Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
'Dim ond pedair awdl a dderbyniwyd i
gystadleuaeth y Gadair, a bwriodd John Morris-Jones y bai am hynny ar y
ffaith fod dau destun tebyg wedi eu gosod ychydig cyn 1915, 'Gwlad y
Bryniau' (1909), 'Y Mynydd' (1912). Awdl ramantaidd ei dull a'i geirfa a
gafwyd gan T. H. Parry-Williams, ond, fel 'Y Mynydd', yr oedd yn sylfaen i
un o'i them芒u pwysicaf yn y blynyddoedd i ddod, sef ymlyniad wrth fro a
chanfod hunaniaeth yng nghyd-destun bro.
Y Goron
Testun. Pryddest: 'Y Ddinas'
Enillydd: T. H. Parry-Williams
Beirniaid: Alafon, Gwili, Eifion Wyn
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
'Roedd pryddest T. H. Parry-Williams yn
seiliedig ar ei brofiad o fyw ym Mharis yn fyfyriwr. Ni fynnai Eifion Wyn eichoroni. Fe'i condemniodd hi am ei bod yn gogoneddu hunanleiddiaid, ac
oherwydd ei bod yn anfoesol, yn enwedig y darn am y butain. 'Ni thrig dim da
yn ei Ddinas ... Cynwysa, ym mhob caniad, olud o iaith a meddwl; ond iaith
ydyw wedi ei throi'n drythyllwch, a meddwl wedi ei ddarostwng i
oferedd, 'meddai Eifion Wyn. Mewn gwirionedd, 'Y Ddinas' yw'r gerdd eisteddfodol
fodern gyntaf. ac mae'n arwyddocaol mai yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr y
lluniwyd y gerdd fodernaidd hon. Er mai yn y blynyddoedd 1909 颅 1915 y
cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr
Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn
hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a
oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd
ar eirfa'r Rhamantwyr. Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth,
realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a
hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol. Cafwyd
cnwd o gerddi modern/ realaidd ar 聽么l 1915 ac ar 么l y Rhyfel Mawr: cerddi
rhyfel Cynan, 'Atgof', a cherddi Caradog Prichard. Ym 1915 yr oedd un traddodiad ar ei wely angau a'r llall yn ei grud, a gwaith un bardd yn
dangos hynny yn glir.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|