Dyma gynnwys y llythyr
Annwyl Gyfaill,
Mae'n debyg nad oes eisiau i mi ddweud wrthych pwy ydwyf wrth ddechrau fy llythyr yma, oherwydd bydd ei aflerwch yn ateb drostaf.
Yn gyntaf dim 'r wyf yn disgwyl eich bod yn dal i wella; wel 'r wyf fi yn byw mewn lle doniol iawn 'rwan, ac anodd enbyd i chwi yw gwybod pa beth ydych yma, - yr ail ddiwrnod ar 么l i mi gyrraedd yma, 'r oedd dau hogyn yn cerdded yn araf rhwng y tentiau yn y gwres, a dyma'r ddau yn dweud wrth fy mhasio - "Well Kidd", ond drannoeth ar y parade dyma'r swyddog yn gofyn i mi ymysg eraill - "Well Man did you shave this morning," ynte'r swyddog a'r hogiau oedd yn iawn, cewch chwi ddweud.
Hefyd 'r wyf wedi digwydd disgyn mewn lle llawn o brofiadau rhamantus ac anghyffredin, - pan oedd tri neu bedwar ohonom yn cwyno ar y gwres, daeth hen filwr wyneb-felyn heibio a dyma fo'n dweud - "Wel peidiwch a cwyno boys bach, beth petae chwi yn Soudan erstalwm 'r un fath a fi, 'r oedd gennyf helmet bres ar fy mhen, a phlat pres ar fy mrest a rhywbryd tua dau o'r gloch i chwi, gwelwn rhywbeth yn llifo hyd fy nhrowsus ac erbyn edrych 'r oedd yr helmet a'r plat yn brysur doddi, beth ydych chwi yn cwyno boys bach."
Mae yma wlad ryfeddol o dlos yn y rhannau a welais i hyd yn hyn, - y coed yn uchel a deiliog, a'u dail i gyd yn ysgwyd, crynu a murmur, fel pe baent yn ceisio deud rhywbeth na wyddom ni am dano, neu fel pe bai hiraeth siomedig o Gymru yn dod yn 么l yn athrist ar 么l methu cael hyd i rywun sy'n huno yn "Rhywle yn Ffrainc".
Gwelais yma lwyni o rosynnau, 'r oedd gwefusau pob rhosyn mor ddisglair a gwridog a 'thai myrddiwn o gusanau yn cysgu ynddynt, a chan fod y tywydd mor hyfryd ceir yma olygfa dlos tuhwnt yn oriau y machlud a'r haul yr ochr draw i fataliwnau o goed yn myned i lawr mor odidog a hardd ag angel yn myned ar d芒n.
Ymhen ennyd gwelid llen denau o liw gwaed tros y gorwel a rhyw felyndra tebyg i liw briallu wedi eu gyfrodeddu ynddi, ond y peth tlysaf a welais i hyd yn hyn oedd corff hen 'shell' wedi ei droi i dyfu blodau: 'roedd coeden fechan werdd yn cuddio rhan uchaf yr hen 'shell' a naw neu ddeg o flodau bychain i'w gweled cyd-rhwng y dail yn edrych mor ddibryder ag erioed.
Dyma i chwi brawf fod tlysni yn gryfach na rhyfel onide?, a bod prydferthwch i oroesi dig; ond blodau prudd fydd blodau Ffrainc yn y dyfodol, a gwynt trist fydd yn chwythu tros ei herwau, achos fe fydd lliw gwaed yn un a s诺n gofid yn y llall.
Mae yma lawer math o bobol i'w gweled o gwmpas yma, gwelais lawer o Rwsiaid a difyr yw cael hamdden i edrych ar y rhai hyn, a gwybod eu bod yn dystion o dragwyddoldeb eisoes, - eu gwlad, eu caethiwed hen, a'i deffro sydyn.
Mae yma Indiaid lawer hefyd, eu gwalltiau fel rhawn, a thywyllwch eu crwyn yn felynddu, a'u dannedd fel gwiail marmor, a dylanwad eu duwiau dieithr ar bob ysgogiad o'u heiddo.
Gwelais garcharorion Almanaidd hefyd, 'roedd cysgod ymerodraeth fawr yn ymddatod yn eu llygaid, a haen o dristwch yn eu trem.
Nid wyf fi wedi cyrraedd at berygl eto, ond yng nghanol nos byddaf yn clywed s诺n y magnelau fel ochneidiau o bell, hwyrach y caf fwy o hamdden a phrofiad i ysgrifennu fy llythyr nesaf. Cofiwch fi at bawb yn eich t欧 chwi ac o gwmpas.
Yr eiddoch fel arfer,
Hedd Wyn.
Darganfod y llythyr gwreiddiol