´óÏó´«Ã½

Archifau Chwefror 2009

Trydydd Blair i Gymro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:06, Dydd Llun, 23 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

michael-sheen.jpg

Tri chynnig, yn wir, i'r Cymro Michael Sheen.

Cyn bo hir bydd yr actor a anwyd yng Nghasnewydd Chwefror 5, 1969, yn chwarae rhan Tony Blair am y trydydd tro mewn ffilm.

Yn barod gwnaeth argraff yn chwarae'r rhan yn ffilmiau teledu Stephen Francis The Deal a The Queen a sgriptiwyd gan Peter Morgan - y gyntaf yn mynd at wraidd yr annifyrrwch a dyfodd rhwng y ddau hen gyfaill, Gordon Brown a Tony Blair.

Ar fin gweld golau dydd yn awr mae The Special Relationship lle mae Morgan yn olrhain y digwyddiadau a arweiniodd at ymwneud dadleuol Prydain a Rhyfel Irac yn sgil y 'berthynas arbennig' ystrydebol â'r Unol Daleithiau.

Ond er pob canmoliaeth yn y gorffennol mae Sheen - nad yw erioed wedi cyfarfod Tony Blair - wedi dweud yn barod wrth y wasg mai hwn fydd ei ymddangosiad olaf fel y cyn Brif Weinidog.

Yn ystod ei yrfa gwnaeth Sheen gryn enw iddo'i hun fel dynwaredwr - neu ddehonglwr - pobl go iawn gyda chanmoliaeth fawr i'w ymddangosiad diweddar fel David Frost yn y ffilm Frost / Nixon ddechrau 2008.

Dehongliad a ddisgrifiwyd gan Frost ei hun fel "marvellous".

Bwriodd Sheen ei brentisiaeth yn chwarae'n drawiadol iawn y comedïwr Kenneth Williams yn Fantabulosa ac wedi hynny y pêl-droediwr Brian Clough The Damned United am 44 diwrnod hwnnw yn gofalu am Leeds United.

Er, dywed Sheen ei hun mai cefnogwr Abertawe yw ef ei hun.

O bosib, bod y dynwared yma yn rhywbeth sy'n rhedeg yn y teulu gan fod ei dad yn ddynwaredwr - lookalike - proffesiynol Jack Nicholson!

Yn sgil llwyddiant Sheen fel Blair a Frost un cwestiwn bach sy'n mynnu goglais rhywun yw, Pwy fyddai'n chwarae'r rhannau pe byddai Frost yn holi Blair mewn ffilm!

Cofio'r dyn sbageti

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:06, Dydd Llun, 23 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Y mae o'n parhau y tric Ffŵl Ebrill gyda'r gorau erioed.

Yr adroddiad ar y rhaglen deledu, Panorama yn 1957 am gynaeafau Sbageti yr Eidal.

Ac yn ddiweddar, bu farw'r gŵr y tu ôl i'r syniad anhygoel hwnnw - cyfarwyddwr teledu o'r enw Robert Tronson a anwyd fis Mai 1924 yn Chilmark, Wiltshire, ond a dreudliodd ei flynyddoedd cynnar yn Sir Benfro lle'r oedd ei dad yn swyddog gyda'r Llynges.

Hyd ei farwolaeth, Tachwedd 27 y llynedd, bu'n gefnogwr brwd, yn ôl un o'i gofianwyr, tîm rygbi Cymru.

Fel cyfarwyddwr bu'n gysylltiedig â sawl cynhyrchiad teledu poblogaidd dros y blynyddoedd gan gynnwys All Creatures Great and Small, Bergerac, Rumpole of the Bailey a'r Darling Buds of May lle daeth Catherine Zeta Jones i amlygrwydd.

Ef hefyd sicrhaodd ei gytundeb cyntaf i Rolf Harris.

Ond i lawer ohonom yr eitem yna ar Panorma am y cynhaeaf sbageti oedd ei waith mwyaf pryfoclyd.Ìý


Yn sicr, gyda'i darluniau o weithwyr yn cynaeafau y llinynnau hirion o sbageti oddi ar frigau coed ar lechweddau'r Eidal, twyllodd yr eitem filoedd ar filoedd o wylwyr teledu Prydain Ebrill 1, 1957.

Yr adeg honno, wrth gwrs, yr oedd sbageti yn fwyd dieithr i'r rhan fwyaf o bobl a oedd yn barod iawn i gredu ei fod yn llythrennol dyfu ar goed!

Colli aelwyd yn y gogledd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:31, Dydd Llun, 23 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

"Mae Theatr Gwynedd yn fan perfformio arwyddocaol wedi ei lleoli yng nghanol Prifysgol Cymru Bangor," yw'r geiriau sy'n parhau ar wefan hen Theatr Gwynedd, Bangor!

Daeth pa mor arwyddocaol yn amlwg iawn o wir yr wythnos ddiwethaf wrth i Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi mai'r unig le i'r gogledd o Aberystwyth lle gellir gweld ei chynhyrchiad nesaf fydd theatr Feniw Gogledd Cymru yn Llandudno - yn awr bod Theatr Gwynedd wedi cau.

A does dim lle yng ngwesty Clwyd Theatr Cymru i'r cwmni y tro hwn ychwaith.

Trafferthus fu hanes Theatr Gwynedd o'i chychwyn bron. Yn fuan yn ei hanes bu dan fygythiad cau nes i'r fersiwn hwnnw o Gyngor Sir Gwynedd a sefydlwyd yn 1975, ddod i'r adwy yn dilyn ymgyrch gyhoeddus a dylanwad y diweddar Gynghorydd I B Griffith.

Dyma'r theatr hefyd lle byddai'r gynulleidfa yn cael traed oer gyda chwyno croch ei bod yn oerech o fewn y theatr ar adegau nag oddi mewn diolch i gyfundrefn dwymo wedi ei chanoli yn adeiladau'r Brifysgol uwchben adeilad y theatr.

Aeth pethau'n oerach fyth ddiwedd 2008 gyda chyhoeddiad y byddai'n rhaid cau'r adeilad am resymau 'iechyd a diogelwch' ac ofer fu pob ymdrech i gadw'r lle yn agored y tro hwn ac mae ardal gyda chynulleidfa Gymraeg go drwchus yn amddifad o theatr sylweddol erbyn hyn.

A dyma ddod at gynhyrchiad heb aelwyd ogleddol Theatr Genedlaethol Cymru - yn gorfod perfformio mewn sgubor o theatr fawr yn Llandudno.

Ac mae'n siŵr bod rhywfaint o bryder a fydd trosiad Cymraeg Mererid Hopwood o ddrama'r Sbaenwr, Federico Garcia Lorca, TÅ· Bernada Alba, yn llenwi'r lle gyda disgwyl i bobl deithio o cyn belled a Phen Lly^n a gogledd Môn.Ìý

Cawn weld.

Bydd y daith yn cychwyn yng Nghaerdydd Mai 13 gan gyrraedd Llandudno, Mehefin 18. Bydd digon o le i bawb!

Lincs

Y Beibl yn llyfr dieithr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:12, Dydd Iau, 19 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Bardd y Frenhines fu'n mynegi pryder fod y Beibl yn llyfr dieithr i gymaint o bobl ifainc sy'n astudio llenyddiaeth ac ymhel â sgrifennu heddiw.

Yn anffyddiwr ei hun, nid cwyn grefyddol, ydi un Andrew Motion - ond un lenyddol gan waredu mai dim ond y crap lleiaf sydd gan lawer o fyfyrwyr heddiw ar straeon mawr y Beibl a oedd mor gyfarwydd i genedlaethau blaenorol.

Dod â'r Beibl yn ôl
Mae Motion yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Llundain ac mewn cyfweliad diweddar galwodd am ailedrych ar faes llafur ysgolion uwchradd er mwyn goleuo pobl yn y Beibl.

Mae'r diffyg goleuni, meddai, yn ei gw eud yn amhosib i fywyrwyr ddeall gweithiau beirdd mawr Saesneg fel Milton.

"Os yw pobl yn meddwl mai gwthio crefydd i lawr corn gyddfau pobl yw hyn dydyn nhw ddim yn meddwl ddigon caled am y peth," meddai gan ychwanegu ei fod fwy i'w wnewud â grym geiriau i gysylltu a gwirioneddau mawr bywyd ac hefyd hanes dylanwad yr iaith ar y straeon hynny.

Beth am Gymru?
Gyda thrai yn hanes ysgolion Sul mae rhywun yn cael ei bryfocio i holi tybed a ddylai ofnau Andrew Motion fod yn destun pryder yng Nghymru hefyd gyda'n llenyddiaeth ninnau mor gyforiog o ddylanwadau Beiblaidd o ran arddull yn ogystal ag o ran cynnwys.

Dylanwad drwg
Nid pawb fyddai'n cydweld, fodd bynnagag, ai cwbl lesol fu'r dylanwad hwnnw.

Er enghraifft, yn nofelydd ac yn un o feistri'r stori fer yn Lloegr yn ei ddydd ystyriai W Somerset Maugham ddylanwad y Beibl ar rai o sgrifenwyr Lloegr fel peth niweidiol.

"Yn fy meddwl i cafodd Beibl y Brenin James ddylanwad niweidiol ar ryddiaith Saesneg," meddai gan ddisgrifio'r Beibl fel llyfr estron o ran ei arddull a'i ddelweddau.

Mae'n cynnwys delweddau "nad oes ganddynt ddim i'w wneud â ni" meddai.

Do, cydnabyddodd fawredd ac ardderchogrwydd y sgrifennu ond dyna'n union, yn ei olwg ef, oedd yn ei wneud mor ddieithr i ddull naturiol y Sais o sgrifennu.

"Mae'r union ormodiaethau, y trosiadau gorflodeuog yn estron i'n hathrylith ni," meddai wrth ddadlau am yr hyn a alwai'n ieithwedd Saesneg blaen ac onest rhydd o addurniadau a blas y pridd arni.

gwersi America
Yn y cyswllt hwn dadleuodd fod gan lenorion Saesneg Lloegr lawer i'w ddysgu oddi wrth yr Americanwyr.

"Gan fod sgrifennu Americanaidd wedi osgoi gormes Beibl y Brenin James," meddai.

Yn hytrach mae eu harddull hwy wedi ei sylfaenu ar yr iaith fyw o'u cwmpas.

"Ac ar ei gorau y mae iddi uniongyrchedd a bywiogrwydd a grym sy'n gwneud i'n dull mwy wrbân ni ymddangos yn swrth."

Ac mae'n ychwaneu iddi fod o fantais i lenyddiaeth Americanaidd i gymaint o sgrifenwyr fod yn ohebwyr papurau newydd wedi eu rhoi ar ben ffordd i ddefnyddio iaith fyrlymus yr alwedigaeth honno.

Mae llawer wedi newid er pan oedd o'n sgrifennu hyn yn 1938 wrth gwrs - ond mae'n dal yn ddifyr dyfalu faint gwell neu faint gwaeth fyddai rhyddiaith y Gymraeg lle bu'r Beibl yn gymaint o ddylanwad nid yn unig ar ein ffordd o fyw ond ein ffordd o sgrifennu hefyd.

Ac a yw'r arddull honno mor ddieithr i lenorion Cymraeg heddiw ac a ddywed Andrew Motion yw hi i sgrifewnyr Saesneg?

Tybed fydd yna Amenio ei eiriau yr ochr hon i Glawdd Offa?

Dibynnu gormod ar bwrs y wlad?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:14, Dydd Mercher, 18 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Beth mae rhywun i'w wneud tybed o'r hyn sy'n cael ei ddweud y dyddiau hyn am nawdd i bethau Cymraeg?

Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw hi i fwy nag un godi amheuon yn ddiweddar fod gweithgareddau Cymraeg fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn or ddibynnol ar arian cyhoeddus - er bod yr Eisteddfod ei hun yn gwadu hynny.

Ond pan fo'r Gweinidog Diwylliant yn y Cynulliad yn lleisio'r fath farn mae'n amser cymryd sylw.
Go brin mai yn ddifeddwl y dywedodd Alun Ffred Jones AC beth fel hyn ar Pawb a'i Farn yn ddiweddar:

"Yr ydym mewn peryg yn y Gymru Gymraeg o feddwl mai grant ydi popeth - os yda ni eisiau cynnal rhywbeth yn Gymraeg, wel, ryda ni eisiau grant i'w wneud o fel tasa dim byd yn medru cynnal ei hun - a dwi'n meddwl fod hwnna'n ffordd beryglus iawn o fynd."

Bosib mai'r hyn sy'n rhoi hyd yn oed fwy o arwyddocâd i'r geiriau yw'r ffaith mai cenedlaetholwr yw'r Gweinidog.

Ac yntau ar hyn o bryd yn ystyried cais am arian gan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'n debyg i selogion yr ŵyl honno gymryd eu gwynt atynt hefyd o'i glywed yn dweud ar yr un rhaglen mai dim ond "hyn a hyn" o arian sydd ar gael i helpu pethau fel yr Eisteddfod.

"Dwi yn meddwl fod angen i'r Eisteddfod edrych arni hi ei hun a dweud o ddifrif ai dyma'r math o Ŵyl yda ni'n gallu ei fforddio a dyma'r math o Ŵyl yda ni eisiau ac a ydy'r arian yda ni'n wario yn cael ei wario ar weithgaredd diwylliannol ynteu ydi o i gyd yn mynd ar y ffabric a'r adeiladwaith o'i gwmpas achos mae'r Eisteddfod yn costio erbyn hyn yn agos at £3m ac yn sicr mae'n rhaid i'r Eisteddfod edrych yn ofalus arni ei hun ai dyna'r math o beth sy'n gymeradwy i'r dyfodol."

Pe byddwn i'n Sais fe fyddwn i'n awgrymu fod hwn ynÌýÌý²õ²úê²õ i'w wylio gyda chryn ddiddordeb am arwyddion go iawn fod tynhau ar y gweill ar bwrs y wlad.

Drama olaf Wil Sam

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:49, Dydd Llun, 16 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Wedi i daith bresennol Dal i Bwmpio Cwmni Bara Caws ddirwyn i ben ganol Mawrth bydd y cwmni'n cychwyn yn syth ymarfer drama gan y diweddar Wil Sam nad yw erioed wedi ei pherfformio o'r blaen.

Dywedodd Linda Brown o'r cwmni fod y dramodydd

wil-sam.jpg

yn dal i weithio ar y ddrama pan fu farw y llynedd.

"Yr oedd wedi rhoi'r ddrama inni ond mi ofynnodd mdani'n ôl gan nad oedd o'n gwbl hapus medda fo efo'r diweddglo ac eisiau ei wella," meddai.

"Yn anffodus bu farw cyn gallu gorffen ond mae Elin ei ferch a Valmai Jones wedi golygu'r ddrama inni ar gyfer ei pherfformio."

Y cyfarwyddwr fydd Betsan Llwyd gyda Bryn Fôn, Delyth Eirwyn, Valmai Jones a Carwyn Jones yn cymryd rhan yn yr hyn sy'n cael ei disgrifio fel "y perl olaf o waelod y ciarpad bag".

Mae'r ddrama, ±á²¹±ô¾±²ú²¹±ôŵ, yn dilyn ymdrechion cwpwl ifanc yn Eifionydd "i ffeindio gwir hapusrwydd tu hwnt i hualau a chadwyni cymdeithas" a'i theitl gwreiddiol oedd Cadwyni a ±á²¹±ô¾±²ú²¹±ôŵ^.

Bydd yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru, Ebrill 15 gyda pherfformiad ym Methesda, Dyffryn Ogwen.

Wrth gwrs mae Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio ar hyn o bryd gydag un arall o ddramâu Wil Sam sy'n cael ei hadolygu ar y wefan hon.

Lincs

Blog newydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:27, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Croeso i flog newydd gwefan Cylchgrawn.

Bydd y blog yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd - o leiaf unwaith yr wythnos - ac yn gyfle i drafod pob math o bynciau celfyddydol gan gynnwys llyfrau. ffilm a drama.
O bryd i'w gilydd bydd gennym flogwyr gwâdd yn cyfrannu.
Ac wrth gwrs y mae croeso i chwithau ymateb i'r hyn sy'n cael ei ddweud nid yn unig yn y blog ond ar safleoedd eraill Cylchgrawn - Llyfrau, Ffilm, Theatr, Crefydd, Tramor.
Croeso.

Cofio herio prifardd a llythyr pryfoclyd Syr Thomas

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:26, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

eluned_phillips.jpg

Hyd y gwelaf i, dim ond dau a dynnodd sylw yn y wasg Gymraeg, yn dilyn marwolaeth Eluned Phillips, at bennod anffodus yn ei hanes wedi iddi ennill ei hail Goron - yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983.

Y cyntaf i godi'r grachen oedd Colin B Jones yn Y Cymro sy'n cofio sut y cafodd yr unig ferch i ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ei herio ar deledu i roi ei llaw ar y Beibl mai hi gyfansoddodd pryddest fuddugol Llangefni..

Yna, yn y rhifyn diweddaraf o Barn, Chwefror 2009, mae Vaughan Hughes yn ymhelaethu a dwyn i gof sut y rhoddodd Syr Thomas Parry dro pryfoclyd i'r pwdin dros chwe mis yn ddiweddarach.

Mae'r rhai hynny ohonom a oedd yn Llangefni yn 1983 yn cofio bod stori'n dew ar y Maes bnawn Iau nad y bardd oedd newydd ei choroni oedd gwir awdur y gwaith a ddewiswyd yn orau gan y beirniaid gyda nifer o eisteddfodwyr dylanwadol gan gynnwys y diweddar Bedwyr Lewis Jones yn bytheirio am y peth.

Wythnos neu fwy wedyn anfonodd y rhaglen deledu Newyddion ei gohebydd a chyflwynydd Rod Richards yn unswydd i Genarth i holi'r bardd.

"Gyda'r farddones bengoch yn gwadu unrhyw gamwri ysgogwyd yr holwr i ofyn yn y diwedd a fyddai hi'n 'rhoi ei llaw ar y Beibl' ei bod yn dweud y gwir," meddai Colin B Jones.

Yn Barn Chwefror 2009 mae'r dihafal Vaughan Hughes yn mynd a'r hanes gam ymhellach trwy ddwyn i gof lythyr direidus yn Y Cymro gan Syr Thomas Parry ar Fawrth 20 1984 ar drothwy dyddiad olaf anfon ymgeision ar gyfer y Genedlaethol yn Llambed y flwyddyn honno:

"Y mae'n amser gyrru'r cyfansoddiadau i mewn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ac rwy'n sicr fy mod yn mynegi teimlad cannoedd o'm cydwladwyr wrth ddweud fy mod yn gobeithio na fydd neb yn anfon cyfansoddiad i mewn yn enw person arall, a'r person hwnnw'n cael y wobr a'r amlygrwydd heb ei haeddu, fel a ddigwyddodd yn Llangefni y llynedd, ac o leiaf unwaith cyn hynny."

Gan fwy nag un dehonglwyd hyn, yn gam neu'n gymwys, fel cyfeiriad at Eluned Phillips a'i buddugoliaeth yn Llangefni a chyn hynny yn Y Bala - gan gynnwys Eluned ei hun mae'n debyg gan iddi ymateb yr wythnos wedyn yn dweud i Syr Thomas gael ei gamarwain gan "sibrydion enllibus".

"Yn anffodus mae sibrydion yn ymledu yn aflan ac afiach," meddai.

Yn ogystal ag enillwyr y Gadair a'r Fedal Ryddiaith yn Llangefni - y ddau frawd Einion a T Wilson Evans - un arall a ymatebodd oedd y Prifardd W J Gruffydd, Elerydd, yn ymateb meddai "oherwydd y pardduo a fu ar fy enw mewn canlyuniad i lythyr Syr Thomas Parry" gan ychwanegu na fu iddo ef erioed "llunio, newid, na chaboli unrhyw linell a fu yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol" - ar wahan wrth gwrs i'r ddau achlysur yr enillodd ei hun.

Ymateb Syr Thomas i hyn oll oedd llythyr yn mynegi syndod at yr ymateb gan ddweud "ei fod yn ddirgelwch llwyr i mi sut y daeth Miss Phillips, Mr Einion Evans, Mr Wilson Evans ac yn arbennig y Parch W J Gruffydd i'r stori, oherwydd ni chrybwyllais i enw neb ohonynt."

Holodd pam y bu iddyn nhw brotestio mwy na'r 104 a enillodd wobrau yn Llangefni.

Mae Vaughan Hughes yn cynnig un awgrym dioddorol dros ymyrriad Syr Thomas ond am wirionedd y digwyddiad dywed yn enigmatig "fe ddaw dydd pan y gellir datgelu rhagor".

Yn y cyfamser mae digon yn erthygl Vaughan i gnoi cil drosto!

Lincs

Tocyn cynnar i'r Scala!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:25, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

tocyn.jpg

Ar adeg pan fo cymaint o sôn am sinemâu bychain yn cau yr oedd dydd Gwener Chwefror 13 - er gwaethaf y dyddiad - yn un o gryn bwys yn nhref Prestatyn.

Yno agorwyd sinema a chanolfan gelfyddydau newydd gwerth £3.5m.

A'r gyntaf, heb amheuaeth, i fod a thocyn mynediad i sinema newydd y 'Scala' oedd Pat Smith o Brestatyn.

Yr oedden nhw ganddi hi cyn i'r hen 'Scala' oedd y safle gau yn y flwyddyn 2000!

Dywedodd Pat iddi eu hennill â thocyn raffl a brynodd gan ei hwyres a oedd yn wyth oed ar y pryd ac yn ddisgybl yn Ysgol gynradd Penmorfa.

Ond fe gaeodd y sinema cyn i mi fedru eu defnyddio," meddai, "ond maen nhw wedi bod gen i yn y tÅ· ers hynny. Yr oeddwn i'n ffyddiog y byddai'n ail agor rhyw ddiwrnod."

A chadarnhaodd y bydd y Scala newydd yn anrhydeddu'r tocynnau hynny dros wyth mlynedd yn ddiweddarach!

Rhagor

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.