Hoff Lyfrau 2007 'Blwyddyn dda am nofelau'
Blwyddyn dda am nofelau oedd disgrifiad Meg Elis o 2007.
Yr oedd Meg, sy'n un o adolygwyr y wefan hon, ac yn trafod y chwe llyfr gorau a ddarllenodd yn ystod y flwyddyn ar Raglen Sian Thomas, ddydd Iau, 27 Rhagfyr 2007.
gan Angharad Tomos.
Dywedodd mai dawn fawr Angharad yw bod ei llyfrau hi i gyd yn wahanol "a fedrwch chi byth ddweud fod hwn yr un fath a'r un cynt".
Nofel am yr iselder y mae mamau yn ei brofi weithiau yn dilyn esgor plentyn yw ei hun ddiweddaraf.
"Mae'n trin y pwnc yn sensitif iawn ond mae yna lot o ddoniolwch hefyd a lot sy'n gwneud i bobl deimlo a meddwl," meddai gan ganmol ei dewrder yn trin pwnc nad yw'n un hawdd ei drin.
gan Annes Payne.
Cyfrol y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mi wnes i fwynhau Rhodd Mam oherwydd ei bod wedi ei sgrifennu o safbwynt plentyn. Mi fyddai'n teimlo weithiau fod syrffed o hynny ond mae hwn yn un o'r goreuon," meddai.
"Byd plentyn heb fod yn sentimental."
Mr Cassini
gan Lloyd Jones.
Cyfrol fuddugol Saesneg Llyfr y Flwyddyn gan awdur sy'n Gymro Cymraeg.
"Llyfr Saesneg ond un sy'n cyffwrdd 芒 nifer o bethau y byddai darllenwyr Cymraeg yn gyfarwydd 芒 hwy," meddai gan ychwanegu iddi gael gwedd newydd ar lawer o bethau trwy ei ddarllen.
gan Meinir Pierce Jones.
Nofel sy'n "gyfoes ac yn trin them芒u dipyn bach yn anodd - etifeddu cartref ar 么l i dad farw . . . ond mae'n trin yn arbennig o dda."