大象传媒

Gweithio gyda sgriptSut i weithio gyda sgript

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part of DramaSgiliau perfformio

Sut i weithio gyda sgript

Rwyt ti wedi penderfynu actio golygfa, llwyfannu cynhyrchiad neu berfformio 芒 sgript? Ble mae dechrau? Beth ydy鈥檙 gwahaniaeth rhwng dyfeisio perfformiad a pherfformio geiriau rhywun arall?

Y man cychwyn ydy edrych ar y sgript a chymryd dy gyfarwyddiadau o鈥檙 fan honno.

Beth mae sgript yn ei ddweud wrthot ti

Byddi di鈥檔 cael cynnig y dramatis personae neu restr o鈥檙 cast. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys nodyn cryno o fanylion cyd-destunol hanfodol am y cymeriad, ee oedran a phroffesiwn.

Dyma restr y cast o ddrama Sera Moore Williams, Mwnci ar D芒n.

Cymeriadau

Hen, Dyn tua 48 mlwydd oed. Mae鈥檔 gyn-filwr a fu鈥檔 ymladd yn rhyfel y Malfinas. Mae鈥檔 dioddef o Anhwylder Pryder 脭l-Drawmatig (PTSD). Mae ganddo ferch oddeutu 30 mlwydd oed (Megan Evans) nad yw wedi ei gweld ers dros 20 mlynedd. Mae hi鈥檔 byw yn 15 Park View.

Mwnci, Bachgen tua 17 mlwydd oed sy鈥檔 dioddef o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Direidus ydyw yn hytrach na drwg. Mae wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO) oherwydd ei ymddygiad. Mae鈥檔 byw gyda鈥檌 fam yn 13 Park View. Dydy e ddim yn adnabod ei dad. Ymuno 芒鈥檙 fyddin yw ei nod.

Shell, Mae hi tua 15 mlwydd oed ac yn gariad i Mwnci. Mae hi鈥檔 feichiog ond does neb yn gwybod. Mae鈥檔 byw gyda鈥檌 mam ond aiff am gyfnodau heb ei gweld gan nad yw ei mam yno weithiau.

Cerddor, Nid yw鈥檔 siarad, ond mae鈥檔 dilyn y ddrama ac yn cyfeilio鈥檔 gyson iddi. Mae鈥檔 ifanc ac mae ei wisg yn awgrymu efallai mai milwr o鈥檙 Ariannin ydy e. Ymddengys ar adegau fod Hen yn ei weld, ond nid yw鈥檙 ddau gymeriad arall yn ymwybodol ohono. Efallai mai ysbryd milwr ifanc a saethwyd gan Hen ydy e.

Related links