Sgiliau perfformio
Gweithio gyda sgript
Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.
Defnyddio鈥檙 gofod
Mae si芒p a natur gwahanol lwyfannau a gofodau perfformio yn effeithio ar sut mae dram芒u yn cael eu perfformio a'u llwyfannu. Meddylia'n ofalus am brofiad y gynulleidfa a'r hyn mae鈥檔 ei weld.
Defnyddio dy gorff
Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.
Defnyddio dy lais
Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.
Gwaith sgript
Creu a llwyfannu perfformiad dyfeisiedig
Wrth lwyfannu perfformiad, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod beth ydy ei bwrpas a phwy ydy eich cynulleidfa. Dewiswch arddull a math o lwyfan sy'n addas. Gallwch roi sglein ar y darn wrth ymarfer.
Datblygu cymeriadau
Wrth ddatblygu cymeriad, meddylia am y llais, symudiadau, iaith y corff ac ystumiau. Dere o hyd i'w hamcanion a'u cymhellion, ac ymchwilia i gyd-destunau cymdeithasol, diwyllianol a hanesyddol.
Elfennau drama
Elfennau drama ydy'r cynhwysion sy'n rhoi si芒p a chymeriad i ddarn o waith. Yn ogystal 芒 chymeriadau, plot a gweithredoedd, ystyria pa ffurfiau a chonfensiynau dramatig i'w defnyddio.
Strategaethau ymchwiliol
Mae strategaethau ymchwiliol yn dechnegau galli di eu defnyddio er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gymeriadau, ymchwilio i olygfeydd ac i arbrofi gyda chymeriadu.
Gwaith byrfyfyr
Dysgu sut i greu a datblygu cymeriadau, a chreu cynnwys gan ddefnyddio amrywiol dechnegau wrth drafod gwaith byrfyfyr ar gyfer TGAU Drama.
Dehongli a llwyfannu golygfa
Mae yna amryw o bethau y mae鈥檔 rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.
Ymateb i ysgogiad
Mae sawl ffordd o ddarganfod syniadau ar gyfer creu drama. Galli di ddefnyddio sgriptiau, them芒u a chymeriadau o ddram芒u neu galli di ddefnyddio ysgogiad megis cerddoriaeth a barddoniaeth.
Sgript a gwaith byrfyfyr
Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i them芒u mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.
Strwythur drama
Strwythur drama ydy'r drefn mae'r digwyddiadau a鈥檙 golygfeydd yn cael eu gosod ynddi. Gall straeon fod 芒 strwythur llinellol neu anllinellol. Mae tyndra dramatig yn ddyfais effeithiol.
Arddulliau, genres ac ymarferwyr
Theatr Epig a Brecht
Mae syniadau'r dramodydd, Bertolt Brecht, yn ddylanwadol iawn. Roedd am wneud i'r gynulleidfa feddwl ac roedd yn defnyddio technegau i'w hatgoffa nhw eu bod yn gwylio theatr ac nid bywyd go iawn.
Theatr Gerdd
Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.
Naturiolaeth a Stanislavski
Mae syniadau Konstantin Stanislavski, yr ymarferwr Rwsiaidd, yn ddylanwadol iawn. Roedd e'n credu mewn perfformiadau naturiolaidd sydd mor realistig 芒 phosib. Galli di ddefnyddio ei dechnegau hefyd.
Theatr Gorfforol
Mae Theatr Gorfforol yn dangos nad oes rhaid defnyddio geiriau i fynegi syniadau. Mae'n defnyddio technegau megis symudiadau, meim a dawns, a gall ymchwilio i faterion cymdeithasol a diwylliannol.
Theatr Mewn Addysg
Mae Theatr Mewn Addysg yn cael ei defnyddio i gymell dysgu effeithiol mewn ysgolion. Mae angen ystyried oedran a gofynion y gynulleidfa yn ofalus er mwyn eu diddori a chyfleu neges.
Byd y ddrama a dylunio theatr
Cyfrwng drama
Mae yna lawer o bethau i'w hystyried wrth baratoi i lwyfannu drama. Mae angen i ti gyfuno ystod o elfennau sy'n addas i dy broject megis gwisgoedd, iaith, sain a cherddoriaeth.
Dylunio theatr
Mae cynllun y set, y goleuo, y sain a'r gwisgoedd, a'r ffordd mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio oll yn cyfrannu at brofiad y gynulleidfa. Mae yna nifer o rolau ym maes dylunio theatr.
Ysgrifennu am ddrama a theatr
Disgrifio iaith y corff
Mae iaith y corff yn datgelu llawer am beth mae person yn ei feddwl mewn gwirionedd. Felly mae cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb, ystumiau a symudiad yn arfau pwerus i'r actor eu defnyddio.
Disgrifio gwisg
Mae dewis y gwisgoedd cywir ar gyfer cymeriadau yn hollbwysig mewn dram芒u cyfnod a rhai modern. Dylen nhw fod yn addas i gyfnod a diwylliant y ddrama ac i statws y cymeriadau.
Disgrifio mynegiant yr wyneb
Mae mynegiant yr wyneb yn gallu dweud llawer wrthon ni am gymeriadau, sefyllfaoedd ac is-destun. Mae'n bwysig dy fod yn dysgu beth maen nhw'n ei ddatgelu am emosiynau a hwyliau, a sut i'w defnyddio.
Disgrifio llais
Mae'r llais yn arf pwerus mewn drama. Wrth ddisgrifio gwaith llais, ystyria elfennau megis traw, cyflymder a thonyddiaeth. Dylai cymeriadau ddefnyddio cywair iaith sy'n addas iddyn nhw bob tro.
Byd y ddrama
Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal 芒 sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddram芒u gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.
Ysgrifennu a gwerthuso theatr
Os byddi di鈥檔 ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a鈥檙 perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i鈥檙 set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.