Sgiliau perfformio
Gweithio gyda sgript
Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.
Defnyddio鈥檙 gofod
Mae si芒p a natur gwahanol lwyfannau a gofodau perfformio yn effeithio ar sut mae dram芒u yn cael eu perfformio a'u llwyfannu. Meddylia'n ofalus am brofiad y gynulleidfa a'r hyn mae鈥檔 ei weld.
Defnyddio dy gorff
Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.
Defnyddio dy lais
Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.