大象传媒

Oes y Tywysogion

Mae'r rhan fwyaf o wybodaeth sydd gennym heddiw ar Dywysogion Cymru yn dod o lawysgrif o'r enw 'Brut y Tywysogion'.

Mae 'Brut y Tywysogion' yn adrodd hanes Tywysogion Cymru o 682 i 1282 鈥 sef 600 mlynedd o hanes.

Erbyn tua 1086, roedd y Normaniaid wedi concro Lloegr yn llwyr, ond cymerodd hi sawl canrif iddyn nhw goncro Cymru gyfan.

Yn ystod y cyfnod hwn, yn Oes y Tywysogion (1063-1283), roedd gan y Cymry nifer o arweinwyr cryf a phwysig.

Map i ddangos lleoliad Castell Cas-gwent

Daeth y Normaniaid draw i Gymru o Ffrainc, a nhw oedd y bobl gyntaf i Cymru yn llwyddiannus ers y Rhufeiniaid. Cymerodd 200 mlynedd iddyn nhw lwyddo.

Yn 1066, daeth Gwilym Goncwerwr draw o Normandi yn Ffrainc er mwyn goresgyn tiroedd yr Eingl-Sacsoniaid.

Un o'r pethau cyntaf wnaeth e oedd adeiladu cestyll ar hyd y ffin rhwng Lloegr a Chymru, ac ar hyd arfordir de Cymru. Roedd y Normaniaid eisiau goresgyn Cymru yn llwyr.

Un enghraifft o'r cestyll hyn yw Castell Cas-gwent.

Ond roedd cynlluniau gwahanol gan arweinwyr y teyrnasoedd bach oedd yn bodoli yng Nghymru ar y pryd, sef i frwydro yn erbyn y Normaniaid.

Mewn un frwydr, collodd Gwenllian ferch Gruffydd ei phen wrth iddi arwain byddin yn erbyn y Normaniaid yng Nghydweli yn 1136. Er iddi farw yn y frwydr, ysbrydolodd hi'r Cymry i wrthryfela ymhellach, a daeth ei mab, yr Arglwydd Rhys, yn un o arweinwyr cryfaf Cymru.

Map i ddangos lleoliad Castell Cas-gwent

Fideo - Tywysogion Cymru

Yr Arglwydd Rhys (tua 1134-1197)

Roedd Rhys ap Gruffudd yn dywysog ar ardal o'r enw Deheubarth, sef un o deyrnasoedd Cymru. Ymhen amser, aeth Rhys ap Gruffudd i'w adnabod fel Yr Arglwydd Rhys.

Rhieni Rhys ap Gruffudd oedd:

  • Gruffudd ap Rhys (tywysog rhan o ardal Deheubarth)
  • Gwenllian ferch Gruffudd (sef chwaer Owain Gwynedd)

Ymosododd Harri II, Brenin Lloegr ar Ddeheubarth bedair gwaith i geisio cadw trefn ar Rhys. Yn y diwedd, daeth Harri II a Rhys i ddealltwriaeth ar 么l i Rhys roi dau o'i feibion i'r Brenin fel gwystlon (hostages), a llwyddodd Rhys i gadw ei deyrnas.

Darlun o gastell Aberteifi

Dathlodd Rhys y ffaith ei fod wedi cwblhau ailadeiladu Castell Aberteifi mewn carreg yn 1176 gyda g诺yl Nadolig fawreddog. Hon oedd 'eisteddfod' gyntaf hanes Cymru.

Roedd yr Arglwydd Rhys yn dywysog talentog a chraff. Roedd yn hoff iawn o'r celfyddydau ac yn rhyfelwr dewr.

Ond yn ystod ei flynyddoedd olaf fe wnaeth ei feibion uchelgeisiol wrthryfela yn ei erbyn, ac ar 么l iddo farw, cafodd tywysogaeth Deheubarth ei rannu rhyngddyn nhw.

Ffordd o fyw

Graffeg o grwth, telyn a phingorn
Image caption,
Y crwth, y delyn a'r pibgorn

Gwisg

Roedd gwisgo yn y ffordd iawn yn bwysig i Dywysogion Cymru.

Roedd eu dillad wedi eu gwneud o'r defnydd mwyaf drud a chain. Roedden nhw'n defnyddio rhywbeth o'r enw herodraeth, sef gwisg arbennig oedd yn cael ei gwisgo gan deuluoedd penodol.

Roedden nhw'n addurno eu gwisgoedd yn aml gyda lluniau oedd yn eu cysylltu nhw gyda phobl ddewr oedd wedi eu gwisgo yn y gorffennol, er enghraifft llun o lew ffyrnig.

Roedd hyn yn sicrhau eu bod yn edrych yn bwysig ac yn ddewr iawn.

Beirdd

Roedd Tywysogion Cymru yn talu beirdd i ganu ac adrodd cerddi amdanyn nhw.

Roedd gan bob tywysog ei fardd personol, oedd yn byw yn y llys gydag ef er mwyn gallu canu am fywyd a chymeriad y tywysog.

Roedd y beirdd yn perfformio eu cerddi i gyfeiliant y crwth, y delyn a'r pibgorn. Byddai pobl yn adrodd y cerddi tu allan i'r llys wedyn, fel ffordd o roi newyddion am y tywysog ac i bobl gael dysgu pa mor wych oedd yr arweinwyr.

Graffeg o grwth, telyn a phingorn
Image caption,
Y crwth, y delyn a'r pibgorn

Crefydd

Roedd crefydd yn bwysig iawn i Dywysogion Cymru.

Yng nghyfnod Oes y Tywysogion, os oedd gan bobl ddigon o arian, roedden nhw'n talu rhywun i wedd茂o drostyn nhw.

Roedd tywysogion yn talu eglwysi a mynachlogydd hefyd er mwyn ceisio sicrhau lle yn y nefoedd.

Roedden nhw hefyd yn gallu talu i gael eu claddu mewn lle sanctaidd.

Llywelyn ap Iorwerth (tua 1173-1240)

Sgr么l yn dangos y geiriau 'Cytundeb Heddwch Caerwrangon'
Image caption,
Cytundeb Heddwch Caerwrangon

Tywysog enwog arall Cymru oedd Llywelyn ap Iorwerth. Cafodd ei eni yng Nghastell Dolwyddelan yn 1173.

Roedd e鈥檔 dywysog ar ardal Gwynedd ond roedd e eisiau bod yn dywysog ar Gymru gyfan. Er mwyn gwneud hyn, roedd rhaid iddo ennill teyrnas Deheubarth.

Cafodd Llywelyn gefnogaeth gan frenin Lloegr, pan briododd Siwan, merch y Brenin John, tua 1205. Ond doedd y Brenin John ddim yn hapus pan enillodd Llywelyn ardal Powys yn 1208, ac felly ymosododd y brenin ar Wynedd yn 1211 ac 1212.

Ond ailenillodd Llywelyn ei diroedd gan gadw ei statws yng Ngwynedd ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Mewn 'senedd' yn Aberdyfi yn 1216, galwodd Llywelyn dywysogion Cymru i gyd at ei gilydd i dalu gwrogaeth (homage) iddo, hynny yw roedd rhaid iddyn nhw gydnabod bod Llywelyn yn arweinydd arnyn nhw i gyd.

Yn 1218, yng Nghytundeb Caerwrangon, bu'n rhaid i Harri II hefyd gydnabod mai Llywelyn I oedd prif dywysog Cymru.

Enillodd Llywelyn y teitl 'Llywelyn Fawr', a dyma ysbrydolodd yrfa ei 诺yr, Llywelyn ap Gruffudd.

Sgr么l yn dangos y geiriau 'Cytundeb Heddwch Caerwrangon'
Image caption,
Cytundeb Heddwch Caerwrangon

Llywelyn ap Gruffydd (tua 1230-1282)

Map i ddangos lleoliad Cilmeri

Pan fu farw Llywelyn Fawr, rhannwyd ei eiddo, ei gyfoeth a'i diroedd yn gyfartal rhwng ei bedwar mab.Doedd ei feibion ddim yn dda iawn am rannu, a chafodd un ohonyn nhw, sef Gruffydd, ei garcharu am 15 mlynedd gan ei frawd. Bu farw Gruffydd yn ceisio dianc o'r carchar.

Roedd mab Gruffydd, dyn o'r enw Llywelyn ap Gruffydd, yn flin iawn am hyn. Felly rhoddodd unrhyw un oedd mewn cystadleuaeth ag ef yn y carchar. Drwy wneud hyn, ailenillodd awdurdod a grym ei daid, Llywelyn Fawr.

Yn 1267, cafodd Llywelyn ap Gruffydd ei gydnabod yn Dywysog Cymru gyfan, gan uno'r holl deyrnasoedd yn un genedl.

Yn y diwedd, aeth pethau ar chw芒l i Llywelyn rhwng 1272 ac 1277, a phan wrthododd Llywelyn fynychu seremoni goroni Brenin Lloegr, Edward I, a'i gydnabod fel ei frenin, ymosododd Edward arno.

Mewn sgarmes yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-Muallt, ar 11 Rhagfyr 1282, lladdwyd Llywelyn ap Gruffydd, a daeth annibyniaeth Oes y Tywysogion i ben.

Dyma oedd Llywelyn ein Llyw Olaf.

Map i ddangos lleoliad Cilmeri

Cwis - Gwir neu gau?

Mathemateg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau

Mathemateg 8-11 oed

Cymraeg 8-11 oed

Fideos a gweithgareddau cyffrous ar gyfer dysgu Cymraeg

Cymraeg 8-11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

More on Hanes

Find out more by working through a topic