大象传媒

Defnyddio dy laisPwysigrwydd dy lais

Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.

Part of DramaSgiliau perfformio

Pwysigrwydd dy lais

Mae llais yn dweud cymaint wrthon ni am bobl. O ble maen nhw鈥檔 dod, eu personoliaeth a sut maen nhw鈥檔 teimlo.

Mae angen i actorion allu defnyddio eu lleisiau mewn ffordd amrywiol gan fod rhaid cyfleu amrywiaeth o emosiynau; rhaid iddyn nhw fod yn er mwyn i bob gair gael ei glywed a rhaid cael digon o gryfder a i lenwi awditoriwm theatr.

Hefyd mae angen i actorion allu rheoli eu hanadl yn rhagorol er mwyn peidio 芒 cholli st锚m a ph诺er eu lleisiau hanner ffordd drwy frawddeg. Rhaid iddyn nhw sicrhau bod y sain maen nhw鈥檔 ei wneud yn cael digon o aer cyson er mwyn gallu dweud y llinellau mewn ffordd gref, a hynny o dan reolaeth.

Elfennau lleisiol i鈥檞 hystyried

Ceir nifer o elfennau lleisiol gwahanol y dylet ti eu hystyried.

  • Traw 鈥 siarad mewn llais uchel, isel neu naturiol.
  • Cyflymder 鈥 pa mor gyflym mae rhywun yn siarad, ee cyflymder ymateb mewn dadl.
  • Saib 鈥 gall saib dramatig ar ennyd hanfodol fod yn effeithiol iawn mewn perfformiad.
  • 罢么苍 - mae dy d么n yn awgrymu dy hwyliau a dy fwriadau i'r gwrand盲wr, ee hapus, trist.
  • Uchder 鈥 rhaid i鈥檙 gynulleidfa allu dy glywed, ond paid 芒 gweiddi arni!
  • Acen 鈥 bydd angen i ti ystyried yr acen fydd yn gweithio i dy gymeriad.
  • Pwyslais 鈥 hwn ydy'r pwysau sy鈥檔 cael ei roi ar eiriau unigol sy'n gwneud iddyn nhw fod yn amlwg. Mae pwyslais penodol i greu effaith yn arwyddocaol a gall newid ystyr brawddeg yn ogystal 芒'r teimlad y tu 么l iddi.
  • Goslef 鈥 y llais yn codi ac yn disgyn. Mae goslef y llais yn codi ar ddiwedd brawddeg wrth ofyn cwestiwn er enghraifft. Mae goslef hefyd yn ein helpu i ddweud beth rydyn ni'n ei feddwl.

Cyn dechrau gweithio mae鈥檔 bwysig dy fod yn cynhesu dy lais er mwyn peidio 芒 rhoi straen ar dannau鈥檙 llais. Gwylia鈥檙 ymarferion cynhesu hyn gyda Phennaeth Llais y National Theatre, Jeanette Nelson.

Related links