Ar un adeg un ffordd o ddangos mewn ffilm fod cymeriad yn soffistigedig oedd smocio.
Yr adeg honno yr oedd ysmygu - smocio - yn beth cŵl iawn i gymeriad mewn ffilm ei wneud gyda'r ffordd yr oedd actor yn dal sigarét ac yn chwythu allan y mwg yn dangos o ba radd o soffistigeiddrwydd oedd o.
Yn ddynion deniadol ac yn ferched dengar byddai'r sigarét yn ychwanegu at eu hawddgarwch a'u hud.
Darllen gweddill y cofnod
Ar drothwy'r Nadolig gofynnodd golygydd cylchgrawn i nifer o bobl - ddoeth mae'n debyg - beth fyddent hwy yn ei roi yn anrheg i'r Baban Iesu pe byddai'n cael ei eni heddiw.
Wedi'r cyfan ni fyddai i Aur a Thus a Myrr yr arwyddocâd heddiw ag oedd iddyn nhw ddwy fil a naw o flynyddoedd yn ôl.
Darllen gweddill y cofnod
Yn dilyn ei ymweliadau neithiwr mae sibrydion y bydd Santa Clôs ei hun yn cael ei alw gerbron un o bwyllgorau y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd ACau yn ail gyfarfod wedi gwyliau'r Nadolig.
Hynny i ateb honiadau difrifol bod Santa - sydd hefyd yn galw'i hun wrth yr enw Sïon Corn mewn rhai ardaloedd - yn gweithredu 'Loteri Gôd Post' wrth rannu anrhegion i blant yng Nghymru.
Darllen gweddill y cofnod
Awgrymodd rhywun y dylem gyhoeddi rhestr o hen, hen, arferion Nadolig na fyddid wedi eu caniatáu dan reolau iechyd a diogelwch modern. Felly dyma nhw - ond mae'n siŵr bod rhai eraill. Anfonwch i ddweud.
Darllen gweddill y cofnod
Yn anad dim arall mae'r Nadolig, wrth gwrs, yn Dymor y Jôcs wrth i filoedd o gracyrs gael eu tynnu.
Ond go brin y bydd y gracyr ddrutaf yn esgor ar well stori na honno sy'n cael ei hadrodd gan Hafina Clwyd yn ei llyfr diweddaraf, detholiad o'i dyddiaduron, Prynu Lein Ddillad.
Awst 1980 dywed:
"Stori . . . am ffermwr o ardal y Bala yn gwerthu twrci i ryw Sais a hwnnw'n cynnig pris isel ac ebe'r ffarmwr, 'What do you think it is, a roof bird?'"
- Rhagor am Prynu Lein Ddillad YMA
Mae o'n teithio mewn car llusg heb ochrau iddo fo a heb wisgo gwregys diogelwch.
Mae o'n parcio ar ben toau.
Darllen gweddill y cofnod
Mae'r Nadolig yn frith o ddywediadau sy'n pendilio rhwng yr ystrydebol a'r arwynebol.
Yr ydym ni i gyd wedi cael ein dal yn eu dweud nhw - ond rhag ofn ichi fethu ambell un dyma ddetholiad o Wirioneddau'r Å´yl - neu fwyaf tebyg, Gwirion Eddau'r Wyl rhai ohonyn nhw yn bethau a glywais wrth basio tra'n crwydro siopau yn ystod y dyddiau diwethaf fel yr un cyntaf un gan wraig dros ei chanol oed oedd yn amlwg yn gweld ei hun mewn peryg o wario gormod ar yr hyn debygwn i oedd yn wyrion.
"Ma nhw'n [plant] câl digon yn barod," medda hi.
Gwirionedd Mwyaf Gŵyl y Ga'i siŵr o fod.
Dyma ichi ragor:
Darllen gweddill y cofnod
Y cylchgrawn Barn yw'r diweddaraf i fytheirio yn erbyn y modd y dewiswyd yn ddietholiad Archdderwydd nesaf Cymru.
"Mynegwyd siom ar ambell i flog na fyddai cystadleuaeth . . . am yr anrhydedd o fod yn Archdderwydd," meddai Vaughan Hughes yn ei golofn Cwrs y Byd yn rhifyn Rhagfyr-Ionawr o'r cylchgrawn.
Darllen gweddill y cofnod
Y gair cyntaf ddaeth i'm meddwl i wrth ddarllen am y pedwar yna o Gymru yn cyrraedd Copenhagen ar gefn beic oedd deurodur.
Deuroduron - a deurodwyr am y bobl sy'n eu marchogaeth - yn un o nifer o eiriau Cymraeg a fathwyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ond â fethodd a chydio yn nychymyg y Cymry.
Darllen gweddill y cofnod
Mi fydda i'n meddwl mai'r peth anoddaf i rywun sy'n cymryd drosodd swydd rhywun arall ydi peidio ag ymddangos fel pe byddai'n feirniadol o'r sawl oedd yno o'i flaen.
Yr oeddwn i'n meddwl hyn pan gamodd Carwyn Jones i esgidiau Rhodri Morgan y dydd o'r blaen, er enghraifft.
Darllen gweddill y cofnod
Cyfaill dynnodd fy sylw at hwn.
Yng Nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth y Sadwrn o'r blaen cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor a fu ar Fehefin 27.
Y chweched eitem, meddai, a'i gogleisiodd ef - Adroddiad y Panel Enwebu. A dyma'r cofnod air am air:
Darllen gweddill y cofnod
Er nad ydi hwn y Dolig mwyaf llewyrchus ar gyfer y rhai hynny sy'n chwilio am lyfrau mae hi'n bosib llunio rhestr o ddyrnaid o lyfrau gwerth eu cael - gwerth eu rhoi hyd yn oed.
Felly gan obeithio y bydd hynny o help dyma Ddeg Dolig Cylchgrawn - gyda gwahoddiad i chithau gymeradwyo rhagor neu hyd yn oed gefnogi neu ddadgymeradwyo. Beth bynnag, yn y cyfamser meddyliwch am y rhain:
Darllen gweddill y cofnod
A ninnau wedi bod yn crafu rhew y bore oddi ar ffenestri ein ceir ddechrau'r wythnos doedd hi ddim yn syndod i'r wythnos ddod i'w therfyn gyda thrafodaeth ar y pwnc hwnnw ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.
Ymadrodd a ddefnyddiwyd sawl gwaith y bore ma oedd "Rhewi'n gorcyn" i gyfleu pa mor ddrwg oedd hi.
Darllen gweddill y cofnod
Tybed ydi o'n destun traethawd ymchwil?
Dylanwad y Cyri ar Wleidyddiaeth yng Nghymru a Phrydain.
Beth sydd i'w gyfrif am y berthynas od rhwng gwleidyddion a chyri?
Darllen gweddill y cofnod