidd wallt pigog gwyn. Byddai鈥檙 Celtiaid yn defnyddio calch fel yr ydym ni鈥檔 defnyddio mousse gwallt heddiw, ac weithiau bydden nhw鈥檔 clymu eu gwalltiau mewn cynffon ceffyl.
O amgylch eu gyddfau roedden nhw鈥檔 gwisgo torchau aur fel cadwyni mawr. Roedd y milwyr pwysicaf yn gwisgo helmedi wedi'u gwneud o bres er mwyn dangos pa mor bwysig oedden nhw.
Yn aml byddai llun adar, anifeiliaid neu gyrn ar yr helmedi. Roedden nhw鈥檔 cario tariannau enfawr wedi'u haddurno gydag arwyddion neu batrymau.
Gwisg a gwedd
Mae'n bosib bod rhai o ddillad Celtiaid Oes yr Haearn yn edrych fel y tartan a welir yn Yr Alban ac Iwerddon heddiw, gyda phatrwm o sgwariau a streipiau.
Defnyddiai'r Celtiaid aeron a phlanhigion i newid lliw eu gwl芒n. Roedd y Celtiaid yn hoffi dillad llachar ac, yn 么l y Rhufeiniaid, roedd rhai o'r Celtiaid yn paentio patrymau ar eu cyrff gyda phaent glas wedi'i wneud o blanhigyn arbennig.
Roedd dillad y Celtiaid yn dangos eu statws a phwysigrwydd o fewn y llwyth:
- byddai dynion yn gwisgo tiwnig gyda gwregys, clogyn a throwsus
- gwisgai'r merched ffrogiau wedi'u cau gyda thlws oedd yn debyg i roetsh
Roedd aelodau pwysig o'r llwyth yn gwisgo torch wddw o aur, arian neu haearn, wedi'i haddurno 芒 phatrymau Celtaidd.
Rhyfelwyr
Yn 么l y Rhufeiniaid, roedd y Celtiaid yn colli eu tymer ac yn cweryla yn aml - ond nid ydym yn gwybod os ydy hynny'n wir. Wedi'r cyfan, ni allen nhw ymladd drwy'r amser - bydden nhw wedi blino gormod i ffermio! Roedd yn rhaid i'r ffermwyr fod yn barod i ymladd pan fyddai pennaeth y llwyth yn galw arnyn nhw.
Byddai'r Celtiaid yn aml yn ymladd yn noeth - ac mae haneswyr yn credu bod merched yn ymladd hefyd. Eu prif arfau oedd gwaywffyn a chleddyfau. Weithiau byddent yn ymladd mewn cerbyd rhyfel wedi'i dynnu gyda cheffyl.
Merched Celtaidd
Dywedodd y Rhufeinwr enwog Tacitus fod y merched Celtaidd yr un mor fawr a brawychus 芒'r dynion. Os yw hyn yn wir, nid yw'n syndod iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymladd!
Ymladdwraig enwog oedd gwraig o'r enw Boudicca, neu Buddug yn Gymraeg. Pennaeth llwyth yr Inceni oedd hi. Fe'i disgrifiwyd fel gwraig a chanddi gwallt coch trwchus i lawr at ei phengliniau.
Gwisgai diwnig liwgar, torch aur am ei gwddw a chlogyn o frethyn trwchus wedi'i chlymu gyda broetsh. Pan fyddai'n mynd i ymladd byddai'n dal gwaywffon yn ei llaw. Nid oedd yn hoffi'r Rhufeiniaid a bu'n ymladd yn eu herbyn.
Crefydd a chred
Mae archeolegwyr yn credu bod Celtiaid Oes yr Haearn yn arfer addoli nifer o dduwiau a duwiesau. Roedden nhw'n addoli eu duwiau drwy aberthu pethau gwerthfawr iddyn nhw i'w cadw'n hapus.
Ond nid trysorau gwerthfawr yn unig oedd eu rhoddion i'r duwiau - roedd Celtiaid Oes yr Haearn yn aberthu (lladd) anifeiliaid, a hyd yn oed pobl, i'w duwiau. Aberthodd y Celtiaid arfau i'r duwiau drwy eu taflu i'r llynnoedd, afonydd a chorsydd - credai'r Celtiaid fod y mannau yma yn arbennig i'r duwiau.
Yn Llyn Cerrig Bach, Ynys M么n, mae archeolegwyr wedi darganfod dros 150 o bethau pres a haearn, gan gynnwys gwaywffyn, tariannau a chleddyfau.
Roedd y Celtiaid yn parchu'r pen dynol yn fawr. Roedd haneswyr y Rhufeiniaid yn dweud bod y Celtiaid yn torri pennau eu cyndadau, a hyd yn oed eu gelynion, gan addoli'r penglog.
Roedd crefydd y Celtiaid yn perthyn yn agos i'r byd naturiol ac roedden nhw'n addoli eu duwiau mewn mannau arbennig fel llynnoedd, afonydd, bryniau a llwyni.
Roedd y lleuad, yr haul a'r s锚r yn bwysig iddyn nhw - credai'r Celtiaid bod grymoedd goruwchnaturiol yn y byd naturiol.
Derwyddon
Derwyddon oedd offeiriaid y Celtiaid. Rydym yn gwybod ychydig am y derwyddon o ddarllen disgrifiadau gan haneswyr Rhufeinig.Prif ganolfan y derwyddon ym Mhrydain oedd Ynys M么n. Roedd y derwyddon yn bwysig yng nghymdeithas Oes yr Haearn ac yn gyfrifol am bob math o seremon茂au crefyddol. Roedden nhw'n aelodau galluog a phwerus o'r llwyth ac yn cael eu parchu gan y Celtiaid eraill.
Mae archeolegwyr yn credu fod y corff yn y mawn o Sir Gaer yn aberth i'r duwiau. Ni allwn fod yn si诺r o'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol ond gallwn gasglu'r cliwiau at ei gilydd a defnyddio ychydig o ddychymyg i geisio deall beth ddigwyddodd.
Cwis 鈥 Y Celtiaid
Mathemateg 8-11 oed
Fideos a gweithgareddau
Cymraeg 8-11 oed
Fideos a gweithgareddau cyffrous ar gyfer dysgu Cymraeg
Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed
More on Hanes
Find out more by working through a topic
- count3 of 4
- count4 of 4
- count1 of 4